Mae cystadleuaeth cefn gwlad wedi nodi diweddglo i 2024 gyda golygfeydd Dyffryn Clwyd yn gefndir i’r cyfan.

Eleni cynhaliwyd cystadleuaeth plygu gwrych Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych ar Fryniau Clwyd uwch ben Rhuthun.

Cymerodd bron i 40 o bobl, yn cynnwys gwirfoddolwyr, ran yn y gystadleuaeth, a gynhaliwyd ar dir o dan faes parcio Pen Barras sy’n edrych allan dros Ruthun.

Yn ychwanegol i gyfranogiad y gwirfoddolwyr, yr oedd hefyd gategori staff a oedd yn cynnwys cynigion gan Gadwch Gymru'n Daclus, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, Cyngor Sir y Fflint, a Gwirfoddolwyr Cadwraeth y Wirral yn ogystal â thimau o wahanol ardaloedd gwledig yn Sir Ddinbych, a gyda’i gilydd fe wnaethant blygu 104 metr o wrych.

Mae Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych, ynghyd â gwirfoddolwyr, yn plygu gwrychoedd yn rheolaidd ar draws y sir i gefnogi natur leol.

Mae ceidwaid a gwirfoddolwyr yn plygu gwrychoedd i adfer y gwrychoedd trwy dorri rhywfaint o goesau a’u gosod ar ongl i annog ail dwf a llenwi bylchau yn y gwrych.

Yn draddodiadol, mae’r sgil hon yn dechneg gyffredin a ddefnyddiwyd gan ffermwyr a thirfeddianwyr dros y gaeaf i reoli eu ffiniau. Daeth dulliau mecanyddol o gynnal a chadw gwrychoedd yn fwy cyffredin, ond mae astudiaethau wedi dangos bellach bod y dull hŷn hwn yn llawer mwy effeithiol ar gyfer aildyfiant gwrychoedd sydd fawr ei angen.

Wrth i’r gwrychoedd ddod yn fwy ffres ac iau yn eu hymddangosiad, mae’r dechneg hefyd yn galluogi i waelod y gwrych i dewychu gan roi cynefin fwy dwys er mwyn i fioamrywiaeth ffynnu.

Mae’r canlyniadau wedi’u cynnwys isod:

Gwirfoddolwyr:

  • 1af Ed a Huw (Gwirfoddolwyr Sir Ddinbych)
  • 2il Roger a Tery (Gwirfoddolwyr Sir Ddinbych)
  • 3ydd Pete a Peter (WCV)

Staff:

  • 1af Sasha a Rich (CSDd)
  • 2il Adrian a Gwyl (CSFf a CCD)
  • 3rd Vitor a Matt (CSDd) ar y cyd â Phil Lewis (Smithy farm)

Meddai’r Uwch Geidwad, Jim Kilpatrick: “Dyma leoliad gwych i ddathlu ein degfed digwyddiad plygu gwrych, mae pawb a fynychodd wedi gwneud gwaith gwych yn ystod diwrnod cystadleuol a hwyliog. Mae’r canlyniadau’n wych ac fe fydd yn helpu i wella bioamrywiaeth yn y rhan yma o Fryniau Clwyd.

“Mae’r digwyddiad yn ogystal â’r Gwasanaeth Cefn Gwlad wedi cael ei grynhoi’n grêt gan y tlysau a gafodd eu cyflwyno i’n henillwyr ar y diwrnod.

“Cafodd y rhain eu creu gan un o’n gwirfoddolwyr mwyaf ymroddedig. Nid yn unig y mae Steve yn dod i dri neu bedwar o ddigwyddiadau gwirfoddoli bob wythnos yn ddi-ffael, ond fe dreuliodd ei amser sbâr yn defnyddio pren a dorrwyd o safle yn ystod gweithgareddau gwirfoddoli a gwnïo menig gwrychoedd â llaw a’u gosod nhw drws nesaf i’r bilwg bychan ar gyfer y cystadleuwyr oedd yn ddigon ffodus o’u hennill nhw.

“Gyda’r holl brosiectau ar raddfa fawr yr ydym ni’n ymwneud â nhw, rhai o elfennau mwyaf calonogol y swydd yw gweld aelod o’r gymuned leol yn rhoi cymaint ond hefyd yn elwa’n aruthrol o’r hyn mae’r gwasanaeth yn ei gynnig.”

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Chefnogwr Bioamrywiaeth: “Mae gwrychoedd yn gynefinoedd hanfodol i’n bywyd gwyllt lleol, ac mae canlyniadau y gystadleuaeth wych hon mewn lleoliad arbennig yn gwneud cymaint o wahaniaeth i’r rôl sydd gan y safle wrth gefnogi natur. Da iawn i’r holl enillwyr ac i bawb a gymerodd ran am helpu i gadw hen sgil cefn gwlad wych yn fyw gan arwain at fanteision enfawr i’r tir a bioamrywiaeth.”