Arsyllfa werdd symudol i ganolbwyntio ar awyr y nos
Mae fan werdd ar fin rhoi cyfle i seryddwyr lleol gael cip o awyr y nos.
Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi croesawu elfen newydd i’r tîm i gynorthwyo i hyrwyddo’r fenter Awyr Dywyll.
Yn dilyn ymgynghoriad â’r cyhoedd y llynedd, mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn gwneud cais am statws Cymuned Awyr Dywyll gyda Chymdeithas Ryngwladol Awyr Dywyll.
Mae statws Awyr Dywyll yn darparu cyngor ac arweiniad i ddatblygwyr ac eraill ar ddyluniad golau da mewn AHNE gyda’r nod o sicrhau y gall seryddwyr, rhai sy’n hoff o’r sêr ac arsyllwyr achlysurol weld awyr y nos yn ei holl ogoniant.
Mae fan drydanol Awyr Dywyll wedi cyrraedd AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn awr, sydd wedi’i dylunio i ddarparu golygfan berffaith o awyr y nos.
Bydd y fan drydanol Renault Kangoo Z.E sydd ag ystod o 170 milltir, yn cynnwys offer seryddol, gan gynnwys telesgopau.
Bydd staff AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn defnyddio’r fan i gynnal digwyddiadau cyhoeddus Awyr Dywyll ar draws yr ardal leol i roi cyfle i bobl fwynhau awyr naturiol y nos.
Dywedodd Emlyn Jones, Pennaeth Gwasanaeth Cefn Gwlad y Cyngor: “Mae gennym awyr y nos anhygoel yn yr ardal leol a bydd y fenter hon yn gymorth i gael pobl yn agosach at yr awyr drwy gyfleuster gwych y fan Awyr Dywyll.
“Rydym yn gallu cynnig cyfle i bobl edrych yn fanylach ar y cytserau a phlanedau gyda’r gobaith o gynnal nifer o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn a gan gadw golwg ar ddigwyddiadau seryddol o bwys fel cawod sêr gwib Perseid ym mis Awst a Geminids yn ddiweddarach yn y flwyddyn.”
Mae AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy wedi cynhyrchu nifer o ganllawiau seryddol i gynorthwyo pobl i ganfod y prif gytser yn yr awyr - maent hefyd yn adrodd hanes rhai o chwedlau Cymru sy’n gysylltiedig â’r cytserau a’u henwau Cymraeg.
https://www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/wp-content/uploads/2019/11/Dark-Skies-Pocket-Guide-Web-Final.pdf