llais y sir

Llais y Sir: Gorffennaf 2024

Gwasanaethau Cefn Gwlad: Newyddlen Gwirfoddolwyr y Gogledd

Môr-wenoliaid bach Gronant

Yn 2024 rydym yn dathlu ugain mlynedd ers i Wasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych ddechrau rheoli nythfa môr-wenoliaid bach Gronant. Hon yw’r nythfa fagu fwyaf yng Nghymru ac mae’n safle o arwyddocâd rhyngwladol gan ei fod yn cyfrannu at dros 10 y cant o’r boblogaeth fagu yn y DU. Mae sefydlu’r nythfa yn llawer o ymdrech gan fod gennym ni bolisi dim olion sy’n golygu bod y ffensys a’r adeiladwaith a godir ym mis Ebrill yn cael eu tynnu ar ddiwedd y tymor. Yn ystod y tymor mae yna gyfleoedd i bobl wirfoddoli, felly cofiwch gysylltu gyda Jim Kilpatrick, Uwch Geidwad ar jim.kilpatrick@sirddinbych.gov.uk os hoffech chi gymryd rhan.

Uwchgylchu ar gyfer Bioamrywiaeth Bodelwyddan

Ym mis Mawrth bu gwirfoddolwyr yn tyllu pyllau bach ym Modelwyddan. Drwy roi pwrpas newydd i hen deiars tractors bu iddyn nhw greu strwythurau cadarn i ddal dŵr, gan ddarparu adnodd pwysig i wella bioamrywiaeth.  

Bydd y pyllau cyn hir yn gartref i infertebratau, amffibiaid a phlanhigion a oedd gynt yn brin ar y safle. Sylwch, dydi safle Bodelwyddan ddim ar agor ar hyn o bryd ac nid oes mynediad iddo i’r cyhoedd.

Y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect newid hinsawdd

Wrth i’r tymor plannu coed ddirwyn i ben, hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bawb sydd wedi gwirfoddoli a’n helpu ni gyda’r prosiect hwn. Ni fyddai’r miloedd o goed wedi’u plannu heb gymorth ein tîm ymroddedig o wirfoddolwyr, sefydliadau lleol a phlant ysgol brwdfrydig.  Diolch i chi unwaith eto. 

Byddwn yn treulio’r ychydig wythnosau nesaf yn gorffen plannu’r coed sydd dros ben ac yn gwneud ychydig o dasgau bach eraill ar y safleoedd newydd. Cadwch eich llygaid ar agor am y sesiynau gyda Matt, os hoffech chi gymryd rhan hefyd. 

Pyllau madfallod dŵr cribog Bruton

Mae pwll newydd wedi’i greu yng Nghoetir Cymunedol Parc Bruton.  Cafodd y pwll ei ariannu gan brosiect Natur Er Budd Iechyd ac roedd y gwaith yn cynnwys cloddio, gosod leinin clai bentonit a chodi ffensys i atal cŵn.

Bu gwirfoddolwyr wedyn yn plannu cyrs, brwyn a blodau brodorol a fydd yn helpu’r madfallod i ddodwy wyau. Mae’r cynefinoedd hyn hefyd yn bwysig iawn i infertebratau ac amrywiaeth o amffibiaid.

Yr Arfordir

Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn trawsblannu moresg yn Harbwr y Rhyl. Roedd y gwaith yn cynnwys cymryd ychydig o foresg o leiniau sefydledig a’u trosglwyddo i leiniau moel, gyda’r gobaith o wella’r gorchudd a sefydlogi'r twyni. Bu i’r gwirfoddolwyr hefyd atgyweirio ffens bolion yn Harbwr y Rhyl, ar safle a ddefnyddir gan gwtiaid cochion i nythu.  Mae’r môr-wenoliaid bach hefyd wedi bod yn edrych ar yr ardal yma fel lle posib i nythu! 

Ymhellach i hynny, mae gwirfoddolwyr wedi bod yn glanhau traeth Splash Point ac wedi helpu i glirio prysg yn Nhwyni Barkby. 

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...