llais y sir

Llais y Sir: Mai 2022

Dathlu ein hawyr dywyll

Fel rhan o Wythnos Awyr Dywyll Cymru 2022 gyntaf erioed, mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, ochr yn ochr â pharciau cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol Cymru, wedi cymryd rhan mewn wythnos gyffrous o ddigwyddiadau wybrennol i ddathlu ein hawyr dywyll.

Dechreuodd yr wythnos gyda dwy sgwrs gyfareddol ar-lein: y gyntaf gan swyddog Awyr Dywyll Gogledd Cymru, Dani Robertson. Arweiniodd Dani noson gyfeillgar, llawn gwybodaeth gyda dros 50 yn cymryd rhan, gan egluro pwysigrwydd golau ystyriol a’r effaith ar fywyd gwyllt ar hyd a lled Cymru. Tynnodd Dani sylw hefyd at y gwaith diweddar ym Mharc Gwledig Loggerheads i ddarparu golau sy’n garedig i awyr dywyll yn yr AHNE. Yn ein hail sgwrs, croesawyd yr ymchwilydd PhD, Rochelle Meah, a rannodd ei gwybodaeth am effeithiau llygredd golau ar ymddygiad, gweithgaredd a gallu pryfaid cop a gwyfynod i lywio yn ystod y nos. Dilynwyd y sgwrs addysgiadol gan gyfoeth o gwestiynau gan wylwyr oedd â diddordeb ac a oedd eisiau dysgu mwy am sut y gallant helpu gyda chadwraeth.

Yn ystod yr wythnos, aeth grŵp mawr o sêr-dremwyr am dro yn ystod y nos i lethrau grugog Moel Famau. Wrth iddynt gario matiau a fflachlampau golau coch, nid oedd awyr y nos yn glir iawn ar y ffordd i fyny oherwydd y cymylau wedi’r stormydd diweddar. Ond wrth i’r noson fynd yn ei blaen, cliriodd y cymylau a gwirionodd y sêr-dremwyr pan welsant sioe o sêr a chytser yn goleuo’r nos. Disgleiriodd Rob Jones, sy’n frwdfrydig iawn am seryddiaeth, gyda’i wybodaeth am y cytser a ffeithiau am y system solar, a gwelwyd ambell i seren wib oedd yn goron ar noson wych.

Defnyddiwyd y Planetariwm chwyddadwy mewn prynhawn ysbrydoledig ac addysgiadol yn Neuadd Bentref Cilcain, dim ond un o’n gweithgareddau cyffrous yn ystod Wythnos Awyr Dywyll Cymru. Y tu mewn i’r gromen, cafodd dros 70 o ymwelwyr eu cyfareddu gan olygfeydd a straeon awyr y nos. Adroddwyd chwedlau am gytser Cymru i’r plant, oedd wedi eu swyno gan y sêr uwchben!

Yn ein digwyddiad olaf, croesawyd bron i 20 o drigolion i Blas Newydd, Llangollen i ddysgu am y gwyfynod gwych, gyda chyfle i’w gweld yn agos diolch i’r trapiau pryfaid a osodwyd dros nos. Cawsant gyfle hefyd i adeiladu eu blwch ystlumod eu hunain i fynd adref i helpu â chadwraeth bywyd gwyllt y nos yn yr AHNE.

Yn ystod yr wythnos, cofrestrodd nifer anhygoel, sef 300 o unigolion i fod yn sêr-dremwyr yr AHNE. Cawsant becyn gwybodaeth awyr dywyll a chanllaw i’r cytser drwy’r drws. Os hoffech chi gael pecyn am ddim, mae rhai ar gael i’w nôl o’r Ganolfan Wybodaeth ym Mharc Gwledig Loggerheads.

Rydym yn gobeithio ein bod wedi helpu ein cymuned i ddysgu, darganfod a chael eu hysbrydoli gan awyr y nos, ac wedi addysgu ein cymuned sut i amddiffyn ein hawyr i’r dyfodol. Mae cynnal digwyddiadau cyhoeddus yn un o blith nifer o ffyrdd y mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn amlygu mor bwysig yw Awyr Dywyll y Nos a’r ymdrechion sy’n cael eu gwneud i’w diogelu. Yn ystod y misoedd nesaf, bydd tîm yr AHNE yn cyflwyno cais i’r Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol am gydnabyddiaeth ffurfiol o rinweddau awyr y nos yma. I ddysgu mwy am Awyr Dywyll Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, ewch i’n tudalennau Awyr Dywyll.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...