llais y sir

Gwanwyn 2017

Polisi Cludiant o’r cartref i’r ysgol

Mae cyfle i drigolion y Sir gael dweud eu dweud ar fersiwn ddiwygiedig o'r Polisi Cludiant o’r Cartref i'r Ysgol ar gyfer disgyblion ar draws y sir.

Daeth y Polisi Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol cyfredol i rym o fis Medi 2015, ar ôl cytundeb gan y Cyngor yn 2014; y byddai adolygiad o'r polisi yn cael ei gynnal ar ôl bod ar waith am 12 mis.

Dywedodd Karen Evans, Pennaeth Addysg: “Mae'r Cyngor yn cydnabod roedd yna bryderon ynghylch elfen benodol o’r polisi presennol, ac rydym wedi ceisio ymdrin â’r pryderon hyn yn ôl yr angen.  Wrth weithredu’r polisi hwn, cytunodd y Cyngor y byddai’n cael ei adolygu ar ôl bod ar waith am flwyddyn.   Mae’r adolygiad hwnnw bellach wedi digwydd ac mae wedi ystyried adborth gan ysgolion, rhieni, cynghorwyr a chyngor drwy drafodaethau cyfreithiol.” 

“Mae un o'r prif newidiadau sy'n cael eu cynnig yn ymwneud â threfniadau ysgolion ‘bwydo’. Mae'r polisi presennol yn nodi y bydd cludiant o'r cartref i'r ysgol yn cael ei ddarparu i'r ysgol addas agosaf.  Mynegwyd peth pryder mewn rhai cymunedau am y mater hwn, ac erbyn hyn, y cynnig yw y bydd cludiant ysgol i ysgolion uwchradd yn seiliedig ar yr ysgol addas agosaf neu pa un ai fynychodd y disgybl ysgol fwydo gynradd ddynodedig. Bydd cludiant ar sail porthi yn cael ei ddarparu o dan drefniadau dewisol.”

“Yn ogystal, mae eglurder yn cael ei gynnig yn ymwneud â mannau codi a llwybrau peryglus, ac mae nodyn canllaw a oedd ar wahân yn flaenorol wedi cael ei ymgorffori yn y polisi diweddaraf.”

“Fel gyda’r polisi cyfredol, byddai’r Cyngor yn parhau i ddarparu cludiant i’r ysgol Gymraeg neu Ffydd addas agosaf, os mai hyn oedd dewis y rhieni/ gofalwyr.”

Gallwch weld y ddogfen ddiwygiedig ar wefan y Cyngor: www.sirddinbych.gov.uk/ymgynghoriadau. Gall bobl fynegi sylwadau drwy e-bost moderneiddio.addysg@sirddinbych.gov.uk neu yn ysgrifenedig: Tim Moderneiddio Addysg, Neuadd y Sir, Rhuthun, LL15 1YN. Y dyddiad cau ar gyfer sylwadau yw 30 Ebrill 2017

 

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...