09/10/2026
Llyr Gruffydd AS yn dysgu am waith rheoli llifogydd naturiol Sir Ddinbych yn Llysfasi
Bu’r Gweinidog Cabinet y Senedd dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llyr Gruffydd AS, yn ymweld â Choleg Cambria Llysfasi ddydd Iau, 8 Hydref, i ddysgu mwy am y gwaith arloesol o reoli llifogydd naturiol sy’n cael ei gyflawni ledled dalgylch Clwyd gan Gyngor Sir Ddinbych.
Yn ystod yr ymweliad, clywodd y Gweinidog sut mae’r Cyngor wedi datblygu rhaglen uchelgeisiol o fwy na 15 o brosiectau rheoli llifogydd naturiol drwy gyllid Llywodraeth Cymru, gyda chwe chynllun eisoes wedi’u cwblhau. Mae’r ymyriadau wedi’u cynllunio i arafu llif dŵr a’i gadw yn y dirwedd am gyfnod hirach, gan helpu i leihau’r risg o lifogydd i gymunedau i lawr yr afon, tra hefyd yn gwella ansawdd dŵr, creu cynefinoedd a chryfhau gwydnwch amgylcheddol.
Roedd yr ymweliad yn arddangos y cynllun yn Llysfasi, sydd wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â staff Coleg Cambria, ac sy’n dangos sut y gall rheoli tir cynaliadwy gyfrannu at wydnwch rhag llifogydd wrth gefnogi ffermio cynhyrchiol. Mae’r prosiect hefyd yn darparu cyfleoedd dysgu gwerthfawr i fyfyrwyr, gan helpu i arfogi ffermwyr a rheolwyr tir y dyfodol â’r sgiliau sydd eu hangen i sicrhau cydbwysedd wrth gynhyrchu bwyd, gwella’r amgylchedd a chryfhau gwydnwch cymunedol.
Dywedodd Cathryn Hughes, Swyddog Lliniaru Llifogydd yn Sir Ddinbych: “Mae gweithio’n agos gyda ffermwyr, tirfeddianwyr, sefydliadau addysgol a Llywodraeth Cymru yn hanfodol os ydym am ddatblygu atebion ymarferol a chynaliadwy i’r risgiau llifogydd cynyddol sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd. Mae ymweliadau fel hyn yn gyfle ardderchog i ddangos sut mae rheoli llifogydd naturiol yn dod yn rhan bwysig o’n dull ehangach o leihau’r risg o lifogydd ar draws Sir Ddinbych a dalgylch Clwyd, gan hefyd sicrhau manteision i’r amgylchedd a chymunedau lleol.”
Dywedodd y Cynghorydd James Elson, Aelod Arweiniol Sir Ddinbych dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: “Rydym yn croesawu’r cyfle gwych hwn i dynnu sylw at y gwaith lliniaru llifogydd sy’n cael ei gyflawni drwy gyllid Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FCERM) Llywodraeth Cymru. Mae safleoedd Rheoli Llifogydd Naturiol, fel yr un yn Llysfasi, wedi bod yn rhan allweddol o uchelgais Sir Ddinbych ar gyfer rheoli risg llifogydd. Maent yn cynnig amddiffyniad i gymunedau a gwydnwch yn erbyn mwy o lifogydd, tra hefyd yn helpu’r Cyngor i gyflawni ei nodau ar gyfer Sir Ddinbych fwy Gwyrdd.”
Cafodd y cynllun rheoli llifogydd naturiol ei ddylunio gan WaterCo, a oedd hefyd yn cefnogi swyddogion Sir Ddinbych yn ystod yr ymweliad.
