Ffair swyddi yn cefnogi cyfleoedd cyflogaeth i bobl ifanc
Daeth bron 30 o arddangoswyr at ei gilydd yn ddiweddar i gefnogi help cyflogaeth i bobl ifanc.
Yn Ffair Gyrfaoedd Sir Ddinbych yn Gweithio a gynhaliwyd yn Neuadd y Dref y Rhyl, cafodd bron 100 o breswylwyr ifanc 16 oed a hŷn gyngor a help gwerthfawr am gyflogaeth.
Yn y digwyddiad, roedd yr arddangoswyr yn cynnwys amrywiaeth o gyflogwyr, darparwyr hyfforddiant, darparwyr addysg a gwasanaethau cefnogaeth.
Roedd modd dysgu am gyfleoedd gwaith ym maes Gweinyddu a Chyllid, Adeiladu, Addysg, Peirianneg, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gyrru a Logisteg, Gwasanaethau Cyhoeddus, Gofal Plant, Tecstiliau, Tai, Gweithgynhyrchu, Gemau a Digidol. Roedd y rhai a oedd yn ystyried bod yn hunangyflogedig yn gallu cael cyngor yn y digwyddiad hefyd.
Roedd cyfle i ddarganfod elfennau rhyngweithiol y digwyddiad hefyd, a oedd yn cynnwys Fan Gemau, lle’r oedd cyfle i bobl roi cynnig ar rai o’r gemau diweddaraf. Roedd cerbydau’r Gwasanaethau Brys wedi’u parcio y tu allan er mwyn i bobl eu gweld hefyd.
Mae’r Digwyddiad Gyrfaoedd hwn yn rhan o raglen Sir Ddinbych yn Gweithio, a ddarperir gan Gyngor Sir Ddinbych. Gan weithio gyda busnesau a sefydliadau lleol, mae rhaglen Sir Ddinbych yn Gweithio wedi ymrwymo i gefnogi Pobl Ifanc sy’n byw yn Sir Ddinbych, gyda chefnogaeth i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant a chymorth i gael gwaith neu i fod yn hunangyflogedig.
Ariannwyd y digwyddiad gyrfaoedd hwn drwy’r Warant i Bobl Ifanc Llywodraeth Cymru, a gaiff ei ddarparu’n rhannol drwy’r rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy sy’n helpu’r bobl sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur i ddod o hyd i waith drwy gynnig cymorth a chefnogaeth un i un. Mae Cymunedau am Waith a Mwy’n rhan o raglen Sir Ddinbych yn Gweithio, a ddarperir gan Gyngor Sir Ddinbych. Gan weithio gyda busnesau a sefydliadau lleol, mae rhaglen Sir Ddinbych yn Gweithio wedi ymrwymo i gefnogi Pobl Ifanc sy’n byw yn y sir, gyda chefnogaeth i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant a chymorth i gael gwaith neu i fod yn hunangyflogedig.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd, “Roeddwn wrth fy modd o fynychu’r digwyddiad hwn a gweld amrywiaeth mor wych o gefnogaeth a chyngor cyflogaeth sydd ar gael i bawb a ddaeth trwy’r drws.
“Rwy’n falch iawn o weld Sir Ddinbych yn Gweithio yn cynnig cymorth i’n preswylwyr iau yn ystod cyfnod mor anodd. Rydym yn hynod o falch o gael y gwasanaeth hwn, sy’n ceisio trechu tlodi trwy gyflogaeth.
“Dyma’r holl syniad y tu ôl i Sir Ddinbych yn Gweithio - helpu pobl. “Wrth i gostau byw gynyddu, mae’n bwysig iawn ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu’r gefnogaeth hon am ddim lle bo’n bosibl, er mwyn helpu pobl iau i ganfod y gyflogaeth orau i weddu iddyn nhw.”
Er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau ac i ddysgu mwy am Sir Ddinbych yn Gweithio, ewch i'n gwefan neu i gael cefnogaeth cyflogaeth, ewch i working.denbighshire.gov.uk/.