llais y sir

Llais y Sir: Gorffennaf 2022

Mae ymweld â chefn gwlad yn cynnig nifer o fuddion i’n hiechyd a’n lles

Ers sawl blwyddyn mae gwasanaeth cefn gwlad Sir Ddinbych wedi mynd i’r afael â safleoedd ar gyrion trefi, mae’r gwaith parhaus i ddod â chadwraeth at stepen drws y cyhoedd wedi arwain at gyfres o safleoedd o amgylch y trefi yng Ngogledd y sir sy’n cynnig cyfleoedd i bawb ymgysylltu â Natur.

Pan gyhoeddwyd y cyfnod clo cyntaf oherwydd Covid, daeth i’r amlwg bod angen ymarfer yn lleol, trwy gau’r meysydd parcio a chadw’r safleoedd a reolir gan y Gwasanaeth Cefn Gwlad ar agor, roedd modd i breswylwyr lleol fwynhau’r awyr agored a’r bywyd gwyllt wrth deithio ar droed mewn modd gwyrdd a chyfrifol. Drwy gydol y cyfnod clo, roedd sawl grŵp ar gyfryngau cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar fywyd gwyllt yn adrodd eu bod wedi gweld pethau yn y safleoedd ar gyrion y trefi y byddai gwarchodfeydd natur sefydledig yn falch ohonynt.

O’r dolydd blodau gwyllt hardd sy’n bwydo’r gloÿnnod byw a’r gwenyn ym Mhwll Brickfield i’r Picellwr Praff yng ngwarchodfa natur leol Rhuddlan yn brwydro am y lleoliad gorau ar y dŵr, mae natur yn gallu denu sylw pobl o bob oedran.

Mae hygyrchedd y safleoedd hyn yn ased ond oherwydd rheoli cynaliadwy mae’r rhai sy’n ymddiddori mewn bywyd gwyllt yn gallu canfod rhywogaethau prin iawn, mae gwylwyr adar wedi llunio rhestr o dros 60 o rywogaethau ym Mhwll Brickfield, gellir clywed teloriaid y gwair yng Nghoed y Morfa, Prestatyn ac mae Twyni Gronant yn gartref i rai o’r amffibiaid, ymlusgiaid ac adar y môr prinnaf yn y DU.

Gobeithir mai un o’r ychydig elfennau positif a geir o’r profiad cyfan o ymdopi â’r pandemig, yw y bydd pobl yn parhau i ymweld â gwarchodfeydd natur lleol gan ymddiddori mewn bywyd gwyllt ar eu stepen drws a defnyddio’r coridorau gwyrdd amryfal i werthfawrogi cynefinoedd a rhywogaethau gwahanol sy’n ffynnu o ganlyniad i ymdrechion cadwraeth trefol lleol.

Jim Kilpatrick - Uwch Geidwad Cefn Gwlad, Gogledd Sir Ddinbych

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...