llais y sir

Llais y Sir: Gorffennaf 2024

Grant nawr ar agor i helpu gyda chostau ysgol

Mae'r Cyngor yn annog rhieni a gwarcheidwaid cymwys i beidio â cholli’r cyfle i gael hyd at £200 drwy’r Grant Hanfodion Ysgol Llywodraeth Cymru. Mae’r grant nawr ar agor ar gyfer ceisiadau ar gyfer blwyddyn ysgol 2024-2025.

Gall y Grant Hanfodion Ysgol helpu gyda chostau gwisg ysgol, gan gynnwys esgidiau, dillad ac offer chwaraeon ar gyfer gweithgareddau ar ôl ysgol, gweithgareddau ysgol megis dysgu offeryn cerdd neu hanfodion ar gyfer yr ystafell ddosbarth, gan gynnwys pinnau ysgrifennu, pensiliau a bagiau yn ogystal â gliniaduron a chyfrifiaduron. Gall y grant hefyd fynd tuag at gost gweithgareddau ehangach megis y sgowtiaid a’r geidiau ac offer ar gyfer Gwobr Dug Caeredin.

Mae plant o deuluoedd sydd ar incymau is sy’n cael budd-dal penodol, yn gallu hawlio £125 y flwyddyn i helpu gyda chostau ysgol.  Mae hyn yn cynnwys yr holl ddysgwyr yn y derbyn neu flwyddyn 1 i 11 (heblaw blwyddyn 7). Oherwydd y costau ychwanegol y gall teuluoedd eu hwynebu pan fydd eu plant yn dechrau mewn ysgol uwchradd, mae £200 ar gael i ddisgyblion cymwys a fydd yn dechrau ym mlwyddyn 7.

Dywedodd Geraint Davies, Pennaeth Addysg, Cyngor Sir Ddinbych, “Mae’r Grant Hanfodion Ysgol, yn helpu i ostwng y baich ariannol ar deuluoedd wrth brynu gwisg ysgol ac offer, gan alluogi’r plant i fynd i’r ysgol a chymryd rhan mewn gweithgareddau ar yr un lefel â’u cyfoedion.

Hyd yn oed os yw eich plentyn eisoes yn cael Prydau Ysgol am Ddim Cynradd Cyffredinol, mae dal angen i chi wneud cais am y Grant Hanfodion Ysgol.  Mae hefyd yn golygu y bydd eich ysgol yn cael arian ychwanegol.

Rydym yn gwybod fod teuluoedd yn teimlo’r pwysau oherwydd costau byw a gall y grant hwn wneud gwir wahaniaeth.”

Mae’r ffenestr ymgeisio ar gyfer cyllid eleni yn agor ar 1 Gorffennaf ac yn cau ar 31 Mai 2025.Gall pobl sy’n gymwys ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim, yn ogystal â’r Grant Hanfodion Ysgol, ddefnyddio’r un ffurflen gais ar-lein i ymgeisio am y ddau. Unrhyw un sydd eisoes wedi gwneud cais, nid oes angen iddynt ymgeisio eto.

Os yw eich plentyn yn mynd i ysgol yn Sir Ddinbych, gallwch wneud cais ar-lein am grant trwy fynd i'n gwefan

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...