llais y sir

Llais y Sir: Mai 2021

Prosiect Cysylltiadau Da

Wrth i ail flwyddyn prosiect Cysylltiadau Da ddod i ben, rydym yn adlewyrchu ar yr hyn a gyflawnwyd o dan yr amgylchiadau mwyaf heriol. Er gwaethaf yr heriau mae nifer o bethau i’w dathlu ac mae’r prosiect wedi parhau ymhob ffordd bosibl trwy waith y tîm diwyd, ceidwaid y Cyngor a swyddogion Cadwch Gymru’n Daclus.

Mae gwlyptir Prestatyn bellach yn edrych yn fwy fel gwlyptir, gyda phyllau dŵr datgladdedig, porfa, platfform gwylio hygyrch, mae’r adar hirgoes eisoes yn cael eu denu! Mae gwlyptir Prestatyn yn ganolog i’r prosiect hwn, gan ei fod yn safle gwyrdd trefol allweddol, ynghyd â’r coridor gwyrdd/glas, ac felly mae’r gwaith graddfa mawr yn achos i ddathlu. Rŵan bod y gwaith wedi ei gwblhau gall y safle ddechrau tyfu ac aeddfedu i mewn i wlyptir y gwanwyn a'r haf hwn, gyda mwy o waith i’w wneud ar bori ac arwyddion dehongli i ymwelwyr i wella’r safle ymhellach. Byddwn yn gweld newidiadau sylweddol yn y misoedd nesaf felly dewch i weld.

Yn Ffos y Rhyl, safle prosiect allweddol arall, mae platfform pysgota hygyrch newydd wedi cael ei osod gan Elwy Working Woods, cyflenwr coed cynaliadwy lleol. Ynghyd â’r platfform pysgota, mae gweddill y ffos hefyd wedi derbyn gwaith atgyweirio ac mae’r clwb pysgota Help for Heroes lleol wedi cael coed ac offer i’w galluogi i gynnal gwaith atgyweirio pellach. Y clwb fydd ceidwaid y platfformau pysgota a byddent yn weithgar ar hyd y rhan hon o’r ffos unwaith i’r cyfyngiadau clo lacio. Yn ogystal â hyn, rydym yn gweithio gyda physgotwyr lleol i sefydlu clwb pysgota newydd i ymgysylltu â phlant yn yr ystadau lleol, eu cysylltu â’u tirlun ar coridor gwyrdd/glas, a’u darparu gyda sgiliau ac allanfa ar gyfer egni.

Mae ysgolion yn chwarae rhan fawr yn y prosiect Cysylltiadau Da, ac er gwaethaf y cyfyngiadau a rwystrodd ein gwaith ymgysylltu, rydym wedi treulio’r gaeaf yn gwella tiroedd ysgol trwy ein hymgyrch plannu coed, yn ogystal â phrosiectau SUDS ar draws holl ardal y prosiect. Derbyniodd 8 ysgol y prosiect plannu coed y gaeaf hwn, o Fae Cinmel i Gronant, mewn ffurf gwrychoedd (cyfanswm o 600m), ardaloedd coetir bychain, perllannau bychain (gyda mathau o ffrwythau lleol) a chylchoedd coed helyg. Ynghyd â’r prosiect PLANNU yng Nglan Morfa, sef safle arall ar hyd y coridor gwyrdd/glas, plannwyd 6,300 o goed y gaeaf hwn. Hefyd, mae gennym brosiect SUDS (Systemau Draenio Cynaliadwy) ar gyfer pob blwyddyn o’r prosiect Cysylltiadau Da (3), ac eleni fe gyflawnwyd hyn yng Nghrist y Gair y Rhyl, a dechreuodd y gwaith yn Ysgol y Gronant a fydd yn derbyn y prosiect SUDS yn y drydedd flwyddyn. Derbyniodd Crist y Gair strwythur dosbarth coed awyr agored gyda tho gwyrdd, a wnaed gan Elwy Working Woods, gwlâu blodau, system casglu dŵr, a phlannu coed mewn ffurf gwrychoedd, ardal coetir a choed ffrwythau lleol.

Wrth i’r cyfyngiadau ddechrau llacio yn ystod y gwanwyn, rydym yn gobeithio cynyddu’r ymgysylltiad gyda’r gymuned, lle gallwch ddangos ein mannau gwyrdd newydd a chael y gymuned yn rhan o ofalu am eu tirlun lleol.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...