llais y sir

Newyddion

Creu sblash yn SC2

Mae SC2, atyniad newydd mwyaf cyffrous Gogledd Cymru, wedi agor ei ddrysau i’r cyhoedd.

Yn y dair wythnos arweiniodd at yr agoriad, roedd SC2 wedi croesawu 5,000 o bobl leol i fwynhau atyniadau’r ganolfan antur am ddim cyn yr agoriad swyddogol.

Mae miloedd o bobl leol wedi profi sleidiau gwefreiddiol y parc dŵr ac wedi herio’u hunain yn yr arenâu TAGactive ac agorwyd y ganolfan ar 5 Ebrill.

Mae’r parc dŵr sydd yn werth £15 miliwn yn cynnwys arena chwarae TAGactive cyntaf Cymru, chwaraeon dŵr dan do ac awyr agored i bob oedran a gallu, reidiau cafn, sleidiau nodwedd a bwytai â thema.  Bydd  yno hefyd far a theras a fydd ar agor yn dymhorol.

Rydym wedi cael adborth gwych a byddwn yn gwrando ar unrhyw awgrymiadau am sut y gallwn wneud profiad pobl yn SC2 hyn yn oed yn well.  Rydym wrth ein bodd bod agoriad SC2 wedi ysgogi cymaint o gyffro. Bydd SC2 yn atyniad i breswylwyr a thwristiaid fel ei gilydd ac mae’r ffaith y rhoddwyd cyfle i’r gymuned ymweld â’r safle cyn agor y drysau’n swyddogol yn dangos ymrwymiad Sir Ddinbych tuag at roi preswylwyr lleol yn gyntaf.  Rydym yn hynod o falch o’r atyniad cyffrous  hwn sydd yn  ychwanegiad rhagorol at bortffolio Hamdden Sir Ddinbych, sydd yn cynnwys cyfleusterau o’r radd flaenaf.

O ystyried yr ymateb i SC2 hyd yma, mae’n sicr o fod yn llwyddiant ysgubol.  Boed wedi dringo o amgylch TAGactive neu reidio’r sleid bwmerang gydag awch, mae’r rhai a fu’n profi’r atyniad yn llawn canmoliaeth.  Mae’r profiad cyfan wedi cael ei gynllunio’n ofalus gyda gwahanol themâu a bydd y padiau sblash allanol hefyd yn rhoi pleser mawr i bobl yn y Rhyl heulog. Mae hyn yn rhywbeth newydd a chyffrous nid yn unig i’r dref ei hun ond hefyd i ardal arfordirol Gogledd Cymru i gyd. Does dim byd tebyg i hyn am filltiroedd ac mae’r cyffro cyn y diwrnod agoriadol mawr yn cynyddu.

Yn ganolbwynt i raglen ddatblygu glan y môr y Rhyl, disgwylir i SC2 ddenu 350,000 o ymwelwyr ychwanegol i’r dref bob blwyddyn.

Mae SC2 wedi’i ariannu gan y Cyngor Sir gyda chyfraniadau gan Gyngor Tref y Rhyl a Llywodraeth Cymru.

Mae’r holl wybodaeth ddiweddaraf ar gael i ymwelwyr ar wefan SC2 ac ar eu cyfryngau cymdeithasol.

Cynlluniau ar gyfer manwerthu, bwyd a gofod marchnad ar gyfer Adeiladau'r Frenhines yn y Rhyl

Mae disgwyl i Adeiladau'r Frenhines yn y Rhyl fod yn rhan ganolog o adfywiad parhaus y dref.

Mae'r Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid datblygu sector preifat i ystyried sut i drawsnewid y safle yn gymysgedd bywiog o fanwerthu, bwyd a diod, marchnad gyfoes, gofod swyddfa a phreswyl wrth wella hygyrchedd o'r glannau a'r promenâd i ganol y dref.

Gallai cynlluniau hefyd gynnwys iard agored a gofod cyhoeddus yn y datblygiad £ 30 miliwn a mwy, sy'n cynnwys Gwesty'r Savoy gynt ac adeiladau Marchnad y Frenhines.

Mae gwaith bellach yn mynd rhagddo ar ddyluniadau, costau a hyfywedd cychwynnol y prosiect, sy'n rhan o weledigaeth hirdymor Canol Tref Y Rhyl gafodd ei rannu gyda’r cyhoedd yn yr hen Siop Awyr Agored Granite ddechrau Ebrill, cyn cyflwyno cais cynllunio yn ddiweddarach eleni.

Dywedodd Graham Boase, Cyfarwyddwr Corfforaethol yr Economi a Pherfformiad Cyhoeddus y Cyngor: “Rydym yn gweld Adeiladau'r Frenhines yn allweddol yn y gwaith o adfywio'r Rhyl. Bydd y safle hwn yn ganolog i gysylltu'r adfywio ar y glannau â chanol y dref a darparu cynnig gwych ynddo'i hun. Gall y prosiect hwn drawsnewid canol y dref.

“Ar ôl 12 mis o weithio gyda busnesau, preswylwyr ac ymwelwyr â'r Rhyl,  yr adborth oedd bod angen gofod marchnad fywiog ar ganol y dref i ddenu pobl i ganol y dref a chynyddu nifer yr ymwelwyr. Bydd hyn yn helpu i gefnogi a thyfu busnesau ac mae ein gweledigaeth yn gweld masnachwyr lleol, annibynnol yn ganolog i hyn, gan greu swyddi a chyfleoedd yn lleol.

“Mae rhannau o'r adeiladau mewn cyflwr gwael iawn ac er y byddwn yn ceisio cadw cymaint o'r bensaernïaeth wreiddiol â phosibl, mae'n anochel y bydd angen dymchwel rhai ardaloedd.”

Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych, Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop.  Ion Developments yw partner datblygu'r Cyngor ar gyfer y safle 97,000 tr sg.

Bydd y safle ar agor yn ystod y misoedd nesaf gyda deiliaid presennol yn parhau i fasnachu.

Yn ddiweddar, agorodd y Cyngor yr atyniad SC2 gwerth £ 15 miliwn ac mae buddsoddiad arall yn cynnwys bwyty 1891 ac ailfodelu Theatr y Pafiliwn, tra bod buddsoddiad y sector preifat a anogwyd gan y Cyngor wedi arwain at agor dau westy newydd.

Nid yw'r Cyngor a'r perchnogion blaenorol wedi dod o hyd i unrhyw rannau sy'n weddill o'r hen atyniad Little Venice,  er gwaethaf gwaith helaeth yn cael ei wneud ar yr adeilad dros nifer o flynyddoedd. Wrth i'r prosiect ddatblygu bydd gwaith cloddio pellach yn digwydd ar y safle.

Bydd ymgynghoriad cyn-gynllunio yn cael ei lansio yn ddiweddarach yr haf hwn gan gynnig cyfle i drigolion a busnesau ddweud eu dweud ar y cynlluniau mwy manwl fel rhan o'r ymgynghoriad prosiect parhaus.

Glanhau strydoedd Y Rhyl

Ymunodd nifer o sefydliadau yn y Rhyl yn ddiweddar fel rhan o ymdrechion i lanhau strydoedd y dref.

Roedd y fenter, dan arweiniad Tai ClwydAlyn a'i chefnogi gan y Cyngor Sir, Cadwch Gymru'n Daclus a'r gymuned leol yn targedu ardal Stryd Edward Henry yn Y Rhyl. Y nôd oedd mynd i'r afael â phroblemau sbwriel, troseddau amgylcheddol, tipio anghyfreithlon ac addysgu'r cyhoedd am yr angen i waredu eu sbwriel yn y ffordd briodol.

Llenwyd nifer o sgipiau yn ystod y digwyddiad.

Dywedodd Laura Collins, Swyddog Tai gyda ClwydAlyn, a gydlynodd y fenter: “Rydym wedi bod yn casglu sbwriel yn yr ardal, yn siarad â thenantiaid ac yn darparu gwybodaeth ar faterion fel ailgylchu. Rydym hefyd wedi clirio rhywfaint o sbwriel o'u cartrefi ac wedi clirio eu hiardiau. Bu'n fater o guro ar ddrysau a rhoi gwybod i bobl beth sy'n digwydd. Cawsom ymateb cadarnhaol gyda nifer o breswylwyr yn cymryd rhan yn y gwaith clirio gwirioneddol.

“Mae'n wych gweld y preswylwyr yn ymfalchïo yn eu hardal leol ac yn cefnogi'r fenter hon i wneud y Rhyl yn lle gwych i fyw ynddo.”

Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Sir Ddinbych: “Mae gwaith helaeth eisoes wedi mynd ymlaen yng Ngorllewin y Rhyl i lanhau'r strydoedd ac mae'r ymdrechion hynny'n talu ar ei ganfed. Mae strydoedd yn lanach nag erioed o'r blaen ac rydym yn gweld gostyngiad yn y tipio anghyfreithlon y mae sbwriel yn cael ei daflu ar y stryd ac yn arbennig mewn lonydd cefn.

“Mae llawer llai o sbwriel ar y strydoedd, mae pobl wedi bod yn ailgylchu mwy ac maen nhw wedi bod yn rhoi gwastraff allan ar ddiwrnodau priodol. Y cam nesaf yw ceisio ymgysylltu â phreswylwyr - er mwyn helpu i wella'r strydoedd ymhellach a cheisio atal tipio anghyfreithlon rhag digwydd.

“Rydym hefyd am i drigolion hysbysu'r Cyngor os ydynt yn gwybod pwy sy'n gyfrifol am ddympio sbwriel a thipio anghyfreithlon pan fydd yn digwydd”.

Roedd Shane Hughes, Swyddog Prosiect gyda Chadwch Gymru'n Daclus, yn rhan o'r gwaith clirio. Dywedodd: “Rydym yn hoffi gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill. Mae'n beth da i'w wneud, gan weithio gyda'r gymuned, ClwydAlyn a'r Cyngor mewn dull aml-bartner i waredu sbwriel ac mae'n un o'r ffyrdd gorau o fynd i'r afael â phroblem fel hon pan fyddwch chi'n cael nifer o asiantaethau i gymryd rhan”.

Lansio arolwg i ofalwyr sy’n oedolion yn Sir Ddinbych

Mae arolwg wedi’i lansio er mwyn helpu i wella’r cymorth a roddir i ofalwyr sy’n oedolion yn Sir Ddinbych.

Fel rhan o waith y Cyngor i gefnogi gofalwyr, mae’r arolwg yn holi ynglŷn â mynediad at wybodaeth, cyngor a chymorth gyda’r nod o wella’r hyn sydd ar gael.

Un o flaenoriaethau’r Cyngor yw gweithio gyda phobl a chymunedau i hybu annibyniaeth a chadernid, ac mae cefnogi gofalwyr yn rhan o hynny.

Mae arnom ni eisiau gwella’r gefnogaeth rydym ni’n ei chynnig i ofalwyr yn Sir Ddinbych, ac i wneud hynny mae arnom ni angen eich cymorth chi.

Rydym yn cydnabod bod pobl sy’n gofalu am deulu a ffrindiau yn chwarae rhan bwysig iawn o ran helpu’r bobl hynny i aros yn eu cartrefi eu hunain yn hirach. Rydym eisiau sicrhau bod ein trigolion sy’n gofalu yn cael mynediad at wybodaeth, cyngor a chymorth o’r radd flaenaf i hybu eu canlyniadau llesiant personol, yn ogystal â sicrhau fod gan y Cyngor brosesau cadarn a llwybrau pendant ar gyfer adnabod gofalwyr sydd angen cymorth.

Rydym hefyd am gefnogi’r holl ofalwyr i gyflawni eu targedau addysgol a pharhau â’u datblygiad addysgol os dymunant, a chynnig mynediad at gyfleoedd hamdden addas a chynhwysol.

Mae tua 370,000 o bobl ledled Cymru yn ofalwyr, yn rhoi cymorth i rywun annwyl sy’n hŷn, yn anabl neu’n ddifrifol wael, ac mae 11,600 o’r gofalwyr hynny yn byw yn Sir Ddinbych.

Gallwch gymryd rhan yn yr arolwg os ydych chi’n oedolyn sy’n darparu cymorth a chefnogaeth yn rheolaidd heb dâl i aelod o’r teulu, partner neu ffrind sy’n fregus neu’n anabl, sydd â phroblemau iechyd corfforol neu feddyliol, neu sydd â phroblemau o ran camddefnyddio sylweddau.

Mae arolwg ar wahân eisoes wedi’i gynnal ar gyfer gofalwyr dan ddeunaw.

I gwblhau’r arolwg ewch i'n gwefan

Llyfryn treth y cyngor yn fyw ar lein

Mae 'Eich Arian', ein canllaw i bob peth sy'n ymwneud â threth y cyngor bellach wedi mynd yn fyw ar-lein.

Yn ddiweddar, gosododd y Cyngor ei gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20. O ran y dreth gyngor, golyga hyn gynnydd o 6.35% ar gyfer trigolion Sir Ddinbych (mae hyn yn cymryd i ystyriaeth y cynnydd yn elfen y cyngor sir, yn ogystal â praeseptau'r cyngor tref / dinas / cymuned a'r Comisiynydd).

Bob blwyddyn, mae'r Cyngor yn cynhyrchu llyfryn sy'n egluro'r holl ffeithiau a ffigurau y tu ôl i'r setliad treth gyngor, sut y caiff yr arian hwnnw ei wario a manylion ar sut i dalu eich biliau.

Mae'n rhoi gwybodaeth am ardrethi busnes, gostyngiadau rhyddhad busnesau bach a pha fath o gymorth sydd ar gael os yw preswylwyr yn cael trafferth talu eu treth gyngor.

Gellir dod o hyd i'r llyfryn ar ein gwefan.  

Yr Urdd: Paratoi i groesawu Cymru i Sir Ddinbych

Mae’r bwrlwm a’r cyffro wrth i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ddychwelyd i’r sir yn 2020 yn parhau ac yn y Cyngor rydym ni'n paratoi i groesawu gweddill Cymru i’n sir brydferth.

Fe fydd gan y Cyngor stondin yn Eisteddfod yr Urdd sydd yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd dros wyliau'r Sulgwyn. Fe fyddwn yn hyrwyddo lleoedd i aros yn y sir, yn ogystal â lleoedd i ymweld â nhw a phethau i’w gwneud. Rydym yn gobeithio y bydd pobl fydd yn ymweld â'r eisteddfod yn y brifddinas yn meddwl am ddychwelyd i Sir Ddinbych y flwyddyn nesaf ac y byddant yn trefnu eu llety cyn gynted â phosibl.

Ym Mai 2020 mae disgwyl y bydd dros 120,000 o bobl yn ymweld â'r Eisteddfod am y dydd neu i gystadlu ac rydym yn paratoi i ddarparu croeso mawr. Mae cymunedau ar draws Sir Ddinbych eisoes wedi casglu miloedd o bunnoedd tuag at y gost o gynnal y digwyddiad, gyda channoedd o ddigwyddiadau o bob math wedi eu cynnal i godi arian ar draws y sir.

Yn dilyn yr Eisteddfod ym Mae Caerdydd bydd ein sylw ar y seremoni gyhoeddi a fydd yn cael ei chynnal ym Mhrestatyn ym mis Hydref.

Am fwy o wybodaeth am yr Urdd ewch i: http://www.urdd.org/

Dewis Cymru

Dewis Cymru YW’R lle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall.Dewis 2

Wrth sôn am eich llesiant, nid eich iechyd chi yn unig sydd dan sylw. Rydym yn golygu pethau fel ble rydych chi’n byw, pa mor ddiogel rydych chi’n teimlo, mynd allan ac o gwmpas y lle, a chadw mewn cysylltiad â’ch teulu a’ch ffrindiau.

Nid oes dau unigolyn sydd yr un fath ac mae llesiant yn golygu pethau gwahanol i bobl wahanol. Felly mae Dewis Cymru yma i’ch helpu i gael gwybod mwy am yr hyn sy’n bwysig i chi.

Mae gennym ni wybodaeth sy’n gallu eich helpu i feddwl am yr hyn sy’n bwysig i chi, yn ogystal â gwybodaeth am bobl a gwasanaethau yn eich ardal chi sy’n gallu’ch helpu gyda’r pethau sy’n bwysig i chi.

Os hoffech chi wybod mwy am sut i ddefnyddio Dewis Cymru i’ch helpu i benderfynu beth sy’n bwysig i chi, cliciwch yma.

Sut i ddefnyddio Dewis Cymru

Os oes gennych chi wasanaeth sy’n helpu pobl gyda’u llesiant, gallwch chi ychwanegu’ch manylion chi at Dewis Cymru, er mwyn i bobl rydych chi am eu helpu a’u cefnogi ddod o hyd i chi’n haws. Does dim gwahaniaeth pa mor fawr neu fach ydych chi, neu ai gwirfoddolwyr ydych chi - os ydych chi’n helpu pobl gyda’u llesiant, mae Dewis Cymru eisiau gwybod amdanoch chi a’r hyn rydych chi’n ei wneud, er mwyn i ni gyfeirio pobl i gysylltu â chi!

Os hoffech chi ychwanegu manylion eich gwasanaeth chi at Dewis Cymru, cliciwch yma.

Dewis 1 Welsh

Bilio di-bapur

A oeddech yn gwybod y gallwch drefnu i dderbyn eich biliau ar e-bost yn hytrach nag i fersiwn bapur gael ei phostio. Mae hon yn ffordd effeithiol ac effeithlon o ddarparu ac mae hefyd yn ein helpu i leihau gwariant ar bostio a phacio. Unwaith y byddwch wedi eich cofrestru byddwch yn derbyn unrhyw filiau treth cyngor blynyddol, cau biliau ac addasiadau yn eich e-bost.

Bydd angen i chi fewngofnodi neu gofrestru eich cyfrif i dderbyn eu biliau a hysbysiadau drwy eich e-bost. 

Dyma Rhian Hughes i esbonio mwy:

Am fwy o wybodaeth ewch i'n gwefan.

Y Cyngor i gynnal digwyddiadau yn ystod Wythnos Gofalwyr 2019

Wythnos 10 - 16 Mehefin fydd Wythnos Gofalwyr pan fydd nifer o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal.

Ymgyrch flynyddol yw Wythnos Gofalwyr i godi ymwybyddiaeth o ofalu, i amlygu'r heriau sy’n wynebu gofalwyr di-dâl a chydnabod y cyfraniad y maent yn ei wneud i deuluoedd a chymunedau ar hyd a lled y DU, a’r thema eleni yw Cysylltu Gofalwyr gyda’u Cymunedau.

Mae'r Cyngor wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth a NEWCIS a gofalwyr lleol i ddatblygu cynnyrch newydd ar gyfer gofalwyr sy’n rhoi gwybodaeth iddynt am ffynonellau o gefnogaeth a gwasanaethau lleol.

Mae’r digwyddiad lansio yn cael ei drefnu i gyd-fynd ag Wythnos Gofalwyr, gyda rhagor o fanylion i'w cyhoeddi, gyda sefydliadau trydydd sector hefyd yn cynnal digwyddiadau ar draws y sir.

Fel rhan o’i Gynllun Corfforaethol, mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi gofalwyr drwy wella’r Gwasanaethau sy’n bodoli eisoes a sicrhau bod gofalwyr ifanc, rhieni ac oedolion yn ymwybodol o’r gwasanaethau a’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt.

Bydd manylion am ddigwyddiadau’r Cyngor yn cael eu cyhoeddi ym mis Mai a gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Wythnos Gofalwyr yn www.carersweek.org/about-us-getting-carers-connected

Dweud eich dweud!

Bydd Diwrnod Etholiadau Senedd Ewrop yn cymryd lle ddydd Iau, 23 Mai.

Mae gan breswylwyr tan ddydd Mawrth, 7 Mai i gofrestru i bleidleisio os nad ydynt eisoes ar y Gofrestr Etholwyr. Y dyddiad cau i wneud cais ar gyfer pleidlais drwy'r post yw dydd Mercher, 8 Mai (5.00pm) ac ar gyfer pleidleisiau drwy ddirprwy, dydd Mercher, 15 Mai (5.00pm)

Dywedodd Judith Greenhalgh, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych: “Mae’n hollbwysig bod pobl yn cael y cyfle i gymryd rhan yn yr etholiad hwn, ac yn osgoi colli allan oherwydd nad ydynt wedi cofrestru. Mae ein Tîm Gwasanaethau Etholiadol profiadol ar gael i ddarparu cyngor a gwybodaeth i bleidleiswyr.

“Ni ddylai pobl gymryd arnynt y gallent bleidleisio oherwydd eu bod wedi cofrestru i bethau eraill megis Treth y Cyngor. Os oes amheuaeth, dylai preswylwyr gysylltu â’n Tîm Gwasanaethau Etholiadol i wirio a ydynt wedi cofrestru i bleidleisio.”

Dim ond ychydig o funudau y mae'n cymryd: cofrestrwch ar-lein neu ffoniwch 01824 706000.

Mae rhestr lawn o ymgeiswyr ar gael ar wefan Swyddog Canlyniadau Rhanbarthol Cymru.

 

Gwastraff ac Ailgylchu

Teulu o Ddyffryn Clwyd yn cefnogi’n hymgyrch gwastraff bwyd

Mae teulu o bump o Ddyffryn Clwyd yn ymuno â'r Cyngor i annog mwy o bobl yn y sir i ailgylchu eu gwastraff bwyd.

Mae Lucy Owens a'i gŵr Sion a'u plant Betrys (7), Roly (4) a Cled (1) yn byw yn Rhewl ger Rhuthun ac wedi cytuno i ymuno ag ymgyrch y Cyngor i annog mwy o bobl i ailgylchu eu gwastraff bwyd, cyn newidiadau i'r gwasanaeth ailgylchu a chasglu gwastraff, a ddisgwylir yn 2021.

Dros y misoedd nesaf, bydd y teulu yn rhannu eu profiadau a'u syniadau am ailgylchu bwyd trwy gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Sir Ddinbych, gwefan y Cyngor a thrwy greu cyfres o fideos.

Mae Lucy yn gefnogwr brwd o faterion amgylcheddol ac yn siarad ag ysgolion a grwpiau cymunedol: “Rhaid i mi gyfaddef nad ydym bob amser wedi bod yn wych mewn ailgylchu ond dros y chwe mis diwethaf rydym wedi sylweddoli bod yn rhaid i ni wneud rhai newidiadau i'n er mwyn diogelu dyfodol ein plant mewn gwirionedd, felly rydym wedi bod yn ceisio gwneud ein gorau i leihau'r hyn yr ydym yn ei ddefnyddio a'i ailgylchu yn y diwedd.

“Rydym yn defnyddio'r gwasanaeth gwastraff bwyd bob wythnos. Mae'n wasanaeth wythnosol, a gesglir bob wythnos ac ni allaf weld pam na fyddem yn ei ddefnyddio. Dylem i gyd sicrhau bod pethau y byddwn yn eu rhoi yn y biniau glas yn gwbl ailgylchadwy hefyd. “Felly rydym yn defnyddio'r gwastraff bwyd yn bennaf ar gyfer bwyd wedi'i goginio.  Mae'n weddol hawdd, mae'n golygu cymryd yr amser i'w wneud - rwy'n credu y bydd yn beth cadarnhaol.

Dywedodd Sion: “Rydym yn ceisio rhoi cymaint â phosibl yn y biniau glas ac i mewn i'r cadis bwyd oren. Nid yw bob amser yn hawdd ond pan welwch raglenni ar y teledu sy'n dangos yr effaith ar yr amgylchedd a'r byd, mae'n gwneud i chi feddwl ac yn eich annog i wneud cymaint ag y gallwch."

Dywedodd Tony Ward, Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol: “Rydym wrth ein bodd bod y teulu Owens yn ymuno â'n hymgyrch i hyrwyddo ailgylchu gwastraff bwyd yn y sir. Mae ganddynt agwedd wych at ailgylchu ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda nhw dros y misoedd nesaf, i glywed eu profiadau drostynt eu hunain ac i gymryd unrhyw adborth sydd ganddynt i ystyriaeth ”.

Twristiaeth

Ffilm yn dangos cyrchfannau poblogaidd i dwristiaid yn Sir Ddinbych

Mae ffilm newydd sbon sy’n hyrwyddo profiadau ac atyniadau twristiaeth allweddol yn Sir Ddinbych wedi'i lansio i gyd-fynd â Blwyddyn Darganfod Croeso Cymru.

Mae’r ffilm yn cynnwys cyrchfannau allweddol gan gynnwys yr SC2 newydd sbon yn y Rhyl, Traeth Barkby Prestatyn, Castell Dinbych, Cadeirlan Llanelwy, Nantclwyd y Dre, Carchar Rhuthun, Canolfan Grefft Rhuthun, Dinas Brân, Rheilffordd Llangollen, Plas Newydd ac Abaty Glyn y Groes.  Mae'r fideo hefyd yn hyrwyddo amrywiaeth o brofiadau megis syrffio barcud yn Y Rhyl, seiclo ar Fwlch yr Oernant, paragleidio yn Llangollen, beicio mynydd yn One Planet Adventure a phadlo bwrdd ar droed ar Afon Dyfrdwy. 

Lansiwyd y ffilm yn y Fforwm Twristiaeth diweddar, lle y daeth bron i 100 o bobl ynghyd i wrando ar siaradwyr gwadd, gan gynnwys Urdd Gobaith Cymru a Banc Datblygu Cymru. Cynhelir y Fforwm ddwywaith y flwyddyn ac mae wedi profi i fod yn llwyddiant enfawr ar gyfer busnesau twristiaeth i ddysgu oddi wrth ei gilydd a datblygu partneriaethau newydd.

Mae’r ffilm hon wir yn dangos harddwch Sir Ddinbych, o Langollen a Dyffryn Dyfrdwy yn y de i’r trefi arfordirol yn y gogledd megis Prestatyn a’r Rhyl. Gyda’r prif dymor ar gyfer twristiaeth yn agosáu ac agoriad diweddar SC2 yn y Rhyl, rydym yn annog ymwelwyr yn ogystal â phobl leol i ail-ddarganfod ein rhan ni o Ogledd Cymru.

Mae Gogledd Cymru yn prysur ddatblygu'n gyrchfan enwog fel prif leoliad antur, ac mae’r ffilm wir yn amlygu’r profiadau amrywiol a hygyrch sydd ar gael yn y sir ar gyfer pob oedran a diddordeb.

Mae’r ffilm hwn wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Mae’n ffurfio rhan o brosiect Llysgenhadon Twristiaeth Sir Ddinbych a gaiff ei lansio’n fuan. Y nod yw gwella’r profiad i ymwelwyr drwy ddarparu modiwlau hyfforddiant ar-lein ynghylch cynnig twristiaeth Sir Ddinbych.

I weld y ffilm, ymwelwch â thudalen Facebook neu Sianel YouTube Gogledd Ddwyrain Cymru.

Rhuthun yw tref gyntaf Sir Ddinbych i groesawu bysiau

Cyhoeddwyd Rhuthun fel tref gyntaf Sir Ddinbych i groesawu bysiau. Mae’r dref wedi cael statws Tref Croesawu Bysiau gan y Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr (CPT). Mae Rhuthun yn ymuno â dim ond llond llaw o lefydd eraill sydd wedi derbyn y statws yng Nghymru – yn bennaf Betws-y-Coed, Conwy, Llandudno a Chaerdydd.

Meddai Heather Williams, cynghorydd tref Rhuthun a Chadeirydd y gweithgor wedi’i sefydlu i gyflawni’r statws hwn, “Ychydig flynyddoedd yn ôl dyma dîm Digwyddiadau a Marchnata Twristiaeth Cyngor Sir Ddinbych yn gwahodd cynrychiolwyr o gynghorau tref/dinas Sir Ddinbych i fynd ar siwrnai addysgol i Fetws-y-Coed. Tra oedden ni yno cafwyd trafodaethau gyda Rheolwr Cyrchfan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ynglŷn â sut y mae sir Conwy wedi cyflawni statws croesawu bysiau ar gyfer tair tref.”

“Yn dilyn yr ymweliad fe sefydlodd Cyngor Tref Rhuthun weithgor i asesu sut y gallai Rhuthun gwrdd â’r meini prawf angenrheidiol i gwrdd â statws croesawu bysiau. Rydym bellach yn falch iawn o fod wedi derbyn y teitl mawreddog hwn. Gobeithio y bydd y statws newydd hwn yn golygu y bydd y dref yn atynnu mwy o deithiau bws, ac felly rhagor o ymwelwyr i'r dref hanesyddol a deniadol hon. Mae gan Ruthun gymaint i’w gynnig, fel y Ganolfan Grefft sy’n adnabyddus yn rhyngwladol, y Carchar diddorol ac adeilad hanesyddol Nantclwyd y Dre.”

Y meini prawf ar gyfer derbyn statws croesawu bysiau yw cynnwys arwyddion clir i fysiau sy’n ymweld, digonedd o lefydd parcio i fysiau, cyfleusterau i grwpiau a gwefan yn darparu gwybodaeth i grwpiau bysiau. Ychwanegodd Cyngor Tref Rhuthun wybodaeth ychwanegol i’w gwefan i roi gwybodaeth ymarferol a manylion ar atyniadau a llwybrau/teithiau i gwmnïau bysiau/trefnwyr grwpiau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan www.visitruthin.wales/about-ruthin

Y gobaith yw bod y teitl i Ruthun yn annog llefydd eraill yn Sir Ddinbych i weithio ar gyflawni statws croesawu bysiau er mwyn annog hyd yn oed mwy o ymwelwyr i'r sir.

Yn y llun:  Urddasolion yn cynnwys Heather Williams, cynghorydd tref Rhuthun a Chadeirydd Gweithgor Cyfeillgar i Fysiau Rhuthun; y Cynghorydd Peter Scott, Cadeirydd y Cyngor Sir; John Pockett, Cyfarwyddwr Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru; Anne Roberts, cynghorydd tref Rhuthun; Gavin Harris, Dirprwy Faer Cyngor Tref Rhuthun a Peter McDermott o dîm Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau'r Cyngor Sir.

Strategaeth Twristiaeth Cymru: ymunwch yn y sgwrs!

Yn 2020, bydd strategaeth dwristiaeth Cymru yn dod i ben ac mae Croeso Cymru yn dechrau meddwl am olynydd iddi. Cyn datblygu blaenoriaethau twristiaeth y dyfodol a’r economi ymwelwyr ehangach yng Nghymru, mae Croeso Cymru yn dymuno cael eich barn felly maent wedi lansio sgwrs ehangach am dwristiaeth yng Nghymru.

Mae’r sgwrs hon wedi dechrau gyda deg cwestiwn allweddol sy'n nodi rhai o heriau mawr y dyfodol i Gymru. Mae ganddynt ddiddordeb yn eich barn am y cwestiynau hyn... p’un a ydych yn ymwelydd, aelod o’r diwydiant twristiaeth neu unrhyw un sy’n byw yng Nghymru.

Fe allwch rhoi eich adborth yma neu e-bostiwch eich barn at dyfodol.twristiaeth@llyw.cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer atebion yw 31 Mai 2019.

Y digwyddiadau diweddaraf: 'Beth sy' Mlaen'?

Edrychwch ar lyfryn diweddaraf ‘Beth sy’ Mlaen’ i weld beth yw'r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal ar draws Sir Ddinbych tan diwedd fis Mai 2019.

Bydd copïau papur o rifyn Mehefin – Medi 2019 ar gael am ddim yn fuan mewn llyfrgelloedd lleol, canolfannau croeso a busnesau lleol. Fel arall edrychwch ar-lein ar wefan Gogledd Ddwyrain Cymru.

Sicrhewch eich bod yn derbyn y newyddion diweddaraf am dwristiaeth!

A hoffech chi glywed y newyddion diweddaraf am dwristiaeth yn Sir Ddinbych a Gogledd Ddwyrain Cymru?

Os hoffech chi, mae’n syml a hawdd i gofrestru >>> https://www.denbighshire.gov.uk/cy/ymwelydd/pethau-iw-gwneud/be-symlaen/ffurflen-ymaelodi-twristiaeth-sir-ddinbych.aspx

Ydych chi'n chwilio am leoedd newydd i ymweld â nhw eleni?

Oes angen ychydig o ysbrydoliaeth arnoch? Am syniadau ynglŷn â phethau i’w gwneud a lleoedd i ymweld â nhw yn ein cornel drawiadol o Ogledd Cymru, ewch i www.gogleddddwyraincymru.cymru.

Sir Ddinbych yn Gweithio

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio yn cefnogi Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL)

 

Mae Sir Ddinbych yn Gweithio wedi cychwyn ar fenter gyffrous newydd i gynorthwyo pobl nad ydynt yn siarad Saesneg na Chymraeg fel iaith gyntaf ar y llwybr tuag at gyflogaeth a lleoliadau gwirfoddoli ac i'w helpu nhw gyda chyfeiriadedd diwylliannol ac i integreiddio yn eu cymuned leol fel nad ydynt mor ynysig yn gymdeithasol. Mae’r cyrsiau ESOL yn cael eu darparu mewn partneriaeth ag Addysg Oedolion Cymru.

Mae’r dosbarthiadau ESOL yn darparu awyrgylch dysgu anffurfiol, cyfeillgar a hwyliog. Cynhaliwyd dwy sesiwn flasu ym mis Chwefror i godi ymwybyddiaeth ac i roi cyfle i ddarpar fyfyrwyr gyfarfod y tiwtor. Dechreuodd y cwrs 12 wythnos, rhad ac am ddim, ar 1 Mawrth ac mae'n hyrwyddo'r defnydd o'r Saesneg mewn lleoliadau gwaith.

Caiff y Cyrsiau ESOL eu darparu gan Anna Gomes o Addysg Oedolion Cymru. Meddai Anna:  "Mae dysgu'r unigolion hyn yn rhoi mwynhad mawr i mi. Mae’n wych gweld sut mae dysgu Saesneg yn helpu'r cyfranogwyr a'u teuluoedd i integreiddio yn y gymuned ac i gael mynediad at y farchnad swyddi leol. Mae fy ngwersi’n cael eu darparu mewn amgylchedd cyfeillgar heb roi unrhyw un dan bwysau.

"Mae llawer o’r rhai sy’n mynychu, gan gynnwys ffoaduriaid o Syria, nad ydynt erioed wedi cael addysg o unrhyw fath o’r blaen. Mae wedi bod yn bleser eu cefnogi nhw gydag elfennau sylfaenol yr iaith er mwyn iddyn nhw a'u plant addasu i fywyd yn y DU ac ymhen amser i fod â digon o Saesneg i fynd ati i chwilio am waith. Hyd yma rydym wedi gweithio gyda naw o ddysgwyr o dras Pwylaidd, Twrcaidd, Tsieineaidd a Syriaidd (Arabaidd). Maent yn dysgu drwy sillafu, dysgu'r Wyddor ffonetig a chanu'r Wyddor, i gyd yn nghyd-destun gwneud cais am swydd.

"Rydw i’n defnyddio senarios a chwarae rôl gyda’r nod y bydd y dysgwyr wedi cynhyrchu CV erbyn diwedd y cwrs. Byddant hefyd yn dysgu am brosesau iechyd a diogelwch cyffredinol yn y gwaith ac am gyfyngiadau cyflymder ac arwyddion o rybudd (allanfeydd tân, dim ysmygu ayyb). Un o’r nodau hirdymor pwysicaf i’r bobl hyn yw gallu bod yn ariannol annibynnol.”

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau ESOL cysylltwch â Sir Ddinbych yn Gweithio ar 01745 331438, anfonwch e-bost at: sirddinbychyngweithio@sirddinbych.gov.uk neu ewch i lyfrgell y Rhyl.

Cwrs Sgiliau Coetir ar gyfer cyfranogwyr Sir Dinbych yn Gweithio

Yn ddiweddar mynychodd nifer o gyfranogwyr 'Sir Ddinbych yn Gweithio' gwrs hyfforddi wedi’i drefnu’n arbennig ar eu cyfer yn y Ganolfan Sgiliau Coetir ym Modfari.

Mae’r prosiect 'Sir Ddinbych yn Gweithio' yn darparu cefnogaeth un i un gan weithio ochr yn ochr ag unigolion i wireddu eu nodau personol drwy amrywiaeth o weithgareddau.

Mae’r Ganolfan Sgiliau Coetir wedi’i lleoli yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a chafodd y rhai a fynychodd gyfle i feithrin hunanhyder a hunan-barch a’r gallu i weithio'n unigol ac fel rhan o dîm ar y cyd â dysgu sgiliau newydd.

Cwblhaodd yr holl gyfranogwyr gwrs Cymorth Cyntaf Brys Lefel 3 a chawsant i gyd dystysgrifau am Grefftau Coedlan a Gwaith Coed Gwyrdd.

Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu a meithrin cymunedau cryf ar draws yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, gyda ffocws ar drechu tlodi drwy ddarparu cymorth sy’n helpu pobl i mewn i waith, cyfleoedd gwirfoddoli neu addysg, a chael gwared ar y rhwystrau i gyflogaeth.

Datblygodd y cyfranogwyr berthynas dda o'r cychwyn, gan ffurfio grŵp cefnogol a oedd yn rhyngweithio ac yn cyfathrebu'n dda, yn helpu ei gilydd ac yn gweithio fel tîm. Maen nhw wedi ennill sgiliau a phrofiadau newydd, mae eu hyder a'u hunan barch wedi cynyddu a gwelwyd gwelliant cyffredinol yn eu lles.

Cyfranogwyr o’r Rhyl a Dinbych a staff Sir Ddinbych yn Gweithio.

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

Drewyn y cawr yn deffro yng Nghorwen

Ddydd Sadwrn 23 Mawrth daeth cymuned leol ac ymwelwyr Corwen ynghyd i gymryd rhan yn nigwyddiad Deffro Cawr Corwen.

Fel rhan o ddathliadau ‘Blwyddyn Darganfod’ Croeso Cymru, roedd hwn yn gyfle i fwynhau mythau a chwedlau’r ardal a stori Drewyn y cawr. Daeth dros 200 o bobl i Gorwen i helpu â’r gwaith o ddeffro’r cawr a gwylio celf tir yn cael ei greu gyda chyfres o ffrwydradau.

Cafodd ymwelwyr eu tywys i fyny i olygfan Pen-y-Pigyn yn barod ar gyfer y digwyddiad rhyfeddol, ac ar y ffordd buont yn darganfod gwrthrychau anferth a ollyngwyd yno gan Drewyn y cawr.

Ar ôl cyrraedd yr olygfan, cyfrifoldeb y dorf oedd deffro Drewyn trwy wneud cymaint o sŵn â phosibl gyda chlychau eglwys, chwibanau a thrwy ganu. Ac ar ôl deffro Drewyn cafodd yr ymwelwyr weld cyfres o ffrwydradau ar draws y tirlun a oedd yn creu’r cysyniad a’r ddelwedd o olion troed enfawr. I gloi ymddangosodd amlinelliad o’r cawr Drewyn yn Nôl Corwenna yng nghanol Corwen wrth iddo gael ei roi yn ôl i orffwys.

Mae Deffro Cawr Corwen yn cael ei arwain gan AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy mewn partneriaeth â’r gymuned leol ac mae wedi derbyn cyllid trwy Raglen Cymunedau Gwledig – Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Cafodd y cysyniad y tu ôl i Ddeffro Cawr Corwen ei ddatblygu a’i ddylunio gan yr artist Gordon Rogers o Structure & Agency ochr yn ochr â’r peiriannydd John Kettles. ‘Ymddangosodd Drewyn gyda’r un egni sy'n siapio'r dirwedd a'r un parchedig ofn sy'n troi atgofion yn chwedlau. Yn ffodus i drigolion Corwen mae’n greadur llawer mwy caredig na nifer o’r cewri eraill a oedd yn arfer byw yn Nyffryn Dyfrdwy. Hefyd yn wahanol i nifer o’i gymdogion ni chafodd ei ladd gan gleddyf sant neu frenin. Wrth ddeffro mae’r cawr wedi dechrau’r bennod nesaf yn ei stori ac mae’n bosibl y bydd y gwrthrychau a ollyngodd yn rhoi rhywfaint o gliwiau i’w ddyfodol.'

Meddai Ceri Lloyd, Swyddog Datblygu Cynaliadwy AHNE ‘Mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi gweithio gyda’r gymuned i ddatblygu’r cysyniad o Drewyn a'r digwyddiad hwn yn benodol, ac roedd yn wych gweld cymaint o bobl allan yng Nghorwen yn mwynhau gweld y gwaith celf unigryw hwn yn cael ei greu. Mae Drewyn wedi ymddangos eto yn Nôl Corwenna yng nghanol Corwen a bydd yn parhau i fod yn rhan o’r dirwedd ac yn newid gyda’r tymhorau. Rydym yn annog ymwelwyr i fynd draw i Ben-y-Pigyn i fwynhau’r olygfa a'r gwaith celf enfawr chwedlonol hwn.”

Bydd blodau gwyllt amrywiol yn cael eu plannu ar y gwaith celf a bydd yn newid gyda threigl y tymhorau. Mae ymwelwyr yn cael eu hannog i fynd draw i Ben-y-Pigyn i weld y gwaith celf a byddant hefyd yn gallu canfod y gwrthrychau enfawr y gadawodd Drewyn ar ei ôl ar y daith i fyny. Am fwy o wybodaeth am sut i gyrraedd yno ewch i wefan AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Gofal Cymunedol yn y Goedwig

Mae llwybr newydd dymunol iawn wedi ei greu yn Rhos y Coed sydd yn uno'r Ganolfan Gymuned yn Nhrefor ger Llangollen, â'r Gamlas ger Pont Postles. Mae llawer o breswylwyr wedi bod yn gobeithio cael llwybr trwy’r coetir hwn ers sawl blwyddyn.

Mae’r llwybr yn creu cyswllt uniongyrchol i’r gymuned at y Safle Treftadaeth y Byd trwy hen ardal ddiwydiannol lle mae natur wedi ymgartrefu a choetir wedi adfywio’n naturiol. Mae’r llwybr newydd wedi cael ei enwi yn “Llwybr Clincer” gan fod carreg glincer fawr ger y gamlas sy’n ein hatgoffa o orffennol diwydiannol. Mae nifer o gerrig glincer llai yn y coetir hefyd. Clincer yw cynnyrch gwastraff y broses fwyndoddi a ddefnyddiwyd yn y diwydiant haearn. Mae’r garreg glincer fawr yn edrych fel awyrfaen enfawr neu byddai’n hawdd ei chamgymryd am wreiddyn coeden – mae’n siŵr bod llawer o bobl wedi cerdded heibio heb ddeall arwyddocâd ei bodolaeth mewn gwirionedd. Y bwriad yw cadw’r llystyfiant o amgylch y garreg glincer a darparu dehongliad a mainc i roi siawns i bobl graffu’n dawel arni wrth ochr y gamlas.

Llwyddwyd i gael y llwybr newydd hwn o ganlyniad i brosiect a ariennir gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, ‘Ein Tirlun Darluniadwy’ sy’n canolbwyntio ar dirwedd Dyffryn Dyfrdwy a Safle Treftadaeth y Byd Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte. Mae’n defnyddio’r thema teithiau ysbrydoledig sydd wedi bod, ac yn parhau i fod, yn nodwedd o'r ardal sy’n cynnwys y Gamlas, Ffordd A5 Telford ac Afon Dyfrdwy. Bydd y prosiect pum mlynedd yn buddsoddi yng ngwydnwch safleoedd ymwelwyr allweddol ac yn cynnwys cymunedau yn ei werthfawrogiad a'i reolaeth, wrth ail-ddehongli'r dirwedd gyfoethog hon ar gyfer cenhedlaeth newydd.

Yn dilyn creu y llwybr newydd, mae’r grwpiau Sgowtiaid lleol (Cubs a Beavers) o Drefor wedi bod yn rhan o gynllun i blannu 47 coeden newydd yn lle’r 10 goeden a gafodd eu symud i greu’r llwybr. Bu i un ar ddeg o blant a’u rhieni dreulio bore yn eu gwyliau hanner tymor yn gwneud eu rhan i wella eu hamgylchedd leol, a gefnogwyd gan eu harweinyddion gwych. Dywedodd Elaine Anderson, Arweinydd Grŵp Sgowtiaid “Cafodd y plant amser da ac maent yn edrych ymlaen at wylio eu coed yn tyfu, bydd yr ymdrech y maent wedi'i roi yn mynd tuag at eu bathodyn helpu'r gymuned, cawsom fore da iawn."

Mae’r coetir wedi profi problemau â thipio anghyfreithlon yn y gorffennol a daethpwyd o hyd i bob math o sbwriel yn cynnwys boneti ceir a photiau blodau. Daeth gwir raddau’r broblem sbwriel i’r amlwg pan grëwyd y llwybr newydd drwy’r coetir yn cysylltu’r ganolfan gymunedol â’r gamlas a galluogi pobl i fynd yn agos at y clincer anferth, sydd yn enghraifft o dipio anghyfreithlon hanesyddol ynddo’i hun, sy’n dyddio’n ôl i 1870 ac yn un o olion y diwydiant dur lleol!

Ar ôl canfod y sbwriel, cysylltodd ‘Ein Tirlun Darluniadwy’ â ‘Cadwch Gymru'n Daclus’, i drefnu digwyddiad glanhau cymunedol fel rhan o’u hymgyrch flynyddol ‘Gwanwyn Glân Cymru’, sydd yn annog pobl ar draws Gymru i ddod ynghyd er mwyn helpu i lanhau ein gwlad. Daeth 10 o unigolion lleol , yn cynnwys 4 o blant, ynghyd ar fore Sadwrn i lanhau’r coetir a’i wella ar gyfer pobl a bywyd gwyllt ac erbyn y diwedd casglwyd 20 o fagiau sbwriel llawn ac eitemau mawr eraill.

Dywedodd Sallyanne Hall, Swyddog Ymgysylltu â'r Gymuned Ein Tirlun Darluniadwy - "Roedd yn braf gweld y gymuned leol yn bod yn rhan o'r broses o blannu coed a hel sbwriel, ac rwy'n falch o ddweud bod ein Prosiect Ein Tirlun Darluniadwy wedi gallu darparu llwybr dymunol drwy’r goedwig. Mae tim y prosiect yn gobeithio fydd hyn yn ddechrau i nifer o gyfleoedd i bobl Trefor ddod at ei gilydd a mwynhau'r amgylchedd gwych sydd ar stepen eu drws “.

Elaine Anderson, Arweinydd Sgowtiaid gydag Olly, Sgowt ‘Cub’ ifanc a’i ŵyr Toby yn plannu coeden bedwen arian

Y pentwr sbwriel terfynol

Llwybr y Clinker

O Gwmpas

Y chi a’r olygfa. Weithiau dyna’r cyfan sydd ei angen arnoch a chael diwrnod yn yr awyr agored. 

Mae mynd am dro’n ddigymell ar draws gweundir grug yn nannedd y gwynt neu drwy dyffrynnoedd afonydd yn gallu’ch helpu i fwrw’ch blinder, i roi ymdeimlad gwych o dawelwch ichi a’ch rhoi’n ôl mewn cysylltiad â’r chi go iawn.

Ond weithiau efallai yr hoffech rywbeth ychydig mwy trefnus. Efallai eich bod yn dyheu am hwyl a chwmni. Ac efallai eich bod hyd yn oed am ddod â’r plant efo chi.

Dyna paham ein bod yn cynhyrchu rhaglen digwyddiadau o’r enw “O Gwmpas” bob blwyddyn. Mae’n orlawn o ddigwyddiadau teuluol, teithiau cerdded tywysedig a phrosiectau ymarferol. Ac ni fyddant yn costio ceiniog ichi.

Felly os ydych ag eisiau gweld bryngaer, hel llus, gwylio meteoryn, dod o hyd i ystlum neu hela rhywfaint o bryfed, lawrlwythwch y llyfryn isod. 

Mae yna ddigwyddiad ar gyfer pawb ynddo.

I archebu lle neu i gael gwybod mwy, ffoniwch ni ar 01352 810614 neu e-bostiwch loggerheads.countrypark@sirddinbych.gov.uk.

Byddwch yn berchnogion cŵn cyfrifol yng nghefn gwlad Sir Ddinbych

Mae’r Cyngor ac Ardal o Harddwch Eithriadol Naturiol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi dod at ei gilydd i lansio’r ymgyrch eleni i annog pobl i gadw eu cŵn ar denynnau mewn cefn gwlad agored.

Cynhelir yr ymgyrch Dos a'r Tennyn am y trydydd tro eleni a chaiff ei lansio cyn dechrau gwyliau’r Pasg.  Mae’r ymgyrch yn targedu trigolion lleol ac ymwelwyr i gefn gwlad ac eisiau ychwanegu at lwyddiant cynllun y flwyddyn ddiwethaf.

Cynhyrchwyd fideos i’w rhannu ar gyfryngau cymdeithasol, erthyglau yn y wasg leol ac ar-lein, a meithrin cyswllt yn uniongyrchol â phobl sy’n ymweld â chefn gwlad godidog y sir.

Roedden ni wrth ein boddau gan lwyddiant ymgyrch y llynedd ac yn ôl pob golwg roedd pobl wedi gwrando ar y neges. Fe welom ni lawer mwy o bobl yn ymddwyn yn gyfrifol ac yn mynd â’u cŵn ar denynnau yng nghefn gwlad – diolchwn iddynt am eu hymdrechion.

Ond mae hon yn neges sydd angen ei hailadrodd dro ar ôl tro i gael yr effaith fwyaf posibl, felly byddwn yn rhannu negeseuon ein hymgyrch gyda phobl leol ac ymwelwyr ac yn annog y lleiafrif bychan sy'n torri'r gyfraith i newid eu ffyrdd.

Rydym wedi gweld rhai achosion lle mae defaid wedi cael eu hanafu neu eu lladd o ganlyniad i ymosodiadau gan gŵn oddi ar eu tenyn. Rydyn ni wedi siarad â ffermwyr sydd wedi colli defaid neu gael cŵn yn ymosod arnynt.  Mae hyn yn rhywbeth sy’n hawdd inni ei osgoi drwy gydweithio â pherchnogion cŵn a throsglwyddo’r neges y dylid cadw cŵn ar denyn.  Fe allwn ni wneud gwahaniaeth go iawn.

Rydym yn deall yn iawn pam fod pobl eisiau mynd am dro yn ein cefn gwlad godidog yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae llawer o gerddwyr yn dod â chŵn efo nhw ac er ein bod eisiau i hyn barhau, y cyfan rydym yn ei ofyn yw bod pobl yn parchu’r Cod Cefn Gwlad.

Mae digonedd o arwyddion i’w rhybuddio a gwybodaeth am fynd a chŵn ar denynnau a byddwn o gwmpas y lle dros y misoedd nesaf yn siarad â pherchnogion a rhannu ein neges â chynulleidfa mor eang â phosibl.”

Dyma Ceri i esbonio ychydig yn fwy ...

Ein Tirlun Darluniadwy

Dyma’r gacen hyfryd o Gastell Dinas Bran a gafodd eu wneud yn arbenning i lansiad swyddogol prosiect ‘Ein Tirlun Darluniadwy’ yn Ffair y Gwanwyn ym Mhlas Newydd, dydd Sadwrn 13 Ebrill 2019.

Gwasanaethau Cefn Gwlad

Gyrfa newydd i Liam

Penderfynodd Liam Blazey, 36, ei fod am newid gyrfa ar ôl sylweddoli bod y swyddi oedd o ddiddordeb iddo yn galw am sgiliau nad oedd ganddo bryd hynny.

Erbyn hyn, wedi astudio am bedair blynedd ar gampws Llaneurgain Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, yn astudio Bywyd Gwyllt a Bioleg Planhigion, mae wedi sicrhau swydd gyda'r Cyngor, fel swyddog bioamrywiaeth - ac mae’n gyfrifol am amddiffyn a datblygu ystod eang o rywogaethau ar draws cynefinoedd niferus y sir. 

Dywed: “Efallai am fy mod i rywfaint yn hŷn na rhai myfyrwyr, ac ‘mod i wedi bod mewn swyddi nad oeddwn i’n eu mwynhau, rai blynyddoedd yn ôl roeddwn i’n gwybod fy mod i am newid - roeddwn i am gael swydd ble roeddwn i’n teimlo fy mod i’n gwneud gwahaniaeth.

“Cyn dechrau yn y brifysgol, roeddwn i’n gwybod fy mod i am weithio yn yr amgylchedd. Roeddwn i’n darllen hysbysebion swyddi a doedd gen i ddim y sgiliau angenrheidiol ar gyfer y math o swyddi oedd yn mynd â’m bryd - felly fe benderfynais i ddechrau adeiladu fy CV. Os ydw i’n meddwl yn ôl chwe blynedd i nawr, rydw i’n berson hollol wahanol. Dod i’r brifysgol oedd y peth gorau wnes i erioed - yn enwedig Glyndŵr a champws Llaneurgain. Does dim campws fel yma unman arall!”

Wrth astudio, ymgymerodd Liam ag ystod o gyfleoedd gwirfoddoli ar draws Gogledd Cymru gyda chymorth y brifysgol i’w trefnu - gan weithio ar arolygon i ystod o fudiadau a chleientiaid. Yn ystod yr amser yna, helpodd i fonitro a chasglu storfa o wybodaeth am fywyd gwyllt Gogledd Cymru - profiad a fu’n fuddiol iawn iddo pan ddaeth hi’n amser sicrhau’r swydd sydd bellach ganddo gyda’r cyngor. Ychwanega: “Roedd gen i ddarlithwyr sydd yn hynod gefnogol a wyddai lawer am eu meysydd ac felly’n barod iawn i helpu, ac fe fues i’n gwirfoddoli ochr yn ochr â chadwraethwyr gwybodus tu hwnt, a staff oedd hefyd yn gefnogol iawn. Rhowch y ddau beth yn gyda’i gilydd ac maent yn gwneud gwahaniaeth enfawr.

Fe ges i’r swydd union wedi imi raddio o Brifysgol Glyndwr, mis Tachwedd diwethaf. Mae’n waith caled - ond rydw i’n hapus iawn. Yn bendant mae hi wedi bod yn werth pob ymdrech.”

“Does dim ffasiwn beth â diwrnod nodweddiadol. Tros y gaeaf rydw i dan do llawer mwy - yn ystod yr haf mae’r tywydd yn golygu fy mod llawer mwy tebygol o fod allan mewn rhyw fan neu’i gilydd  yn cynnal arolygon ar rywogaethau.

“Mae yna adran flaengar iawn ar yr amgylchedd yng Nghynllun Corfforaethol y Cyngor, ble mae pum prif rywogaeth yn cael eu henwi ac rydw i’n monitro eu poblogaeth a’u hamddiffyn mewn gwahanol rannau o’r sir.

“Y rhain yw Madfall y Twyni, y Wiber, y Rugiar Ddu a’r Fôr-wennol Fach, a’n poblogaethau o wenyn - ac rwy’n cynnwys ein holl beillwyr yn hynny! Mae gennym ni hefyd nifer o rywogaethau arbenigol eraill megis y Pathew a Llyffant y Brwyn sydd hefyd yn galw am fonitro parhaus.

“Mae’r Swyddfa yn Loggerheads ond rwy’n crwydro’r sir i gyd, o draeth Gronant i Erddi Plas Newydd yn Llangollen, neu o Landegla yr holl ffordd i Goed y Morfa yn Y Rhyl.

“Rydw i wastad yn chwilio am wirfoddolwyr i ddod i helpu mewn digwyddiadau felly mae llawer o ffyrdd gwahanol i bobl ifanc ddod i gymryd rhan.”

Mae helpu i addysgu pobl am y gwaith sy’n cael ei wneud yn Sir Ddinbych yn rhan greiddiol o swydd Liam - boed hynny yn weithio ochr yn ochr â gwirfoddolwyr ar y safle, siarad gydag ysgolion am ymgyrch ‘Cyfeillgar i Wenyn’ y sir - neu hyd yn oed ddychwelyd i’r brifysgol i annog eraill i ddilyn yn ôl ei draed. Ychwanega: “Mae wedi bod yn ddiddorol- rydw i eisoes wedi dod yn ôl yma i Brifysgol Glyndŵr ac wedi annerch y myfyrwyr cyfredol er mwyn iddynt ddod i wybod am gyfleoedd sydd ar gael ar rai o’r prosiectau sydd ar fynd ar hyn o bryd yn Sir Ddinbych.”

“Mae’r Cyngor yn bositif tu hwnt o ran cadwraeth - er enghraifft, nhw yw’r cyngor cyntaf i ddynodi gwarchodfa natur ochr y ffordd ar gyfer anifail a nhw yw’r trydydd awdurdod lleol yng Nghymru i dderbyn Statws Cyfeillgar i Wenyn. Nes i mi gael y swydd gyda nhw doeddwn i ddim yn gwybod am bopeth oedd yn digwydd - felly nawr rwy’n dweud wrth bawb!”

Dywed Denise Yorke, sydd yn ddarlithydd mewn Gwyddor Anifeiliaid a Chadwraeth ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam: “Mae helpu myfyrwyr i adeiladu a datblygu sgiliau newydd, i fynd â’r sgiliau hynny i’r gymuned a’u defnyddio mewn lleoliadau go iawn wrth graidd yr hyn a wnawn yma yn y brifysgol.

“Wrth gyfuno hynny gyda rhai o’r cannoedd o gyfleoedd gallwn helpu i leoli myfyrwyr ar brosiectau ar draws y rhanbarth yn astudio a monitro bywyd gwyllt, mae’n rhoi cyfle gwirioneddol i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer yr yrfa o’u dewis.

“Mae Liam yn brawf o hynny - rydym ni wrth ein bodd ei fod wedi sicrhau rôl hanfodol yn hybu bioamrywiaeth Sir Ddinbych, a gwych yw gweld ei lwyddiant.”

Adran Busnes

Y Mis Mawrth Menter gorau erioed gyfer Sir Ddinbych

Mae cymuned fusnes Sir Ddinbych wedi cymryd rhan yn y mis busnes gorau erioed.

Yn ystod pedwerydd mis Mawrth Menter y Cyngor, bu bron i 530 o bobl gymryd rhan mewn 26 o ddigwyddiadau amrywiol, y ffigyrau uchaf hyd yma.

Gan weithio gyda darparwyr cefnogaeth partneriaeth, roedd mis menter y Cyngor yn cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau hyfforddiant, yn cynnwys rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i fusnesau am Fargen Dwf Gogledd Cymru sy'n werth £1bn, a digwyddiad bwyd i arddangos cynnyrch lleol ac uwchgynhadledd ar ganol trefi gydag arbenigwyr y diwydiant.

Penderfynwyd ar ffocws mis Mawrth Menter wedi i ni ofyn i fusnesau pa fath o gymorth yr oeddent ei eisiau. Fel Cyngor, rydym yn gwrando ar ein cymuned fusnes ac rydym yma i gefnogi entrepreneuriaid i dyfu eu busnesau.

Mae’r adborth o fis Mawrth Menter wedi bod yn gadarnhaol iawn a busnesau’n dweud y bydd y gefnogaeth a ddarparwyd o gymorth iddynt wrth symud ymlaen. Gydag amgylchedd masnachu heriol yn wynebu masnachwyr y Stryd Fawr ac ansicrwydd ynghylch Brexit, mae’n hanfodol ein bod yn parhau i ddarparu cymorth i fusnesau Sir Ddinbych, er mwyn iddynt allu parhau i dyfu’r economi a chreu swyddi ledled y sir.

Roedd rhai o’r digwyddiadau eraill yn cynnwys sesiwn i fusnesau i fanteisio’n llawn ar Eisteddfod yr Urdd pan fydd yn cael ei chynnal yn Ninbych yn 2020, helpu busnesau â threth yn ogystal â hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol.

Roedd sefydliadau a fu’n gweithio gyda’r Cyngor yn cynnwys Busnes Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach, Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru a Banc Datblygu Cymru.

Dywedodd Fiona Evans o Snow in Summer: “Mae mis Mawrth Menter yn gyfle gwych i fusnesau fynychu digwyddiadau a gweithdai amrywiol yn rhad ac am ddim a fydd o fudd i’w busnesau.

“Mae’r gweithdai cyfryngau cymdeithasol yr wyf wedi’u mynychu wedi bod yn fuddiol iawn ar gyfer hyrwyddo’r siop, megis y gweithdy Instagram a hefyd digwyddiad yr Urdd.

“Byddwn i’n argymell mis Mawrth Menter, mae’n gyfle gwych i rwydweithio â busnesau lleol eraill.”

Mae Mis Mawrth Menter yn rhan o waith y Cyngor ar ddatblygu’r economi lleol i sicrhau fod cymunedau’r sir yn wydn a bod mynediad gan drigolion at nwyddau a gwasanaethau.

Dywedodd Hannah James, sy’n berchen ar Clwyd Chambers yn y Rhyl: “Roedd digwyddiadau gwych yn ystod mis Mawrth Menter. Mae cyngor marchnata yn hynod werthfawr i fusnesau bach ac mae’r digwyddiadau yn rhoi mynediad at gyngor o safon ar lefel agored a pherthnasol.

“Byddwn i’n argymell bod busnesau yn cymryd mantais o'r hyfforddiant a’r gefnogaeth a ddarperir gan y Cyngor.”

‘Blas Lleol – Cwrdd â’r Cynhyrchydd’ yn arddangos cynhyrchwyr bwyd lleol

Mynychodd mwy na 100 o brynwyr o fusnesau lletygarwch o bob lliw a llun yr arddangosfa cynnyrch lleol.

Trefnwyd y trydydd digwyddiad ‘Blas Lleol – Cwrdd â’r Cynhyrchydd’ gan Glwb Bwyd Da Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy a grŵp Bwyd a Diod Bryniau Clwyd, mewn cydweithrediad â thîm Datblygu Economaidd Cyngor Sir Ddinbych. Cynhaliwyd y digwyddiad yng Ngwesty Castell Rhuthun fel rhan o fis Mawrth Menter Sir Ddinbych.

Trwy ‘Blas Lleol - Cwrdd â'r Cynhyrchydd’ fe gafodd bwytai, tafarndai, caffis a busnesau manwerthu bwyd ledled Gogledd Cymru, Swydd Gaer a Swydd Amwythig y cyfle i flasu bwyd a diod gan fusnesau Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Wrecsam.

Eleni roedd 24 o gynhyrchwyr bwyd a diod wedi cymryd rhan gyda stondinau yn arddangos eu cynnyrch, yn fwydydd wedi'u pobi'n draddodiadol, dewisiadau heb glwten, cigoedd, bwydydd fegan, seidr, cwrw, gin a gwirodydd, hufen iâ i gyd wedi'u cynhyrchu'n lleol yn ogystal â llawer mwy.

Roedd stondinau gan sefydliadau cymorth i fusnesau hefyd yn cynnwys Busnes Cymru, Banc Datblygu Cymru a Chymraeg ym Myd Busnes. Cefnogwyd y cyfan yn ariannol gan gynghorau Sir y Fflint a Sir Ddinbych gan roi’r cyfle i fusnesau drafod syniadau am dwf, datblygiad neu arallgyfeirio.

Ar y dydd cafwyd sesiynau coginio gan Robert Dowell-Brown sy’n brif gogydd Bwyty Nant Y Felin a bu’n tynnu dŵr o ddannedd pawb wrth ddangos syniadau ar gyfer brecwast, cinio a canapés yn defnyddio cynnyrch lleol.

Meddai Lesley Haythorne o Gin Pant y Foel: “Siaradais gyda 14 o gwsmeriaid posib yn y digwyddiad ac rydym eisoes wedi sicrhau dau werthiant yn barod. Felly gyda dau gwsmer newydd yn barod rydym am gysylltu gyda’r busnesau eraill y gwnaethom eu cyfarfod ar y dydd."

Cynhyrchydd arall oedd Martin Godfrey a’i gwmni Hafod Brewing Company o’r Wyddgrug, meddai: “Roedd yn ddigwyddiad hynod gynhyrchiol i ni ac roedd hi'n grêt cael cyfarfod cwsmeriaid hen a newydd a chael dangos ein cynnyrch wyneb i wyneb."

Dywedodd Robyn Lovelock o Glwb Bwyd Da Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy: “Roedd yn ddigwyddiad gwych ac yn gyfle i ddangos y dewis a safon y cynnyrch sydd gennym yn ein rhanbarth. P’un ai fod prynwyr yn edrych am gytundebau mawr hirdymor neu eisiau newid rhai cynnyrch allweddol gyda chynnyrch lleol yn lle, rydym wedi rhoi’r cyfle iddyn nhw allu siarad a gwneud busnes gyda'r cynhyrchwyr eu hunain - gan helpu i gadw'r arian yn ein heconomi leol."

Meddai Jane Clough o Grŵp Bryniau Clwyd: “Roedd cynnwrf mawr trwy’r holl ddigwyddiad a'r gobaith yw bod sylfaen wedi’i osod ar gyfer blwyddyn arall wych o fwyd a lletygarwch yn y rhanbarth. Mae busnesau lletygarwch yn prysur sylweddoli’r budd o ddefnyddio cynnyrch lleol wrth i ymwelwyr a phobl leol edrych am flas o’r ardal ac rydym yn eiddgar i wybod tarddiad ein bwyd a'n diod."

Mae’r ddau grŵp a drefnodd y digwyddiad yn gobeithio datblygu'r digwyddiad ar gyfer y flwyddyn nesaf gyda hyd yn oed mwy o gynhyrchwyr a lleoliad newydd. Maent hefyd yn rhan o dîm sydd yn gyfrifol am ddarparu Blas Gogledd Ddwyrain Cymru, mis cyfan sy'n dathlu bwyd a diod leol i'w lansio yn Hydref 2019.

Busnesau dan Arweiniad y Gymuned a Chynigion Cyfranddaliadau Cymunedol: beth yw’r Opsiynau?

Hoffai Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych eich gwahodd i’r digwyddiad canlynol 

Busnesau dan Arweiniad y Gymuned a Chynigion Cyfranddaliadau Cymunedol: beth yw’r Opsiynau?

Dydd Iau 16 Mai 2019 9.30am – 2pm

Neuadd Tref Dinbych, Lôn Crown, Dinbych, LL16 3TB 

Gall busnesau dan arweiniad y gymuned a chynigion cyfranddaliadau cymunedol drawsnewid ardaloedd, gan alluogi pobl leol i fynd i’r afael â heriau mawr fel unigrwydd a phrinder gwasanaethau. Pobl yn y gymuned sy’n rheoli’r rhain, ac mae’r holl fasnachu’n digwydd yn bennaf er budd y gymuned.

Yn y digwyddiad hwn cyflwynir cyngor arbenigol gan Ganolfan Cydweithredol Cymru a’r dysg a rannwyd ar sail enghreifftiau lleol o arferion da, i roi darlun gwerth chweil o’r gwahanol ddewisiadau y gellid eu hystyried.

Byddwn hefyd yn cynnal ffair wybodaeth yn y digwyddiad, a bydd pobl o’r mudiadau canlynol wrth law i gael sgwrs am eich syniadau a’r cymorth y gallent ei gynnig gan gynnwys: Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, Canolfan Gydweithredol Cymru, Pub is the Hub, Sefydliad Plunkett, Cwmnïau Cymdeithasol Cymru a Cadwyn Clwyd.

Darperir lluniaeth ysgafn. 

Mae'r digwyddiad hwn ar gyfer Aelodau Cynghorau Tref, Dinas a Chymunedau, Cynghorwyr Sir ac aelodau o grwpiau gwirfoddol sydd â diddordeb mewn archwilio busnesau a arweinir gan y gymuned. 

Os nad ydych yn aelod o grŵp gwirfoddol, ond yn breswylydd yn Sir Ddinbych sydd â diddordeb mewn mynychu, cysylltwch â ni.

Mae gofyn i chi gadarnhau a fyddwch chi’n dod neu beidio drwy anfon e-bost at fran.rhodes@sirddinbych.gov.uk.  Nodwch fod tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn yn brin, felly cofrestrwch eich diddordeb cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi cael eich siomi.

Addysg

Ysgol Gatholig Crist y Gair yn lansio gwisg ysgol newydd

Mae gwisg ysgol newydd wedi cael ei lansio ar gyfer ysgol ffydd 3-16 newydd gwerth £23 miliwn yn y Rhyl.

Bydd Ysgol Gatholig Crist y Gair yn agor ym mis Medi a bydd gan y wisg ysgol themâu cyffredin ar gyfer disgyblion ar draws yr oedrannau ond bydd y rheiny ym Mlwyddyn 7 ac uwch yn gwisgo blaser i gydnabod eu bod wedi symud i'r ysgol uwch.

Mae’r ysgol, a fydd yn gartref i 420 disgybl llawn amser rhwng 3 ac 11 mlwydd oed a 500 o ddisgyblion rhwng 11 ac 16 mlwydd oed, yn cael ei hariannu mewn partneriaeth â'r Cyngor a Llywodraeth Cymru drwy’r Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Dywedodd Gill Greenland, Cadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol: “Roeddem yn awyddus i ymgynghori’n eang ynglŷn â syniadau am y wisg ysgol newydd. 

“Roeddem yn hapus iawn â lefel uchel yr ymateb a gawsom gan rieni i'r holiadur a anfonwyd allan a derbyniwyd bron i 250 o ymatebion. 

“Cawsom hefyd ymateb gwych gan ddisgyblion yn y ddwy ysgol lle buom yn trafod yr opsiynau gyda'r cynghorau ysgol."

Cafodd y Llywodraethwyr gyfarfod â chyflenwyr lleol i drafod sut y gellid datblygu syniadau'r disgyblion cyn iddyn nhw gymeradwyo'r wisg ysgol newydd yn derfynol.

Ychwanegodd Mrs Greenland: “Mae’r wisg ysgol yn adlewyrchu logo ein hysgol newydd a chafodd y lliwiau eu hysbrydoli gan ddyluniadau a gyflwynwyd gan ddisgyblion presennol Ysgol Mair ac Ysgol y Bendigaid Edward Jones. Hyderwn ein bod wedi datblygu gwisg ysgol sy’n adlewyrchu ein hunaniaeth.”

Mae’r Llywodraethwyr hefyd yn edrych ar bosibiliadau ariannu eraill i gynorthwyo teuluoedd â'r gost.

Cyfnod newydd i Ysgol Carreg Emlyn

Mae cyfnod newydd ar droed i Ysgol Carreg Emlyn, un o ysgolion cynradd mwyaf newydd Sir Ddinbych. Bydd yr ysgol, a sefydlwyd yn 2014, yn symud i adeilad ysgol newydd yn Clocaenog ar ddechrau mis Mehefin diolch i fuddsoddiad gan Gyngor Sir Ddinbych a Llywodraeth Cymru fel rhan o’r Rhaglen Ysgolion y 21ain Ganrif.

Crëwyd Ysgol Carreg Emlyn yn 2014 yn dilyn uno Ysgol Clocaenog ac Ysgol Cyffylliog. Ers mis Medi 2014 mae’r ysgol newydd wedi cael ei rhedeg o’r safleoedd cyfredol yn y ddau bentref cyn y byddant yn symud i un safle.

Bydd yr ysgol newydd yn cynnwys 4 dosbarth newydd, ardaloedd dysgu ychwanegol, neuadd, ystafell gymunedol, ardaloedd chwarae allanol, mynedfa ceir newydd a maes parcio gyda man gollwng pwrpasol.

Yn Mai 2018 gyda’r cyllid ar caniatâd cynllunio mewn lle dechreuwyd ar y gwaith o adeiladu’r adeilad ysgol newydd ychydig dros 100 metr i ffwrdd o safle cyfredol Clocaenog. Ychydig o dan 12 mis wedyn bydd yr adeilad yn cael ei drosglwyddo gan Wynne Construction. Yn ystod mis Mai bydd paratoadau ar gyfer symud yn cymryd lle gyda cyfle i staff ymgyfarwyddo gyda’r adeilad cyn i’r disgyblion ddechrau yr hanner tymor olaf yn eu cartref newydd.

Bydd y disgyblion yn gweld trawsnewid yn eu hamgylchedd dysgu o fewn eu cartref newydd. Fel rhan o’r paratoadau i ffarwelio a’r adeiladu presennol byddant yn cael ymweliad arbennig ar ddechrau mis Mai. Mae’r prif gontractwr Wynne Construction hefyd wedi trefnu digwyddiad cymunedol i alluogi preswylwyr i weld yr ysgol wedi ei orffen cyn i’r ysgol symud i mewn.

Mae cwblhau’r prosiect hwn yn foment arwyddocaol i gymuned Ysgol Carreg Emlyn. Mae’r prosiect yn dangos ymrwymiad Cynghorwyr Sir Ddinbych i fuddsoddi mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Mae cymuned yr ysgol wedi dangos eu cefnogaeth yn y prosiect i drawsnewid addysg yn yr ardal wledig yma a bydd hwn yn gyfleuster gwych i blant ifanc.

Adeilad newyddYsgol Carreg Emlyn fydd y 6ed prosiect wedi ei gwblhau gan Sir Ddinbych fel rhan o’u Rhaglen Ysgolion 21ain ganrif. Mae’r rhaglen wedi gweld buddsoddiad sylweddol mewn ysgolion yn Cynwyd, Prestatyn, Rhyl, Rhuthun a Llanelwy ynghyd a prosiectau sydd yn mynd rhagddo ar gyfer Ysgol Gatholig Crist y Gair yn Y Rhyl ac Ysgol Llanfair. 

Beth sydd ymlaen

Cadarnhau ymddangosiad y Typhoon yn Sioe Awyr y Rhyl

Mae'n bleser gan drefnwyr Sioe Awyr y Rhyl eleni gyhoeddi y bydd tîm arddangos Typhoon yr Awyrlu  yn ymddangos yn y sioe awyr agored ar 24 a 25 Awst am y tro cyntaf erioed.

Mae'r Awyrlu wedi cadarnhau y bydd y Lancaster Bomber, Spitfire a Hurricane hefyd yn arddangos, ynghyd â'r Tucano.

Bydd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys Tîm Raven - tîm arddangos aerobatig ffurfio sy'n hedfan 5 awyren RV8 Van o Gymru, aerobatig egni uchel gan Steve Carver a Thîm Arddangos Silver Stars y Corfflu Logisteg Frenhinol.

Mae Sioe Awyr y Rhyl yn cael ei chydnabod fel un o'r digwyddiadau gorau o'i bath yn y wlad ac mae disgwyliad mawr i weld beth fydd yn ymddangos. Mae gennym raglen wych ar waith ac mae digwyddiad eleni yn addo atyniad gwych arall i'r miloedd o drigolion ac ymwelwyr a ddisgwylir ar y promenâd.

Bydd ymwelwyr â'r promenâd hefyd yn gallu gweld drostynt eu hunain y buddsoddiad sydd wedi digwydd, gan gynnwys cwblhau adeilad SC2, y parc dŵr blaenllaw a'r atyniad TAG; bwyty 1891 a Theatr y Pafiliwn wedi'i hadnewyddu; dau westy, bar a charfri newydd sbon, yn ogystal ag ailwampio'r maes parcio Canolog (y maes parcio tanddaearol gynt).

Bydd y rhestr lawn ar gyfer y Sioe Awyr yn cael ei datgelu maes o law. I weld y newyddion a'r diweddariadau diweddaraf ewch i www.sirddinbych.gov.uk/sioeawyryrhyl

Trefnir y digwyddiad gan y Cyngor, mewn partneriaeth â Chyngor Tref y Rhyl.

Hawlfraint:  Gavin Smith

 

Diwrnod Lluoedd Arfog Gogledd Cymru 2019

Cynhelir Diwrnod Lluoedd Arfog Gogledd Cymru 2019 yng Nghaergybi ar Ddydd Sadwrn, Mai 25. Bydd uchafbwyntiau’n cynnwys pared trwy'r dref gan gymuned y Lluoedd Arfog a chyflwyno rhyddfraint y Sir i Wasanaeth Tanfor y Llynges Frenhinol. Ceir rhagor o weithgareddau ar Draeth Newry.

www.armedforcesday.org.uk

Diwrnod agored yn Llyn Brenig: Rhowch gynnig ar hwylio!

Mae Llyn Brenig unwaith eto yn cynnig sesiynau blasu hwylio am ddim ar ddydd Llun Gŵyl y Banc, 6 Mai.

Manylion yn y poster neu ewch i'w gwefan.

Cafe R

Bwydlen newydd ar gyfer y Gwanwyn ar gael yng Nghaffi R, Canolfan Grefft Rhuthun

Beth am alw i mewn i Café R yng Nghanolfan Grefft Rhuthun - mae bwydlen newydd ganddynt. Mi fedrwch weld copi ar ei gwefan

Gallwch hefyd alw heibio i'r Ganolfan Grefft i weld yr arddangosfa newydd 'Dan eich traed: Y Ryg Cyfoes'.

Cynllun Corfforaethol

Y Cynllun Corfforaethol

Nod Cynllun Corfforaethol 2017-2022 y Cyngor yw gwella bywydau trigolion mewn pum maes allweddol.  Mae’r Cynllun yn cynnwys £135 miliwn o fuddsoddiad yn:

  • Amgylchedd
  • Pobl Ifanc
  • Tai
  • Cymunedau wedi eu cysylltu
  • Cymunedau cryf.

Mae’r prosiectau’n cynnwys adeiladu tai cyngor newydd, buddsoddi mewn cludiant a seilwaith digidol, amddiffyn a gwella'r amgylchedd a helpu pobl ifanc i gyrraedd eu potensial.

Hyd yma, mae dros 3,000 o ddisgyblion wedi elwa ar adeiladau ysgol newydd, ac mae miloedd o goed wedi eu plannu fel rhan o gynllun i greu sawl hafan werdd yn nhrefi’r sir.

Mae’r prosiectau eraill sydd ar y gweill yn cynnwys gwaith amddiffyn rhag llifogydd yn y Rhyl a chymorth ychwanegol i’r bobl hynny sy’n chwilio am waith neu eisiau datblygu eu gyrfaoedd.

front-cover

Yn yr adran hon yn Llais y Sir, gallwch ddarllen am bob prosiect sy’n cyfrannu at y pum maes allweddol dan ein Cynllun Corfforaethol:

Am fwy o wybodaeth ynglyn a'r Cynllun Corfforaethol, ewch i'n gwefan.

Nodweddion

Canmlwyddiant gwasanaeth bws o Rhuthun i’r Wyddgrug

Mae 2019 yn nodi canmlwyddiant ers y gwasanaeth bws o Rhuthun i’r Wyddgrug. Hwn oedd y llwybr cyntaf i Crosville i mewn i Sir Ddinbych, yn ôl erthygl gan Peter Daniels a Ron Hughes (isod):

Roedd Gwasanaeth Modur Crosville a Chyngor Bwrdeistref Rhuthun gyda'r bwriad o gael gwasanaeth bws o Rhuthun i’r Wyddgrug ond roedd y Rhyfel Byd Cyntaf wedi effeithio ar y syniad. Yn 1918, roedd y maer “yn credu'n gryf bod tyniant modur am aros".

Roedd Loggerheads (o 1908) ac yna Llanferres (1909) wedi cael mantais o’r gwasanaeth bysiau modur o’r Wyddgrug. Bu i’r ddau ddod i ben ar ddechrau’r rhyfel.

Roedd llawer o ddathlu pan ddechreuodd Gwasanaeth Modur Crosville ym mis Gorffennaf 1919 eu gwasanaeth o Ruthun i’r Wyddgrug. I ddechrau roedd Crosville yn teimlo mai tymhorol yn unig y fyddai’r gwasanaeth. Dywedodd ei gyfarwyddwr rheoli, “Mi wnawn ein gorau glas i ddarparu gwasanaeth drwy’r flwyddyn”, a mi wnaeth Crosville hynny.

I ddechrau, roedd dwy daith o Rhuthun am 1035 a 1600; a’r drydedd daith ar ddydd Sadwrn a Diwrnodau Ffair (dydd Mawrth cyntaf y mis) am 2030, o du allan i Castle Hotel. Amser y daith oedd 70 munud a roedd pris tocyn unffordd yn 2s/2d (11c)

Dechreuodd gwasanaethau dyddiol uniongyrchol o Ruthun i Birkenhead drwy’r Wyddgrug yn 1924. Roedd tocyn unffordd i Birkenhead yn costio 7s/6d (38c). Yn y cyfamser, o’r Wyddgrug, roedd Crosville yn mynd i Llanarmon yn Iâl yn 1928 ac Eryrys yn 1930. Erbyn 1929, roedd y rhan fwyaf o deithiau Wyddgrug- Rhuthun yn parhau i Ddinbych, er dros y 70 mlynedd nesaf, nid oedd hyn yn digwydd yn aml iawn.

Erbyn y 1930au, roedd technoleg cerbyd wedi gwella, gyda theiars niwmatig yn hytrach na rhai caled. Yn y 1930au, roedd bysiau yn cael eu newid yn araf o danwydd petrol i diesel. Mi wnaeth amser y daith rhwng Rhuthun a’r Wyddgrug leihau i 45 munud.

Yn y 1930au, roedd hyd at 13 o ymadawiadau bob diwrnod yr wythnos rhwng Rhuthun a’r Wyddgrug.  Mi wnaeth y rhain leihau i dros hanner y niferoedd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Yn 1942, dechreuodd Crosville beintio eu cerbydau yn wyrdd yn araf deg, lliw o ryw fath o arlliw sy’n gysylltiedig â bysiau Rhuthun ers dros 55 mlynedd.

Yn 1949, bu i Crosville weithredu'r gwasanaeth cyntaf drwy Ruthun - yr Wyddgrug - Caer. Un daith oedd yn dychwelyd oedd hwn ar y dechrau a hynny ar ddydd Mercher a dydd Sadwrn yn unig. Yn y cyfamser, o 1951 ymlaen, roedd bysiau o Rhuthun i'r Wyddgrug yn ôl i 13 y diwrnod.

Atgynhyrchir yr amserlen 1919 gyda chaniatâd swyddfa gofnodion Sir y Fflint (Cyf FC/C/6/240)

Dros y blynyddoedd, mae pen y daith wedi symud. Yn 1937, roedd yn Stryd y Farchnad. Yn 1957, symudodd i'r orsaf drenau. Symudodd yn ôl i’w leoliad presennol, Stryd y Farchnad yn 1965. Hefyd yn 1965 cafodd y daith gyntaf drwy Rhuthun – Llanarmon – yr Wyddgrug ei gweithredu. O 1970 ymlaen, roedd y rhan fwyaf o deithiau Rhuthun i’r Wyddgrug yn mynd drwy Llanarmon.

Ar wahân i amseroedd ysgol, pan oedd angen bysiau deulawr yn ystod yr 1960au a’r 1970au cynnar, daeth y gwasanaeth bws newid i fod gyda gyrrwr yn unig mewn amser. Erbyn 2007, cafwyd wared ar bysiau deulawr.

Yn yr 1970au a 1980au gwelwyd nifer o doriadau i’r gwasanaeth bws a chynyddiadau i brisiau tocynnau, fel yr oedd y car preifat yn dod yn fwy poblogaidd na theithio ar fws. Yn 1971 bu i Sir Ddinbych a Sir y Fflint gefnogi’r gwasanaeth yn ariannol, ac mae’n parhau fel hyn hyd heddiw.

Yn 1986 bu i'r olynwr, Crosville Wales, gymryd cyfrifoldeb i’r gwasanaeth bws sydd erbyn hyn yn wasanaeth bws dan dendr. Cafodd gwasanaeth uniongyrchol i Gaer ei dynnu’n ôl, ac wedyn ei ailgyflwyno, ei dynnu’n ôl, ei gyflwyno a’i dynnu’n ôl nifer o weithiau cyn cael ei ailgyflwyno yn 2010.

Ym mis Mehefin 1998, bu i Crosville Wales golli eu tendr i GHA Coaches, a weithredodd y gwasanaeth tan 2016. Ar ôl hynny, Stagecoach oedd y gwasanaeth tan M & H Coaches ym mis Mawrth 2018. Yn 2018, bu i M&H fuddsoddi yn y gwasanaeth, cafwyd cerbydau newydd sbon am y tro cyntaf i bob gwasanaeth- ar wahân i’r rhai cyntaf yn 1919!

Mae gwasanaeth 1/X1/2 heddiw yn cael ei weithredu gan M & H Coaches o Trefnant.

Dyma'r Cyfarwyddwr presenol sef Margaret Owen a Ryan Owen, Rheolwr Cymorth Busnes gyda un o'r New Wrightbus Streetlites a ddefnyddir ar y gwasanaeth.

Bydd mwy ar hyn ar gael diwedd mis Mai yn http://www.1919.cymru/.

Gyda diolch i Gymdeithas Ddinesig Rhuthun a'r Cyffiniau am yr erthygl.

Ymgyrch baw cŵn yn Sir Ddinbych yn parhau

Mae'r frwydr yn erbyn baw cŵn yn parhau, gyda'r Cyngor yn rhybuddio y bydd yn cymryd camau yn erbyn y rhai sy'n caniatáu i'w cwn faeddu yn gyhoeddus heb glirio'r llanastr.

Dengys ffigyrau am nifer y digwyddiadau baw cŵn a gofnodwyd gan y Cyngor ers 2014 fod y nifer uchaf o ddigwyddiadau yn cael eu cofnodi yn ystod misoedd y gaeaf, yn Rhagfyr, Ionawr a Chwefror.

Cofnodwyd 92 o ddigwyddiadau ym mis Ionawr 2015; 72 yn Ionawr 2017 a 83 yn Ionawr 2018.  Mae'r niferoedd  isaf o ddigwyddiadau yn digwydd dros fisoedd yr haf. 

Mae gwaith ymchwil wedi dangos bod hyn i'w briodoli i'r ffaith bod dyddiau'n dywyll a bod pobl yn tybio y gallant adael i'w cŵn faeddu'n gyhoeddus dan dywyllwch.

Mae'r ffigurau'n dangos tuedd go iawn ac mae'n ymddangos mai misoedd y gaeaf yw'r prif amser i bobl adael i’w cŵn faeddu.  Rydym wedi gweld digon o dystiolaeth o gŵn yn baeddu mewn ardaloedd tywyll lle nad oes goleuadau stryd.  Mae rhai unigolion yn credu y gallant beidio â chlirio ar ôl eu hanifeiliaid dan y clogyn tywyllwch.  Yr unig ffordd y gallwn ddal y rhai sy'n gyfrifol yw drwy dderbyn gwybodaeth gan y cyhoedd.

Mae'r rhan fwyaf o'r cwynion a ddaw i ran y Cyngor yn ymwneud â chŵn yn baeddu, ac mae preswylwyr wedi dweud wrthym yr hoffent weld y mater hwn yn cael ei ddatrys. Maent yn ei ystyried yn wrthgymdeithasol ac yn cael effaith negyddol ar yr amgylchedd, yn ogystal â bod yn berygl i iechyd pobl.

Rydym wedi bod yn cynnal ymgyrch gorfodaeth ac addysg dros y blynyddoedd diwethaf ac mae'r gwaith hwnnw yn parhau.  Mae'r rhan fwyaf o bobl yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid ac rydym yn diolch iddynt am hynny.

Rydym yn targedu'r neges hon at y rheini sy'n meddwl ei bod yn dderbyniol gadael llanast eu ci ar ôl.  Nid yw'n dderbyniol a gallai'r rhai sy'n gyfrifol gael hysbysiad cosb benodedig neu ddod o hyd iddynt eu hunain gerbron y llysoedd.

 

Tai Sir Ddinbych

Sir Ddinbych yn bwriadu mynd i'r afael â chartrefi gwag

Mae cynllun arloesol i ddod â 500 o gartrefi gwag yn Sir Ddinbych yn ôl i ddefnydd wedi ei lansio.

Bydd y Cyngor yn codi ymwybyddiaeth, yn cymryd agwedd ragweithiol er mwyn mynd i’r afael â safleoedd sy’n achosi trafferthion, a gweithio'n agos gyda landlordiaid er mwyn lleihau'r niferoedd o gartrefi gwag yn y sir fel rhan o Gynllun Cyflawni Cartrefi Gwag y Sir.

Mae’n bosib fod cartrefi yn wag am nifer o resymau, gan gynnwys trafferthion yn olrhain neu ddarganfod pwy yw’r perchenogion, methu gwerthu, anghydfod teuluol, ac mewn achosion eraill mae’n bosib y bydd yr eiddo angen gwaith sylweddol arno, neu mae'n bosib fod gan y perchennog syniad afrealistig am ei werth.

Bwriad y cynllun hwn yw dad-gloi potensial tai y cartrefi sydd wedi bod yn wag am gyfnodau hir. Mae gennym becyn cymorth ariannol sy’n darparu grantiau a benthyciadau. Gallwn hefyd gynnig cyngor a chymorth. Er hyn, mae’n bosib y bydd angen defnyddio camau gorfodi mewn rhai achosion, yn enwedig pan fydd perchnogion yn amharod i ymgysylltu â ni.

Mae dod â’r cartrefi hyn yn ôl i ddefnydd yn gymorth i ddarparu mwy o dai i breswylwyr y sir, mater sy'n un o'n blaenoriaethau.

Fel rhan o’r cynllun, bydd y Cyngor yn codi ymwybyddiaeth o’r cartrefi gwag yn y Sir, ac yn hyrwyddo'r ffyrdd y gall y Cyngor helpu i ddod â 'r cartrefi hyn yn ôl i ddefnydd buddiol.

Bydd hyn yn cynnwys yr opsiynau cyngor a chymorth sydd ar gael i berchnogion, ynghyd â thaclo cartrefi gwag sydd wedi dod yn ganolbwynt i drosedd ac ymddygiad gwrth-gymdeithasol neu wedi eu hesgeuluso.

Bydd y Cyngor yn defnyddio nifer o opsiynau o ran pwerau gorfodi. Gall y rhain gynnwys pryniant gorfodol o eiddo sy’n achosi'r difrod mwyaf i’r ardaloedd o’u hamgylch.

Bydd y cynllun hwn yn ein cynorthwyo i leihau’r nifer o gartrefi gwag hirdymor, yn arwain at ostyngiad yn y defnydd o lety dros dro a lefelau digartrefedd drwy gynyddu mynediad at dai yn y sector rhentu preifat ac adnewyddu ein cymunedau.

Byddwn yn gobeithio y bydd ein cymunedau'n llefydd mwy atyniadol i fyw ynddynt, yn rhai mwy cynaliadwy, ac y bydd gostyngiad yn lefelau y fandaliaeth, y defnydd o gyffuriau a’r ymddygiad gwrth-gymdeithasol sy’n digwydd o ganlyniad i dai gwag.

Oes gennych eiddo gwag?

Os ydych yn landlord eiddo yn Sir Ddinbych, drwy ein Cynnig i Landlordiaid, hoffem ddefnyddio eich eiddo am 6 mis i helpu unigolyn neu deulu digartref. 

Gyda’n Cynnig i Landlordiaid, byddwch yn cael:

  • 6 mis o rent ymlaen llaw
  • Blaendal
  • Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn rheoli’r eiddo am y 6 mis cyntaf
  • Cymelldaliad ar ddiwedd y 6 mis os bydd y preswylydd yn cymryd drosodd y denantiaeth
  • Cefnogaeth barhaus drwy ein gwasanaethau cefnogi pobl a chynnal tenantiaeth
  • Hyfforddiant barod i rentu yn cael ei gynnig i denantiaid
  • Byddwn yn cefnogi’r bobl rydym yn eu hailgartrefu yn eich eiddo

Am fwy o wybodaeth ewch i'n gwefan.

Y diweddaraf am ddatblygiadau yn Y Rhyl

Maes parcio Canolog Y Rhyl yn agor ar ôl prosiect adnewyddu mawr

Mae Maes Parcio Canolog Y Rhyl wedi agor ar ôl prosiect adnewyddu mawr i wella arwyddion, dau fynediad newydd i gerddwyr a ramp ychwanegol i wella hygyrchedd, goleuadau newydd, system awyru, a theledu cylch caeedig gwell.

Mae’r gwaith hwn wedi gweddnewid y maes parcio, gan gynnig profiad gwell i breswylwyr ac ymwelwyr y Rhyl.

Mae goleuadau arbed ynni newydd wedi'u gosod yn y maes parcio ac rydym wedi sicrhau bod y maes parcio yn teimlo'n fwy diogel ac yn edrych yn fwy deniadol.

Diolch i bawb am eu hamynedd tra bod y gwaith yn cael ei gyflawni. Nod y rhaglen adfywio presennol ar gyfer y Rhyl yw cynyddu’r nifer o dwristiaid ac ymwelwyr i’r cyrchfan ac mae’r maes parcio yn helpu i ddarparu ar gyfer yr ymwelwyr hynny, a gwella rheolaeth traffig yn y dref.

Mae adfywio’r Rhyl yn rhan o waith y Cyngor i gefnogi lles a ffyniant economaidd yn y sir, a bydd y gwaith hwn yn parhau gydag Uwchgynllun Canol Tref y Rhyl.

Mae peiriannau talu ac arddangos newydd wedi cael eu gosod, sy'n derbyn cardiau ‘chip a phin’ a thaliadau digyswllt yn ogystal ag arian parod.

Dywedodd Nadeem Ahmad, Cadeirydd Ardal Gwella Busnes y Rhyl, a pherchennog Chrome Menswear a'r Jean Emporium: “Rwy’n falch bod y Maes Parcio Canolog sydd newydd ei adnewyddu nawr ar agor.

“Mae llawer o waith caled wedi digwydd i foderneiddio’r maes parcio, gan ddarparu gofod parcio hawdd ei ddefnyddio, a diogel, sy’n cysylltu â’r Stryd Fawr gyda dewisiadau talu amrywiol.”

ORIAU AGOR

8am – 9pm o ddydd Llun i ddydd Iau

8am – 10pm ddydd Gwener a dydd Sadwrn

8am – 7pm ddydd Sul

Treftadaeth

Safleoedd ar agor yn awr! Carchar Rhuthun a Nantclwyd y Dre

Mae Carchar Rhuthun a Nantclwyd y Dre yn awr ar agor ar gyfer ymweliadau cyffredinol tan ddiwedd mis Medi! Mae’r ddau safle yn parhau i fod ar agor ar gyfer grwpiau sy'n archebu ymlaen llaw, drwy gydol y flwyddyn (gweler 'cynllunio eich ymweliad' isod i gael rhagor o fanylion).

Beth sy’n newydd yn 2019?

Mae ein system Canllaw Sain newydd ar waith ym Mhlas Newydd a Charchar Rhuthun.

Gyda lleisiau anhygoel pobl leol, bydd y teithiau newydd yn ychwanegu elfen o ryngweithio ar y safleoedd. Mae’r system newydd yn hawdd ei defnyddio, yn ysgafn, ac wedi’i diweddaru gyda gwybodaeth newydd sbon am hanes y lleoliadau anhygoel hyn. Mae Taith Ryngweithiol newydd i blant hefyd i annog cynulleidfaoedd ieuengach i archwilio a dysgu wrth gael hwyl. Bydd taith y plant yn dilyn llwybr y canllaw sain arferol ond bydd yn cynnwys cwis rhyngweithiol ym mhob lleoliad!

Mae’r daith arferol a thaith y plant ar gael yn Gymraeg a Saesneg yn y ddau leoliad. Ar hyn o bryd rydym hefyd yn cynnig teithiau sain yn Almaeneg a Ffrangeg, gyda mwy o ieithoedd i ddod yn y dyfodol.

Byddwn hefyd yn cynnig llyfrau tywys am ddim i fynd gyda chi o amgylch Nantclwyd y Dre a Charchar Rhuthun, er mwyn i chi gael darganfod mwy am hanes yr atyniadau hyfryd hyn.

Digwyddiadau i Ddod

Mae gennym sawl digwyddiad i ddod yn y misoedd nesaf yn Nantclwyd y Dre a Charchar Rhuthun:

Dydd Sadwrn, 25 Mai a dydd Sadwrn 17 Awst 2019 yn Nant Clwyd y Dre - Helfa drychfilod bwystfilaidd!

Helfa natur dywysedig o amgylch Gardd yr Arglwydd hanesyddol er mwyn gweld a dysgu am y trychfilod diddorol sy'n byw yma. Addas i bob oed, rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.

11am tan 12pm

Wedi’i gynnwys yn y pris mynediad.

Dydd Iau 30 Mai 2019 yng Ngharchar Rhuthun - Cludo

Teithiwch yn ôl i oes Fictoria a chanfod sut beth oedd cael eich ‘cludo’ i Awstralia fel troseddwr! Clywch straeon am y troseddwyr a anfonwyd o Garchar Rhuthun a sut y buont yn byw eu bywydau yn y byd newydd.

10.30am –12:30pm ac 1pm tan 3.30pm

Wedi’i gynnwys yn y pris mynediad.

Dydd Sadwrn 8 Mehefin 2019 - Diwrnod Natur yn Nantclwyd y Dre

Chwilio am rywbeth gwych i’w wneud? O adar, pryfed ac ystlumod i goetiroedd a dolydd blodau gwyllt, dewch i gyfarfod yr unigolion a'r sefydliadau sy'n gofalu am ein bywyd gwyllt lleol a dewch draw am ddiwrnod llawn gweithgareddau a hwyl ar gyfer y teulu cyfan!

10am tan 5pm

Mae mwy o ddigwyddiadau ymlaen eleni felly cadwch lygad ar ein gwefannau a'n tudalennau cyfryngau cymdeithasol!

Cynllunio eich ymweliad

Mae amseroedd / diwrnodau agor safleoedd treftadaeth yn amrywio ewch i www.sirddinbych.gov.uk/treftadaeth i weld manylion unigol. Mae Carchar Rhuthun yn gwbl hygyrch gyda lifftiau ar gyfer cadeiriau olwyn, sgwteri symudedd, a phramiau. Mae llawr gwaelod Nantclwyd y Dre yn hygyrch, gydag arddangosfeydd gweledol rhyngweithiol o'r lloriau uwch. Gallwch ymweld ar unrhyw un o’r diwrnodau agor a hysbysebir heb archebu, neu gellir archebu ymlaen llaw ar gyfer taith dywys breifat i grŵp, yn Gymraeg neu Saesneg, dan arweiniad un o’n tywyswyr gwych. I gael rhagor o fanylion, ffoniwch 01824 706868.

Diwrnod Natur Sir Ddinbych yn Nantclwyd y Dre

Mae digwyddiad ar gyfer teuluoedd yn cael ei gynnal yng ngerddi Nantclwyd y Dre hanesyddol yn Rhuthun ddydd Sadwrn, 8 Mehefin. Nod y digwyddiad yw annog y cyhoedd i gyfarfod rhai o’r sefydliadau cadwraeth gwych sy’n gweithio yng Ngogledd Cymru. Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal gan Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych, Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych, Bionet a Chyfeillion Nantclwyd y Dre ar y cyd â Phartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru fel rhan o Wythnos Natur Cymru 2019.

Trefnwyd y Diwrnod Natur er mwyn darparu llwyfan ar gyfer sefydliadau ac elusennau cadwraeth i egluro pwy ydyn nhw, yr hyn y maen nhw’n ei wneud a sut y gall pobl gymryd rhan yn eu gwaith. Bydd digonedd o weithgareddau ar gyfer y teulu a sgyrsiau drwy gydol y dydd wedi’u hanelu at addysgu plant ac oedolion am y prosiectau cyffrous mae’r sefydliadau a’r elusennau yn rhan ohonynt ar draws Gogledd Cymru a Sir Ddinbych.

Bydd enillydd ac enillwyr grŵp y gystadleuaeth logo Gwenyn Gyfeillgar diweddar, y cymerodd ysgolion o bob rhan o Sir Ddinbych ra ynddi, yn derbyn eu tystysgrifau a'u gwobrau ar y diwrnod. Bydd y plant a’u teuluoedd yn cael eu gwahodd i gymryd rhan yn y digwyddiadau cyffrous sydd wedi eu cynllunio drwy gydol y dydd.

Mae’r digwyddiad ar agor i’r cyhoedd ac anogir teuluoedd i fynychu am ddiwrnod o hwyl ac i ddysgu mwy am sut y mae ein bywyd gwyllt yn cael ei ddiogelu a sut y gallant gyfrannu at y sefydliadau a'r elusennau cadwraeth anhygoel yma! Bydd y digwyddiad yn rhedeg o 10am - 5pm felly cofiwch neilltuo ychydig o amser i ddod draw i ymuno mewn ychydig o hwyl teulu a natur gyfeillgar!

Taylorfitch. Dod â newyddlenni yn fyw o flaen eich llygaid