Hydref 2026

21/10/2026

Camu’n ôl mewn amser i glywed straeon am Rhuthun mewn digwyddiad treftadaeth yr hanner tymor hwn

Cynhelir digwyddiad rhad ac am ddim dan ofal Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru (sydd wedi’u lleoli yn Amgueddfa Carchar Rhuthun) ar 27 Hydref, fydd yn cynnwys ffilm, gweithgareddau creadigol a chyfleoedd i archwilio hanes lleol fel rhan o Ddiwrnod Treftadaeth Clyweledol y Byd 2026.

FfenestrWedi’i ysbrydoli gan thema eleni, sef “Eich Ffenestr ar y Byd”, bydd y digwyddiad yn dangos sut y gall archifau helpu pobl i ddarganfod safbwyntiau newydd am eu cymuned a’i hanes.

Bydd cyfle i ymwelwyr wylio ffilm arbennig wedi’i churadu sy’n olrhain hanes Rhuthun dros y degawdau, creu cardiau post wedi’u hysbrydoli gan archifau, ac archwilio arddangosfa o ffotograffau hanesyddol, gan gynnwys portreadau Fictoraidd Carte de Visite.

Caiff ffilm fer newydd ei dangos am y tro cyntaf yn ystod y prynhawn, sef ffim a gomisiynwyd gan Archifau Cymru, sy’n tynnu sylw at y straeon a’r trysorau sy’n aros i gael eu darganfod mewn archifau lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol Cyngor Sir Ddinbych dros Addysg a Phlant, y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth, “Mae archifau’n helpu i ddod â’n hanes yn fyw, gan ein cysylltu â’r bobl, y lleoedd a’r straeon sydd wedi siapio ein cymunedau. Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i drigolion ac ymwelwyr o bob oed archwilio treftadaeth Rhuthun, darganfod cofnodion hynod ddiddorol o’r gorffennol a hyd yn oed greu cysylltiadau â hanes lleol. Rwy’n annog pawb i ddod draw i weld trysorau ein harchifau.”

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim, yn addas i deuluoedd ac yn agored i bawb.

Manylion y digwyddiad

Beth: Diwrnod Treftadaeth Clyweledol y Byd 2026
Pryd: Dydd Mawrth, 27 Hydref, 1.30pm – 4.30pm
Ble: Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru yn Amgueddfa Carchar Rhuthun, Stryd Clwyd, Rhuthun, LL15 1HP

Comments