Llinell Gymorth Byw Heb Ofn
Os ydych chi, aelod o’r teulu neu ffrind, neu unrhyw un arall rydych chi’n poeni amdanynt wedi dioddef camdriniaeth ddomestig neu drais rhywiol, gallwch gysylltu â llinell gymorth Byw Heb Ofn 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, i gael cyngor a chymorth neu drafod eich opsiynau.
Cysylltwch â chynghorwyr Byw Heb Ofn am ddim ar y ffôn, drwy sgwrsio ar-lein, neu drwy anfon neges destun neu e-bost.
Llinell Gymorth Byw Heb Ofn
Gall Byw Heb Ofn ddarparu cymorth a chyngor ar gyfer:
- unrhyw un sy'n dioddef cam-drin domestig
- pobl sy'n adnabod rhywun sydd angen cymorth.Er enghraifft, ffrind, aelod o'r teulu neu gydweithiwr
- ymarferwyr sydd am gael cyngor proffesiynol
Mae pob sgwrs â staff Byw Heb Ofn yn gyfrinachol ac yn cael eu cynnal â staff sy'n brofiadol iawn ac wedi'u hyfforddi'n llawn.
- Ffoniwch: 0808 80 10 800
- Neges destun: 07860077333
- E-bost: gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru
- Gwasanaeth sgwrsio byw
Mae bob un o’r rhain ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.