Ionawr 2026

20/01/2026

Dyn o Lanelwy yn newid gyrfa i helpu i feithrin cefnogaeth barhaus i wasanaeth rheng flaen

Mae newid gyrfa gyda chymorth cynllun y Cyngor wedi ysbrydoli dyn o Lanelwy i gamu ymlaen i helpu i wneud gwahaniaeth i gymunedau lleol Sir Ddinbych ac amgylchedd y sir.

Bu Llais y Sir yn holi Owen Lokier, Arweinydd Tîm Wrth Gefn Gwastraff ac Ailgylchu i ddeall sut mae penderfyniad i newid gyrfa wedi helpu i gasglu gwybodaeth a phrofiad yn y gwasanaeth ar lefel broffesiynol a phersonol.

Meddai Owen: “Peiriannydd oeddwn i’n wreiddiol; roeddwn yn gweithio yn y diwydiant dur fel gwneuthurwr a weldiwr ac roeddwn awydd newid gyrfa.

“Ym mis Ionawr 2022, gwelais hysbyseb yn y cynllun Sir Ddinbych yn Gweithio am weithwyr casglu sbwriel, felly penderfynais fynd amdani.  Dechreuais y gwaith ym mis Ionawr, roedd yn gynllun tri mis yn gweithio o Ruthun, ac yn dilyn hynny cefais gontract llawn amser gyda’r Cyngor fel gweithiwr llwytho sbwriel.  Roedd y cynllun Sir Ddinbych yn Gweithio yn bendant yn ddylanwad cadarnhaol.”

Wedi gweithio fel gweithiwr llwytho am 12 mis, daeth cyfle i Owen ehangu ei sgiliau yn y gwasanaeth.

“Rhoddodd fy rheolwr atebol gyfle i mi yrru ein cerbydau cawell llai ddau ddiwrnod yr wythnos.  Roedd hyn yn cynnwys gyrru i fyny i ffermydd yn bennaf, mewn ardaloedd gwledig.  Roedd y swydd yn y de, o Drefnant yr holl ffordd i lawr i Langollen a rhoddodd syniad i mi o ochr yrru’r gwasanaeth.”

Ond ni wnaeth olwynion y gwasanaeth stopio troi yno i Owen, gan fod gyrru’r cerbydau llai wedi ei ysgogi i wneud ei drwydded LGV ail ddosbarth drwy gynllun gan Lywodraeth Cymru.

“Rhoddodd hyn gyfle i mi symud ymlaen i swydd gyrrwr llawn amser a ddaeth yn rhydd.  Felly, roeddwn wedi gweithio fy ffordd i fyny gyda chymorth Sir Ddinbych yn Gweithio i lwythwr ail radd, i’r bedwaredd radd yn gyrru cerbyd cawell llai ac yna gyda fy nhrwydded LGV roeddwn ar y bumed radd. 

“Dyna ble’r oeddwn wedi cyrraedd nes i ni ddod i Ddinbych ym mis Mehefin 2024. Roeddwn yn gallu neidio o un peth i’r llall ar y safle, yn cyflenwi dros fechgyn oedd i ffwrdd yn sâl ac un o’r manteision oedd fy mod yn dysgu llawer o rowndiau gwahanol ar hyd a lled y sir, a dysgais lawer iawn.

“Ond roedd heriau hefyd gan y byddech yn gwneud un peth un diwrnod a rhywbeth hollol wahanol y diwrnod canlynol, ond roeddwn yn mwynhau’r amrywiaeth a gweithio gyda thimau gwahanol.”

Roedd cyfarfod llawer o weithlu’r gwasanaeth o fudd i Owen gan ei fod yn gallu defnyddio ei brofiad i gefnogi’r gwasanaeth hyd yn oed yn fwy. Oherwydd ym mis Tachwedd 2024, bu Owen a chydweithiwr arall yn llwyddiannus wrth ymgeisio am ddwy swydd arweinwyr tîm wrth gefn oedd yn helpu i gyflenwi dros absenoldebau salwch a rheoli gwyliau o’r swyddfa.

Mae staff Gwastraff ac Ailgylchu hefyd yn gallu manteisio ar gyfleoedd hyfforddi, ac wrth wneud ei swydd bresennol, mae Owen yn gweithio tuag at fwy o gymwysterau gyda chefnogaeth Hyfforddiant Cambrian.

Eglurodd: “Mi wnes i gofrestru ar gwrs Diploma Lefel 3 mewn Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy ac rydw i’n astudio ar ei gyfer ar hyn o bryd. Rydw i’n gobeithio symud ymlaen o hyn i NVQ Lefel 4 i barhau i weithio fy ffordd i fyny.

“Mae Bev o Cambrian wedi bod yn gymorth mawr, mae’n deall bod gan ddysgwyr ffyrdd gwahanol o ddysgu. Rwy’n hoffi cael ychydig o ryddid i wneud y gwaith cwrs, rydym yn cyfarfod unwaith y mis a byddaf yn ceisio gwneud llawer ohono yn fy amser fy hun.”

Mae newid gyrfa i wneud gwahaniaeth i’r amgylchedd lleol drwy helpu preswylwyr gyda’u hailgylchu a gwastraff hefyd yn golygu llawer mwy o amser i ymgysylltu â chymunedau yn y sir yn ôl Owen.

Dywedodd: “Rwy’n mwynhau gweithio yn yr awyr agored a chysylltu â’r cyhoedd, sy’n beth mawr oherwydd rydych yn cael sylwadau cadarnhaol a rhai negyddol hefyd, ond rwyf bob amser yn ceisio troi’r pethau negyddol yn gadarnhaol.

“Rwyf wedi dweud erioed bod gweithwyr casglu sbwriel yn rhan o’r Cyngor y mae pawb yn eu gweld bob wythnos o’u bywydau.

“Os oes gan rywun broblem gyda’r palmentydd neu’r ffyrdd, byddwn yn clywed am hynny ac yn ceisio ei droi’n rhywbeth cadarnhaol bob amser. Rydym hefyd yn clywed llawer o bethau cadarnhaol yn enwedig dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd pan fyddwch yn edrych ar y bechgyn ac yn gweld mor ddiolchgar yw’r cyhoedd eu bod allan ym mhob tywydd 52 wythnos y flwyddyn.

“Hefyd, i bobl hŷn, mae’n bosib mai’r gweithwyr casglu sbwriel yw’r unig bobl heblaw’r postmon maen nhw’n ei weld mewn wythnos, felly pan oeddwn ar y rownd, byddwn yn ceisio treulio munud neu ddau yn dweud helo, sut ydach chi.  Mae hynny’n gwneud gwahaniaeth iddyn nhw hefyd.”

Ychwanegodd: “Yn gyffredinol, fel gyrfa mae’n wych, rydych yn cael gweithio yn yr awyr agored, ac mae’n dda i’r amgylchedd hefyd.”

A beth yw cyngor Owen i rywun sy’n ystyried newid gyrfa a symud i’r gwasanaeth?

Dywedodd: “Mae’r Cyngor yn awdurdod gwych i weithio iddo. Rhaid i chi fod yn barod i gael yr hyn rydych yn rhoi i mewn iddo allan ohono.  Felly, os byddwch yn dangos eich bod yn frwdfrydig, yn hyblyg ac yn barod i helpu eraill, mae hynny’n help mawr.  Mae gwaith tîm yn bwysig iawn yn y gwaith hwn … peidiwch â stopio, dangoswch eich bod yn barod i ddysgu a pharhau i osod targedau i chi eich hun.”

 

Comments