16/03/2026
Gwaredu tir yn ardal Ffrith, Prestatyn
Mae'r Cyngor yn ymwybodol o wybodaeth anghywir sy'n cael ei rannu mewn fforymau lleol i Brestatyn bod y Cyngor yn bwriadu gwaredu tir cyhoeddus yn Nhraeth Ffrith ym Mhrestatyn. Nid yw hyn yn gywir.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Cyngor hysbysiad 'gwaredu tir' yn ymwneud â 26 erw o dir sy'n eiddo i'r Cyngor sydd ar hyn o bryd yn cael ei reoli'n breifat o dan brydles i Lakeside Ltd, perchnogion Parc Carafanau Teithio Traeth Ffrith. Mae hyn yn golygu, os bydd y cytundeb gwaredu tir arfaethedig yn mynd yn ei flaen, y bydd Lakeside Ltd yn dod yn berchnogion rhydd-ddaliadol ar oddeutu 22 erw o dir sydd eisoes dan brydles ganddynt gan y Cyngor ar hyn o bryd. Defnyddir y 22 erw hwn o dir ar hyn o bryd fel parc carafanau ac ni fydd unrhyw newid defnydd o dan y cynigion.
Bydd 4 erw arall o dir sydd ar brydles i Lakeside Ltd ar hyn o bryd yn cael ei ddychwelyd i reolaeth y Cyngor a bydd tîm Mannau Agored y Cyngor yn gofalu amdano. Dyma'r darn bach o dir rhwng Parc Carafanau Traeth Ffrith, a Chanolfan Bowlio Dan Do Ffrith.
Mae'r map isod yn dangos yr ardal dan sylw ac yn egluro'r cynigion yn ardal Ffrith:

Ar hyn o bryd mae gan aelodau'r cyhoedd fynediad i'r darn hwn o dir trwy ganiatâd y llesddeiliaid presennol, Lakeside Ltd. Nid oes hawl tramwy cyhoeddus ac nid yw'n cael ei gynnal gan y Cyngor ar hyn o bryd. Mae dychwelyd y darn bach hwn o dir i reolaeth y Cyngor yn sicrhau'r tir fel man agored cyhoeddus ac yn sicrhau bod ei ddefnydd fel ffordd o gyrraedd y traeth yn ddiogel ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae Traeth Ffrith ei hun yn dir hygyrch i'r cyhoedd sydd am ddim i bawb ei fwynhau, a bydd yn parhau i fod felly.