llais y sir

Gwanwyn 2017

Goleuo Rhyl

Yn y cyfamser, mae gwaith paratoi wedi dechrau ar y cynllun diweddaraf sy'n rhan o'r briff ail-ddatblygu'r glannau yn Y Rhyl.

Mae gwaith paratoi cychwynnol wedi dechrau ar y Tŵr Awyr ar y promenâd wrth i’r Cyngor baratoi i ailwampio’r strwythur unigryw a’i drawsnewid yn oleufa statig.   Bydd y gwaith yn cynnwys paentio’r strwythur, gosod goleuadau a gosod palisau o amgylch gwaelod y strwythur.   

Cafodd y cynnig ei lunio gan Ion (Neptune gynt) fel rhan o gynigion datblygu glan y môr y Rhyl a bydd cwmni lleol Wynne Construction yn ymgymryd â’r gwaith.  

Mae hwn yn un o sawl prosiect ar y gweill ar hyd glan y môr.  Mae gwaith ailwampio allanol eisoes wedi dechrau ym Mhafiliwn y Theatr.   Bydd hyn yn cynnwys ffasâd newydd ar ochr yr adeilad a oedd yn arfer bod wedi’i uno i’r Heulfan, ail-baentio ac ailgladin ar brif adeilad y Theatr a chreu cyntedd mynedfa newydd. 

Mae gwaith ailwampio mewnol eisoes ar waith y tu mewn i’r adeilad.    Bydd gwaith yn cynnwys ailwampio’r bar yn llwyr, yn ogystal â chreu bwyty newydd.    

Mae gwaith hefyd ar y gweill i greu maes parcio newydd sbon wrth ymyl y theatr a rhoddwyd caniatâd cynllunio eisoes ar gyfer gwesty – Travelodge, tafarn/bwyty teulu – Marstons, trydydd uned fasnachol a gwaith ar faes parcio’r Pentref Plant.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...