llais y sir

Llais y Sir: Mai 2024

Gadewch i’ch lawntiau gefnogi natur leol

Gadewch i’ch lawntiau gefnogi natur leol  A hoffech chi wneud eich rhan i helpu’r gwenyn a’r gloÿnnod byw?  A oes gennych chi lawnt yn eich cartref a allai ddarparu cynefin perffaith i beillwyr? 

Drwy baratoi a chynllunio ymlaen llaw, gallwch drawsnewid rhan o’ch lawnt neu’r lawnt gyfan yn gynefin addas lle gall blodau gwyllt a phryfaid ffynnu. 

Mae bron i 97% o ddolydd blodau gwyllt wedi diflannu ers y 1930au sydd wedi arwain at ostyngiad sylweddol yn y bwyd sydd ei angen ar beillwyr sydd hefyd yn chwarae rôl bwysig wrth roi bwyd ar eich bwrdd.

Mae’r ffigwr hwn yn frawychus, ond mae cymorth ar gael i’ch helpu i gefnogi bywyd gwyllt yn eich gardd gefn. 

Gall hyd yn oed y darn lleiaf o laswellt wneud gwahaniaeth enfawr drwy ddarparu cartref i flodau gwyllt, pryfaid, bwyd i adar brodorol a hyd yn oed storio carbon o dan y ddaear i helpu i fynd i’r afael ag allyriadau lleol. 

Y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw peidio â thorri rhan o’ch lawnt neu’r lawnt gyfan am gyfnod hirach, a rhoi seibiant i’ch peiriant torri gwair a’ch coesau dros ddyddiau’r gwanwyn a’r haf. 

Gall torri gwair unwaith bob mis helpu’r blodau bychain megis llygaid y dydd a meillionen hopysaidd i ffynnu a rhoi hwb nectar hanfodol i wenyn. 

Gall peidio â thorri gwair am gyfnod hirach mewn ardaloedd eraill o’ch lawnt helpu i ddarparu cartrefi ar gyfer rhywogaethau talach megis Llygad Llo Mawr a Phig yr Aran y Weirglodd, a fydd yn bwydo amrywiaeth o anifeiliaid. 

Gall newid bychan i’r ffordd yr ydych yn rheoli eich lawnt wneud gwahaniaeth enfawr i natur leol, felly beth am roi cynnig arni i weld y buddion yn blaguro o flaen eich llygaid. 

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...