22/09/2026
Disgyblion Ysgol Gymraeg Henllan yn rhannu neges bwysig am bresenoldeb yn yr ysgol
Mae disgyblion Ysgol Gymraeg Henllan wedi rhoi cynnig ar fod yn gyflwynwyr newyddion er mwyn helpu i ledaenu neges bwysig am werth dod i’r ysgol bob dydd.
Cyn gwyliau’r haf, bu Miss Glover yn gweithio gyda disgyblion Blwyddyn 6 i greu fideo ar ffurf rhaglen newyddion, gan atgoffa disgyblion a theuluoedd o bwysigrwydd mynychu’r ysgol yn rheolaidd, cyrraedd ar amser ac, lle bo modd, osgoi mynd ar wyliau yn ystod tymor yr ysgol.
Gwnaeth y disgyblion waith gwych ac mae’r ysgol yn hynod falch o’r fideo gorffenedig – ac o’r neges bwysig y maent wedi’i rhannu.
Yn Ysgol Gymraeg Henllan, mae presenoldeb da yn flaenoriaeth allweddol. Mae mynychu’r ysgol yn rheolaidd yn rhoi cyfle i blant ddysgu, datblygu cyfeillgarwch, magu hyder a chymryd rhan yn y llu o weithgareddau a phrofiadau sydd ar gael drwy gydol y flwyddyn ysgol.
Mae gwella presenoldeb hefyd yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych, gyda’r ysgolion a’r partneriaid yn cydweithio i gefnogi plant a theuluoedd a helpu i sicrhau bod gan bob plentyn y cyfleoedd gorau posibl i lwyddo.
Mae’r ysgol yn deall bod gwyliau teuluol yn gyfle pwysig i dreulio amser gyda’n gilydd a chreu atgofion. Fodd bynnag, gall mynd ar wyliau yn ystod tymor yr ysgol olygu bod plant yn colli dysgu gwerthfawr a gall amharu ar eu trefn ddyddiol.
Mae pob diwrnod yn yr ysgol yn bwysig, ac mae’r ysgol yn annog teuluoedd i wneud y gorau o gyfnodau gwyliau’r ysgol lle bo modd, yn hytrach na gofyn am ganiatâd i gymryd gwyliau yn ystod tymor yr ysgol.
Diolch yn fawr i’r holl ddisgyblion, staff a rhieni a fu’n rhan o’r gwaith o greu’r fideo – rydyn ni’n meddwl eu bod wedi gwneud gwaith AMAZING!
Dywedodd Lynne Jones, Pennaeth Ysgol Gymraeg Henllan:
“Mae presenoldeb rheolaidd yn gwneud gwahaniaeth mawr. Rydym yn hynod falch o’n disgyblion Blwyddyn 6 am yr ymdrech y maent wedi’i rhoi i greu’r fideo hwn ac am rannu neges mor bwysig gyda’n cymuned ysgol.
“Gobeithio y bydd pawb yn mwynhau ei wylio gymaint ag y gwnaethom ni ei fwynhau wrth ei greu!”
Gallwch wylio'r fideo drwy glicio ar y ddolen yma, a fydd yn mynd a chi i dudalen Facebook yr ysgol.