Tîm Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn sicrhau cyllid grant ar gyfer Prosiect Cysylltiadau Calchfaen Clwyd
Mae Tîm Tirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn falch o gyhoeddi eu bod wedi llwyddo i sicrhau grant o £872,676 gan Gronfa Treftadaeth y Loteri, sy’n cael ei hwyluso drwy Gronfa Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Chyfoeth Naturiol Cymru.
Mae’r Gronfa Rhwydweithiau Natur yn elfen hanfodol o Raglen Rhwydweithiau Natur Llywodraeth Cymru, sydd wedi’i ddylunio i wella cyflwr a gwydnwch safleoedd tir a morol gwarchodedig Cymru wrth feithrin ymgysylltiad cymunedol a chefnogi adferiad natur.
Bwriad Prosiect Cysylltiadau Calchfaen Clwyd yw gwella cyflwr cynefinoedd a chysylltedd ymysg pum glaswelltir calchfaen arwyddocaol sy’n safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig yng ngogledd Bryniau Clwyd, sy’n rhan o Dirwedd Cenedlaethol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Bydd y prosiect yn gweithredu cyfres o waith cyfalaf, yn cynnwys rheoli rhywogaethau ymledol fel creigafal a choed mêl, rheoli glaswelltir calchaidd prin, torri gwair, rheoli prysgwydd a rheoli rhedyn. Drwy gydweithio â pherchnogion tir preifat, bydd yn creu cynefinoedd a choridorau bywyd gwyllt ar draws y tirlun ehangach, gan gysylltu’r safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig â gwarchodfeydd natur eraill, yn cynnwys Coed Bell yng Ngronant.
Yn ogystal â gwelliannau ecolegol, mae’r prosiect yn pwysleisio ymgysylltiad cymunedol trwy gyfleoedd gwirfoddoli, sesiynau hyfforddi, teithiau tywys, sgyrsiau a digwyddiadau gan annog cyfranogiad lleol mewn ymdrechion gwarchod natur.
Er mwyn hwyluso cyflawni’r prosiect, bydd y Gronfa Rhwydweithiau Natur yn ariannu dwy swydd llawn amser: Ceidwad Rhwydweithiau Natur a Rheolwr Prosiect, bydd y ddwy swydd yn cael eu hariannu nes y bydd y prosiect wedi’i gwblhau ym mis Mawrth 2028.
Mae’r fenter hon yn nodi cam sylweddol tuag at wella treftadaeth naturiol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, gan sicrhau bod yr ecosystemau hanfodol hyn yn cael eu gwarchod a’u cyfoethogi ar gyfer cenedlaethau i ddod.
Mae mwy o wybodaeth ar y prosiect yma.