Mawrth 2026

26/03/2026

Gofalwyr Maethu Cymru Sir Ddinbych yn cael mynediad am ddim i safleoedd treftadaeth

Mae gofalwyr maeth sy’n penderfynu maethu drwy’r awdurdod lleol bellach yn cael mwynhau mynediad am ddim i Garchar Rhuthun, Nantclwyd y Dre a Phlas Newydd fel rhan o becyn maethu Sir Ddinbych.

Llun: 

Mae’r ychwanegiad newydd hwn i’r pecyn maethu yn cael ei gyflwyno fel rhan o fenter drawsnewid y Cyngor sydd â’r nod o gynyddu nifer y gofalwyr sy’n maethu drwy Maethu Cymru Sir Ddinbych, er mwyn i blant allu derbyn gofal yn agosach at eu cymunedau a chyflawni gwell canlyniadau. 

Mae gofalwyr maeth sy’n maethu gyda’r awdurdod lleol yn cael cynnig pecyn eang a chynhwysfawr o bolisïau cynorthwyol, a bydd pob un ohonynt wedi cael eu cyflwyno erbyn mis Ebrill. 

Mae Cyngor Sir Ddinbych hefyd wedi cymeradwyo polisi ystyriol o faethu ar gyfer staff sy’n maethu gyda’r awdurdod lleol, sy’n gymwys i gael 5 diwrnod ychwanegol o absenoldeb arbennig.

Meddai Rhiain Morrlle, Pennaeth y Gwasanaethau Plant:

“Mae maethu’n brofiad trawsnewidiol gwerth chweil sy’n cael effaith enfawr ar fywyd y plentyn neu’r person ifanc yn ogystal â’r gofalwr maeth ei hun.

Mae ymweld â’n safleoedd treftadaeth yn ddiwrnod allan gwych i’r teulu cyfan, a’n gobaith yw y bydd gofalwyr maeth hen a newydd yn manteisio ar y cynnig arbennig hwn.”

Meddai Carly Davies, Swyddog Arweiniol Gwasanaeth Treftadaeth Cyngor Sir Ddinbych:

“Mae’n bleser mawr gennym ni gynnig mynediad am ddim i ofalwyr maeth fel rhan o ymrwymiad Cyngor Sir Ddinbych i gefnogi teuluoedd maeth. Rydym yn arbennig o falch o’r ffaith bod ein tri atyniad treftadaeth yn fannau croesawgar ac ystyriol o deuluoedd.

P’un a fyddwch chi’n dewis dilyn llwybr ‘Dianc o’r Carchar’ teuluol Carchar Rhuthun, archwilio bron i 600 mlynedd o hanes yn Nantclwyd y Dre drwy weithgareddau ymarferol fel gwisgo i fyny a llenwi Pasbort Teithio Drwy Amser, neu ddysgu am hanes hynod ddiddorol Merched Llangollen ym Mhlas Newydd a mwynhau picnic yn y gerddi, mae gennym ni rywbeth i’w gynnig i deuluoedd o bob oedran ei fwynhau gyda’i gilydd.”

I gael rhagor o wybodaeth am faethu, ewch i:

https://sirddinbych.maethucymru.llyw.cymru/

Comments