Mae gwaith wedi’i gwblhau ar ymestyn cynllun i gefnogi natur leol ym Mharc Gwledig Loggerheads.

Mae Tîm Bioamrywiaeth y Cyngor a Cheidwaid Cefn Gwlad Loggerheads wedi creu ardal o flodau gwyllt Caru Gwenyn ar hyd y glannau a grëwyd gan y gwaith amddiffyn rhag llifogydd a gwblhawyd yn ddiweddar ger adeiladau’r parc.

Mae’r Cynllun Caru Gwenyn yn fenter i sicrhau bod Cymru’n gyfeillgar i beillwyr gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Phartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru.

Crëwyd y safle Caru Gwenyn cyntaf ym Mharc Gwledig Loggerheads yn y maes parcio’r llynedd.

A nawr mae ail safle wedi’i leoli ar y glannau newydd a adeiladwyd ar hyd yr Afon Alun ar ôl cwblhau gwaith atal llifogydd ar y safle gyda chyllid Llywodraeth y DU.

Eglurodd Ellie Wainwright, Swyddog Bioamrywiaeth: “Dyma’r ail Ardal Caru Gwenyn yn Loggerheads! Rydym wedi plannu dros 200 o blanhigion blodau gwyllt yn yr ardal gyda chymorth myfyrwyr profiad gwaith. Tyfwyd y cyfan ar ein cyfer gan y Ganolfan Sgiliau Coetir ym Modfari o hadau lleol a gasglwyd o ddolydd blodau gwyllt Sir Ddinbych, fel rhan o’n Prosiect Caru Gwenyn.

“Y rhywogaethau yr ydym wedi’u plannu yn yr ardal newydd i gefnogi natur leol yw gludlys coch, y bengaled, crafanc brân y gweunydd, clust y gath, peradyl yr hydref, pys y ceirw a bysedd y cŵn.”

Meddai’r Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae ein dolydd yn hanfodol ar gyfer cefnogi natur leol sydd wedi dioddef effeithiau’r Newid yn yr Hinsawdd. Bydd sefydlu mwy o safleoedd o dan fenter Caru Gwenyn fel yr ardal wych yn Loggerheads yn darparu gwell cefnogaeth i beillwyr sydd mewn perygl ac sy’n cynorthwyo i roi bwyd ar ein byrddau ac yn cynyddu bioamrywiaeth a lliw er mwyn i’r ymwelwyr eu mwynhau wrth ymweld â’r parc”.