llais y sir

Llais y Sir: Medi 2023

Tudalennau gwe newydd i hysbysu trigolion am gyllid y Cyngor

Mae'r Cyngor wedi lansio tudalennau gwe newydd i hysbysu trigolion am sut mae’n gosod ei gyllideb i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gyda ffocws ar sicrhau gwerth am arian.

Mae cyllid awdurdodau lleol yn gymhleth a thechnegol ac er bod llawer yn credu bod y Dreth Cyngor yn talu am ddarparu holl wasanaethau’r Cyngor, mae hyn ymhell o fod yn wir.  Mewn gwirionedd, dim ond chwarter o arian y Cyngor sy’n dod o Dreth y Cyngor.

Daw cyllid y Cyngor o nifer o ffynonellau gyda’i gyllideb net yn dod o dair prif ffynhonell:

  • 62% - Grant cynnal refeniw gan Lywodraeth Cymru
  • 13% - Ardrethi busnes sef treth eiddo a delir ar eiddo busnes ac adeiladau anomestig eraill i dalu am wasanaethau lleol
  • 25% - Treth Cyngor, sef y ffi flynyddol y mae trigolion yn ei dalu i Gyngor Sir Ddinbych

Dywedodd y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol, “Rydym yn credu ei bod yn hanfodol bod trigolion yn deall sut mae’r Cyngor yn cael ei ariannu, ac felly, sut caiff gwasanaethau eu cyllido. Mae llawer o gamddealltwriaeth ynghylch o ble daw’r arian, ac rydym am i drigolion gael gwell dealltwriaeth o sut y caiff eu harian ei wario.

“I fynd i’r afael â hyn, rydym wedi datblygu tudalennau gwe newydd gyda gwybodaeth am sut mae y Cyngor yn gwario ei arian. Y bwriad yw nodi’n glir ble rydyn ni’n cael ein cyllid, sut rydym yn gwario’r arian, rhoi trosolwg o gyllideb y Cyngor ac egluro i drigolion sut mae eu bil Treth Cyngor yn gweithio.”

I ddarganfod mwy am wariant y Cyngor, sut caiff y Cyngor ei ariannu ac am eich bil Treth Cyngor, ewch i dudalennau newydd sydd ar wefan y Cyngor gan ddefnyddio’r ddolen isod.

Sut mae’r Cyngor yn cael ei ariannu

Gallwch hefyd wirio faint rydych yn ei wybod am waith y Cyngor drwy gwblhau cwis cyflym drwy glicio ar y ddolen ganlynol >>> Cwis cyflym

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...