llais y sir

Llais y Sir: Mai 2024

Sesiwn Iechyd a Lles

Cawsom sesiynau llesol i blant a theuluoedd yn Llyfrgelloedd Dinbych, Prestatyn, Rhyl a Rhuthun yn ddiweddar.  

Cafwyd cyfuniad hwyliog o ioga, symud a chân gyda’r actor a’r awdur Leisa Mererid. 

Ymunodd y teuluoedd mewn sesiwn greadigol ryngweithiol oedd yn gyflwyniad i fudd ioga, anadlu a mwyniant canu.  Seiliodd Leisa'r sesiwn ar ei llyfr stori a llun ‘Y goeden ioga’ gyda symudiadau syml a bywiog gan fynd a’r plant ar daith natur gyda chylch bywyd planhigion ac anifeiliaid y goedwig. Roedd yn gyfle ardderchog i bawb gymryd rhan beth bynnag eu gallu, profiad neu gefndir. 

Yr awdur Leisa Mererid yn arwain sesiwn lles gyda theuluoedd yn Llyfrgelloedd Dinbych a Phrestatyn.

Mae casgliad ardderchog o lyfrau Darllen Yn Well i blant ar gael yn eich Llyfrgell leol sy’n cefnogi iechyd meddwl a llesiant plant.  Holwch yn y Llyfrgell am fanylion neu ewch i’r linc >>> https://reading-well.org.uk/cymru.

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...