Diweddariad y Gronfa Ffyniant Bro
Fel rhan o Rownd 1 Cronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, mae'r Cyngor wedi bod yn llwyddiannus yn eu cais ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar gyfer Etholaeth De Clwyd. Bwriedir y Gronfa Ffyniant Bro i fuddsoddi mewn isadeiledd sy’n gwella bywyd bob dydd ar draws y DU. Mae’r gronfa yn cefnogi adfywio canol tref a’r stryd fawr, prosiectau cludiant lleol ac asedau diwylliannol a threftadaeth. Mae’r Gronfa Ffyniant Bro a ddyrannwyd i Sir Ddinbych yn £3.8miliwn a bydd o fudd i gymunedau Llangollen, Llantysilio, Corwen a’r ardaloedd cyfagos.
Mae yna nifer o brosiectau cyffrous yn cael eu darparu yn y cymunedau hyn, y byddwch yn dechrau gweld tystiolaeth ohonynt yn fuan yn 2023, a disgwylir cwblhau pob prosiect erbyn Mawrth 2024.
Beth sy’n cael ei gynllunio?
Llangollen / Llantysilio
- Gwella mynediad o amgylch Pedwar Priffordd hanesyddol (Camlas, Rheilffordd, Afon Dyfrdwy a’r A5)
- Gwella profiad ymwelwyr ym Mhlas Newydd gan wella mynediad i amrywiol rannau o’r atyniad
- Llwybrau mynediad yng ngwarchodfa natur Wenffrwd gan gynnwys cysylltu llwybr tynnu’r gamlas i’r warchodfa natur. Mae un llwybr eisoes wedi’i gwblhau gan gysylltu’r warchodfa natur i’r ganolfan iechyd.
- Gwelliannau i brofiad ymwelwyr yn Rhaeadr y Bedol a mesurau i ddiogelu’r amgylchedd naturiol
Corwen
- Gosod canopi platfform i gwblhau’r Orsaf newydd yng Nghorwen, darperir gan Ymddiriedolaeth Rheilffordd Llangollen
- Gwelliannau i ymddangosiad Stryd Fawr Corwen gan gynnwys adnewyddu meinciau, biniau a’r parth cyhoeddus ar hyd y stryd fawr. Hefyd wedi’i gynnwys mae gwaith adnewyddu allanol yn Llys Owain (yr hen fanc HSBC), bydd yr elfen hon yn cael ei darparu gan sefydliad menter gymdeithasol leol, Cadwyn Adfywio
- Gwelliannau i Faes Parcio Lôn Las fydd yn cynnwys gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan ac adfywio’r bloc toiledau
- Llwybr teithio llesol 1 cilomedr o Lôn Las i fyny at yr A5.
Rhannwch eich syniadau
Y Dull Ymgysylltu Pedwar Priffordd Gwych
Mae Burroughs a The Urbanists wedi eu penodi gan y Cyngor i ddatblygu dyluniad y Prosiect Pedwar Priffordd Gwych. Bydd y prosiect yn ceisio ailgysylltu rhannau allweddol o’r dref drwy amrywiol welliannau i’r parth cyhoeddus fel arwyddion gwell a dehongliad o’r dreftadaeth leol, cyfleoedd/profiadau chwarae naturiol, seddi a mynediad gwell i fannau i bawb. Y flaenoriaeth fydd gwella mynediad rhwng y Gamlas, Canol y Dref, Afon Dyfrdwy a’r Orsaf Reilffordd.
Oherwydd treftadaeth gyfoethog Llangollen, byddwn yn ceisio adborth gan ystod eang o’r gymuned leol, plant ysgol i fusnesau lleol, pobl ar draws y grwpiau oed o fewn y gymuned ac ymwelwyr hefyd.
Bydd dyddiadau a gwybodaeth allweddol ar sut y gallwch gymryd rhan yn cael eu rhannu ar wefan Sir Ddinbych a phosteri o fewn y gymuned ac yn edrych ar gysylltu ag ysgolion lleol, digwyddiadau cyhoeddus a gweithdai a dargedwyd, yn bersonol ac ar-lein, i roi cyfle i holl aelodau o’r gymuned i ddweud eu dweud.
Am fwy o wybodaeth ar y prosiectau, ewch i: https://www.sirddinbych.gov.uk/cronfa-codir-gwastad
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am brosiectau Ffyniant Bro De Clwyd, gallwch gysylltu â codirgwastad@sirddinbych.gov.uk