Y Cyngor yn galw ar bobl i beidio â bwydo’r gwylanod
Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd Sir Ddinbych yn lansio ymgyrch i geisio lleihau’r problemau a achoswyd gan wylanod.
Mae’r Cyngor yn derbyn cwynion am wylanod yn rheolaidd ac ystyrir y gwylanod hyn yn niwsans mawr, yn bennaf o fewn cymunedau arfordirol, ond maent hefyd yn bresennol yn y cymunedau mewndirol.
Mae’r Cyngor bellach yn edrych ar ffyrdd i fynd i’r afael â’r mater hwn a bydd yn canolbwyntio ei ymdrechion ar annog preswylwyr ac ymwelwyr i beidio â bwydo’r gwylanod, yn gweithio gyda darparwyr bwyd i leihau gwastraff bwyd a sicrhau bod biniau gwastraff bwyd yn cael eu gorchuddio yn ddigonol.
Cynhelir yr ymgyrch ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Cyngor, ar ei gwefan, yn y wasg leol a thrwy weithio â chymunedau lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Cabinet Arweiniol Tai a’r Amgylchedd: “Rydym yn cydnabod yn llawn bod gwylanod yn rhan o fywyd bob dydd ym mhob cymuned arfordirol. Maent wedi bod yn bresennol ers sawl blwyddyn bellach ac maent yn parhau i ffynnu.
"Fodd bynnag, rydym yn derbyn cwynion yn rheolaidd gan breswylwyr ein cymunedau arfordirol, yn ogystal â rhai o’n trefi mewndirol, mewn perthynas â’r peryglon a achosir gan wylanod, yn enwedig pan maent yn cael eu denu at fwyd.
“Mae’r opsiynau sydd ar gael i’r Cyngor yn gyfyngedig, gan eu bod yn rhywogaeth a warchodir. Rydym wedi rhoi cynnig ar dechnegau i’w dychryn yn debyg iawn i’r balwnau ‘Angry Birds’ a’r netin/bynting sydd wedi cael eu darparu i rai ardaloedd ac sydd wedi llwyddo i raddau.
“Yr hyn rydym ei angen yw cefnogaeth y cyhoedd. Drwy beidio â bwydo gwylanod a sicrhau bod gwastraff bwyd wedi’i orchuddio, gall hyn leihau’r cyfleoedd i wylanod blymio ar ganol ein trefi.”