Staff carchar yn lansio llyfr plant
Yn ddiweddar cynhaliodd staff yng Ngharchar Rhuthun lansiad i ddathlu’r llyfr plant maent wedi ei greu ac a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
Mae ‘Straeon o’r Carchar’ ar gael yn Gymraeg a Saesneg ac yn adrodd stori Siocled a Fanila, dwy lygoden sy’n byw yng Ngharchar Rhuthun gyda’r carcharorion a gweithwyr y gegin.
Ysgrifennwyd y llyfr gan Margaret, Cynorthwyydd Treftadaeth, a cafodd ei ddarlunio gan Lynne (sef ‘y llygod’ yn y llun). Iwan Davies, aelod arall o’r tîm, ymdriniodd â’r lluniau’n ddigidol a John Myddleton gyfieithodd y llyfr i’r Gymraeg.
Fel arfer gellir gweld y tîm yn cyfarch ymwelwyr a chyflwyno teithiau tywys yn y Carchar, ac roedd creu'r llyfr yn rhywbeth roeddent am ei wneud i'r holl deuluoedd a’r plant maent yn eu cwrdd.
Dywedodd Margaret: “Mae plant wrth eu bodd yn ymweld â’r Carchar ac felly roeddem eisiau creu rhywbeth y gallant ei gludo gyda nhw a’i fwynhau, a hefyd helpu eu sgiliau darllen. Roedd yn ymdrech tîm - mae’r rhan fwyaf ohonom yn gyn-athrawon yn ein hail yrfaoedd ac mae hyn yn rhywbeth yr ydym yn gyffrous iawn yn ei gylch".
Ychwanegodd Lynne “Roedd y lansiad yn llawer o hwyl, roedd y plant ieuengaf yn wirioneddol hoffi'r dillad, fe fuom yn chwerthin gyda'r oedolion...a chawsom ambell i jôc am gaws!"
Dywedodd y Rheolwr Emma Bunbury: “Mae’r llyfr ar werth yn y Carchar ac mae wedi bod yn boblogaidd iawn, yn arbennig gyda'n cynulleidfa ieuengaf fel llyfr stori amser gwely. Rydym yn gobeithio eu gwerthu arlein ar ryw bwynt gan eu bod hefyd yn gwneud anrheg hyfryd ac am £2.95 maent yn ymddangos yn werth da am arian. Mae’r tîm yma yn y Carchar yn gweithio mor galed ac yn wirioneddol fwynhau croesawu pobl i ‘fywyd yn y carchar'. Mae ganddynt lawer o syniadau creadigol ac mae’n wych i weld eu llyfr ar werth yn y Carchar....yr unig beth sydd i'w wneud bellach yw eu perswadio i greu Cyfrol 2!"
