Mae tŷ hanesyddol yn Rhuthun wedi helpu pob oed i ddysgu am sut y gallan nhw wneud gwahaniaeth i natur leol.
Cynhaliodd Bionet eu hail Ddiwrnod Natur yn Nantclwyd y Dre, Rhuthun yn ddiweddar gan ddod â gwledd o addysg a gwybodaeth am natur ynghyd ar draws y rhanbarth.
Nod y diwrnod wnaeth ddenu bron i 300 o ymwelwyr i’r lleoliad hanesyddol oedd i helpu pobl ddeall rolau rhai o’r sefydliadau cadwraeth sy’n gofalu am natur ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru.
Roedd pobl o bob oed yn gallu sgwrsio gyda chynrychiolwyr o Bionet, Prifysgol Caer, Planhigfa Goed Cyngor Sir Ddinbych, Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog, Cysylltiadau’r Gylfinir Cymru, Natur er Budd Iechyd Cyngor Sir Ddinbych, Cyfeillion y Ddaear Rhuthun, Cadwraeth Glöynnod Byw Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru a Wild Ground.
Cynhaliwyd gweithgareddau hwyl i’r teulu drwy’r dydd gan gynnwys ‘creu eich gylfinir eich hun’, plannu eich blodau gwyllt eich hun, paentio wynebau, sesiynau adrodd straeon byw a gweithdai gwehyddu helyg.
Mae Bionet yn cwmpasu Sir y Fflint, Conwy, Sir Ddinbych a Wrecsam, ac yn gweithio i warchod, diogelu a gwella bioamrywiaeth yn y rhanbarth ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Dywedodd Clare Owen, Swyddog Prosiect BIONET: “Aeth y diwrnod yn dda iawn, roedd y tywydd yn dda ac roedd yn wych gweld pawb yn rhoi cynnig ar y gweithgareddau a gynhaliwyd a hefyd yn cymryd amser i ddysgu am y gwaith cadwraeth pwysig sy’n digwydd ar draws y rhanbarth Bionet. Ein nod oedd cysylltu pobl i natur ac yn seiliedig ar yr adborth a dderbyniwyd rydym yn bendant wedi cyflawni hynny. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb wnaeth gyfrannu ac i bawb oedd yn bresennol.”
Dywedodd Kate Thomson, rheolwr Tŷ Hanesyddol a Gerddi Nantclwyd y Dre: “Roedd yn wych croesawu cymaint o bobl, o bob oed, a oedd wir â diddordeb yn y sefydliadau cadwraeth ac eisiau gwybod sut y gallant gyfrannu at helpu i amddiffyn ein byd naturiol. Diolch yn fawr i bawb a fu o gymorth i’w wneud yn ddigwyddiad llwyddiannus yn Nantclwyd y Dre."
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth y Cyngor: “Mae Diwrnod Natur Bionet yn dod yn rhan gadarn o’r calendr sydd wirioneddol yn amlygu gwaith sefydliadau i ddiogelu ein natur leol. Mae’n wych gweld gymaint o bobl yn cymryd diddordeb yn ystod y diwrnod yn yr holl waith mae’r sefydliadau i gyd yn ei wneud mewn lleoliad treftadaeth mor hyfryd ac rwy’n gobeithio y bydd pawb wnaeth ymweld yn cael eu hysbrydoli o ran sut y gallan nhw eu hunain wneud gwahaniaeth i ddyfodol natur."