Nod yr ymgyrch yw annog pobl i wario eu harian yn Sir Ddinbych, gan annog siopwyr a busnesau i ddefnyddio eu sianeli cyfryngau cymdeithasol i rannu eu profiadau cadarnhaol gan ddefnyddio hashnod #CaruBusnesauLleol - y mwyaf y mae pobl allan yn siopa ac yn dweud wrth bawb amdano, y gorau yw’r awyrgylch i bawb wrth i’r Nadolig agosáu.
Gweler y rhestr isod i weld y cyfyngiadau sydd ar waith a gwybodaeth am y meysydd parcio sydd wedi’u cynnwys a’r rheiny heb eu cynnwys yn y fenter:
- Corwen: Maes Parcio Lôn Las
- Dinbych: Maes parcio Lôn Ffynnon Barcer, maes parcio Lôn Crown, Ward y Ffatri, Lôn y Post, Stryd y Dyffryn
- Llangollen: Stryd y Dwyrain, Stryd y Neuadd, Heol y Farchnad, Heol y Felin
- Prestatyn: Rhodfa’r Brenin, Rhan Isaf y Stryd Fawr, gorsaf rheilffordd Prestatyn
- Rhuddlan: Stryd y Senedd
- Y Rhyl: Canolog, Ffordd Morley, llyfrgell y Rhyl (gofodau parcio i bobl anabl yn unig), Gorsaf Reilffordd y Rhyl, maes parcio Tŵr Awyr y Rhyl, Gorllewin Stryd Cinmel ** Sylwer, nid yw maes parcio preifat Neuadd y Morfa, Y Rhyl yn rhan o’r fenter. **
- Rhuthun: Crispin Yard (Cae Ddol), Lôn Dogfael, Stryd y Farchnad, Ffordd y Parc, Stryd y Rhos, Sgwâr Sant Pedr, Troed y Rhiw
- Llanelwy: Lawnt Fowlio
Dywedodd y Cynghorydd, Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae Am Ddim Ar Ôl Tri wedi bod yn boblogaidd iawn dros y blynyddoedd diwethaf gan ei fod yn gynllun gwych sy’n galluogi trigolion i gefnogi eu cymunedau lleol, ac mae pob mymryn yn help gyda’r problemau costau byw y mae bob un ohonom yn eu hwynebu ar hyn o bryd.”
“Gobeithiwn y bydd pawb yn cefnogi eu stryd fawr a’u busnesau lleol, yn arbennig yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig, ac yn cymryd mantais o’r cynllun gan ddefnyddio meysydd parcio canol trefi’r sir yn rhad ac am ddim.”
I gael rhagor o wybodaeth ewch i: Parcio am ddim ar ôl 3pm | Cyngor Sir Ddinbych