Cyngor yn parhau i fod yn un o'r awdurdodau sy'n perfformio orau yng Nghymru
Mae'r Cyngor yn parhau i fod yn un o'r cynghorau sy'n perfformio orau yng Nghymru.
Mae ffigurau a gasglwyd gan yr Uned Ddata Llywodraeth Leol yn cymharu perfformiad cynghorau ledled Cymru ar amryw o faterion. O’i gymharu â chynghorau eraill, mae'r canlyniadau ar gyfer 2015/16 yn dangos bod Sir Ddinbych wedi perfformio yn yr hanner uchaf ar gyfer y rhan fwyaf o weithgareddau y cafodd eu hasesu.
Yn ôl y bwletin, roedd Sir Ddinbych ymysg y 5 awdurdod uchaf ar gyfer:
- Canran y priffyrdd a thir o lefel uchel neu dderbyniol o lendid (Sir Ddinbych oedd y perfformiwr gorau ar 100%). Yn ogystal, cyflawnodd y Cyngor berfformiad chwartel uchel ar gyfer canran o dipio anghyfreithlon y cafwyd gwybod amdanynt a gafodd eu clirio cyn pen 5 niwrnod gwaith
- Nifer cyfartalog y diwrnodau a gymerwyd i ddarparu Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl (Sir Ddinbych oedd y Cyngor a berfformiodd orau, yn 133 diwrnod), mae hyn yn welliant sylweddol ar berfformiad 2014/15 (178 diwrnod)
- Canran yr atgyfeiriadau amddiffyn oedolion lle rheolwyd y risg (Sir Ddinbych oedd y perfformiwr gorau ar 100%)
- Plant a fu ar un adeg yn derbyn gofal sydd mewn cysylltiad â'r awdurdod yn 19 oed (Sir Ddinbych oedd uchaf gyda 100%)
- Plant a fu ar un adeg yn derbyn gofal sydd mewn llety addas yn 19 oed (Sir Ddinbych yn uchaf gyda 100%)
- Plant a fu ar un adeg yn derbyn gofal y gwyddom sydd mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth yn 19 oed (80%)
- Trydydd nifer isaf o ddyddiau/sifftiau ar gyfartaledd fesul gweithiwr llawn amser a gollwyd oherwydd salwch (8.47 diwrnod/sifft)
- Canran y disgyblion a aseswyd sy'n cael Asesiad Athro yn y Gymraeg (iaith gyntaf) ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3 (21.27%)
- Canran o anheddau’r sector breifat (oedd yn wag am dros 6 mis) ac sy’n cael eu defnyddio unwaith eto (24.61%)
- Canran y plant sy'n derbyn gofal (ar 31 Mawrth) sydd wedi cael 3 neu fwy o leoliadau yn ystod y flwyddyn (8%)
- Canran o adolygiadau (plant sy'n derbyn gofal) a gynhaliwyd o fewn amserlenni statudol (96.33%)
- Canran y gwastraff trefol a gasglwyd a gafodd ei ailddefnyddio, ei ailgylchu, ei gompostio neu ei drin yn fiolegol (62.42%)
Dywedodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, yr Aelod Cabinet Arweiniol dros Gyllid, sydd â chyfrifoldeb am berfformiad busnes: “Mae'r adroddiad hwn yn braf iawn i’w ddarllen, ac mae’n adlewyrchu ymrwymiad ac ymroddiad y staff a'r cynghorwyr i sicrhau fod Sir Ddinbych yn parhau i fod yn awdurdod sy'n perfformio’n dda, gan ddarparu gwasanaethau o'r ansawdd gorau i'w drigolion a'i gymunedau.
“Mae'r penawdau yn adrodd cyfrolau, ac rydym yn falch o'n cyflawniadau. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod lle i wella bob amser, ac ni fyddwn yn cael agwedd hunanfodlon wrth i ni barhau i fod mor dda ag y gallwn ei fod ym mhob maes o’n gwaith”.