Ydych chi'n gwybod beth a sut i ailgylchu?
Ydych chi’n gwybod sut i ailgylchu eich hen feic, neu sut i gael gwared ar eich llenni rholer?
Mae'r Cyngor wedi lansio Canllaw Ailgylchu defnyddiol i’ch helpu chi ailgylchu cymaint â gallwch chi a chael gwared ar eich gwastraff yn ddiogel.
Mae’r canllaw sy’n hawdd ei ddefnyddio, yn cynnwys gwybodaeth yn nhrefn yr wyddor ar sut i ailgylchu neu gael gwared ar bron i bob eitem y gallwch feddwl amdanynt yn ddiogel.
Rydym yn taflu pob mathau o eitemau o’n cartrefi bob diwrnod, ac mae nifer o’r pethau hyn sy’n cael eu taflu i’r bin yn gallu cael eu hailgylchu, megis dillad ac eitemau trydanol. Mae’r unigolyn cyffredin yn creu oddeutu 7 gwaith eu pwysau mewn gwastraff bob blwyddyn, felly mae’n bwysig bod y gwastraff hwn yn cael ei ailgylchu cymaint â phosibl.
Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae’r canllaw hwn yn hawdd ei ddefnyddio ac yn darparu gwybodaeth wych ar sut i ailgylchu neu gael gwared ar bron i unrhyw wastraff cartref y gallwch feddwl amdanynt.
Mae hyn yn ein helpu ni i greu Sir Ddinbych mwy gwyrdd ac yn ein helpu i egluro unrhyw ddryswch o ran ailgylchu rhai o’r eitemau mwyaf cymhleth”.