Mae Gorffennaf yn fis cyffrous a phrysur yn ein Llyfrgelloedd gyda lansiad y Sialens yn Genedlaethol yng Nghymru a Lloegr ar Orffennaf y 6ed mewn partneriaeth gyda’r Reading Agency. Eleni'r thema yw Crefftwyr Campus sy’n annog plant i gymryd rhan a chael hwyl. Mae cyfle i blant fod yn nhw eu hunain, defnyddio eu dychymyg a bod yn greadigol gan ddarganfod llyfrau gwych, dyfeisgar a lliwgar. Byddant yn darllen llyfrau a chasglu cymhellion dros wyliau’r haf a chymryd rhan mewn gweithgareddau celf a chrefft am ddim.
Nod Sialens Ddarllen yr Haf yw atal y diffyg darllen sy’n gallu digwydd dros y gwyliau pan nad ydy’r plant yn yr ysgol. Gyda chefnogaeth llyfrgelloedd, mae'n darparu ffordd hwyliog am ddim i gadw meddyliau ifanc yn actif. Yn 2023, cymrodd dros 685,000 o blant ran, ledled y DU.
Rydym yn hynod falch o gael digwyddiad cenedlaethol i lansio’r Sialens yn Llyfrgell Dinbych ar Orffennaf 10fed gyda phlant o Ysgol Twm o’r Nant yn ymuno gyda’r awdur Leisa Mererid. Bydd yr awdur yn cyflwyno ei llyfr Y Wariar Bach a’r plant yn ymuno mewn ymarferion ioga ac anadlu i ddilyn. Trefnir y sesiwn ar y cyd gyda Chyngor Llyfrau Cymru.