Mae Archifau Gogledd Ddwyrain Cymru wedi lansio cyfres ddigidol o’r enw ‘Heb Asid’ yn ddiweddar, sy’n archwilio rhai o brofiadau bywyd go iawn a themâu o’u casgliadau. Yn y gyfres, mae archifwyr a gwesteion arbennig yn edrych yn fanylach ar y bobl a’r hanesion o’r casgliadau sydd wedi’u harchifo, gan ddod â rhai o’r straeon anhygoel yn fyw.

Yn eu hail bennod o’r gyfres hon, mae’r pwyslais ar y Casgliad Beiblau Cymraeg a gafwyd yn ddiweddar, sydd wedi’u hychwanegu at silffoedd yr Archifau.

Yn 2023, gwnaeth Archifau gatalogio Casgliad Beiblau Cymraeg a dechrau datgelu rhywfaint o’r straeon sy’n gysylltiedig ag eitemau’r casgliad hwn.

Mae'r casgliad yn un o'r rhai mwyaf y tu allan i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, ac mae'n cynnwys cyfrolau prin iawn. Mae'r rhain yn cynnwys y cyfieithiadau cynharaf gan y ffigwr enwog, William Morgan, Testament Newydd William Salesbury o 1567 a'r Beibl a ddefnyddiodd Mari Jones cyn cerdded 25 milltir i brynu ei chopi ei hun.

Ym mhennod ddiweddaraf y podlediad, mae Hedd ap Emlyn a Bethan Hughes yn ymuno ag Archifau, sy’n trafod tarddiad y casgliad, y gwahanol ffyrdd y daeth yr amrywiaeth o Feiblau i law ac arwyddocâd y casgliad i Ogledd Ddwyrain Cymru.

Meddai Katie Gilliland, Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned:

“Rydym ni’n edrych ymlaen yn fawr at rannu’r bennod ddiweddaraf o’n podlediad a’r gyfres straeon digidol, Heb Asid.

Mae’n arddangos ein Casgliad Beiblau Cymraeg sydd wedi’i gatalogio ac yr ydym ni’n edrych ymlaen at weld ein defnyddwyr yn ymwneud â’r casgliad o ganlyniad i’r bennod hon.”

Mae stori ddigidol sy’n rhoi cipolwg o’r casgliad wedi’i chynhyrchu. Mae hon ar gael ar Youtube.

Mae trafodaeth Hedd a Bethan yn Gymraeg ond mae cyfieithiad o’r bennod ar gael ar y wefan. Gwrandewch ar y bennod o’r podlediad yma.

Bydd pennod nesaf ‘Heb Asid’ yn canolbwyntio ar y ffatrïoedd Courtalds yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.