Mae ymgyrch #CaruBusnesauLleol yn ôl ar gyfer 2023!
Rydym ni’n annog preswylwyr Sir Ddinbych i gefnogi ein busnesau lleol a’n masnachwyr unwaith eto’r gaeaf hwn. Yn hytrach na gofyn i breselwyr ‘gefnogi’n lleol’, nod yr ymgyrch ‘Caru Busnesau Lleol’ yw amlygu a chyflwyno’r cyfoeth o fusnesau, nwyddau a gwasanaethau sydd gan Sir Ddinbych i’w cynnig.
Nid yw gofyn i bobl siopa a chefnogi eu busnesau lleol yn rhywbeth newydd. Mae’r ymgyrch #carubusnesaulleol bob amser yn gyfle gwych i’n hatgoffa ni o’r cynigion ardderchog sydd gennym ni’n lleol, ond mae’r ymgyrch yn arbennig o berthnasol eleni.
Gall siopa’n lleol fod o fudd i ni i gyd trwy leihau faint o danwydd sydd ei angen arnom i bwmpio i mewn i’n ceir ar gyfer teithiau hirach. Nid yn unig y gall hyn arbed ychydig bunnoedd gwerthfawr i siopwyr, mae hefyd yn siopa mwy cynaliadwy, gyda phobl leol yn siopa'n lleol gan fusnesau lleol. Gall y rhai sy’n dewis siopa’n lleol hefyd elwa ar y cynllun parcio ‘Am Ddim ar ôl Tri’ a fydd yn rhedeg tan 31 Rhagfyr.
Nod yr ymgyrch yw annog pobl i wario eu harian yn Sir Ddinbych, wrth annog siopwyr a busnesau i ddefnyddio eu sianeli cyfryngau cymdeithasol i rannu eu profiadau cadarnhaol gan ddefnyddio’r hashnod #carubusnesaulleol.
Fel rhan o’r ymgyrch, bydd asedau cyfryngau cymdeithasol ar gael i fasnachwyr i helpu i hyrwyddo eu busnesau ar-lein – po fwyaf o bobl sydd allan yn gwneud eu siopa, ac yn dweud wrth bawb amdano, gorau oll fydd yr awyrgylch i bawb wrth i’r Nadolig agosáu.
Caiff preswylwyr hefyd eu hannog i ymweld â digwyddiadau Nadoligaidd eraill yng nghanol eu trefi lleol, fel troi goleuadau Nadolig ymlaen, gwasanaethau carolau cymunedol a marchnadoedd artisan.
Dywedodd y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol Twf Economaidd a Threchu Amddifadedd:
“Pwrpas yr ymgyrch ydi atgoffa pobl am yr holl fusnesau gwych sydd gennym ni yn Sir Ddinbych, a’u hannog nhw i siopa a defnyddio gwasanaethau’n lleol lle bo modd er mwyn sicrhau bod economi Sir Ddinbych yn ffynnu ac ein bod ni’n lleihau ein hôl-troed carbon.
“Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd i fusnesau ac mae amseroedd heriol i ddod, ond mae’n bwysig ein bod ni i gyd yn gwneud ein rhan i gefnogi ein heconomi leol.
“Rydym ni’n credu ei bod hi’n bwysicach nag erioed hybu neges #carubusnesaulleol i’n trigolion ac atgoffa pawb bod llawer o siopau yn ein trefi a’n pentrefi sy’n cynnig ystod eang o gynnyrch, o fwyd a diod i harddwch a ffasiwn, o gelf a chrefft i wasanaethau proffesiynol.
“Bydd mynd am dro i’n trefi a’n pentrefi’n datgelu trysorau cudd ac yn aml iawn byddwch chi’n dod o hyd i roddion anhygoel i’ch anwyliaid. Rydym ni eisiau helpu busnesau i ddangos eu cynnyrch, annog pobl i fynd atynt a chyffroi a syfrdanu cwsmeriaid ynglŷn â’r hyn sydd ar gael”.
Pan fydd y Nadolig a’r sêls wedi bod, beth am wneud addewid blwyddyn newydd i barhau i ymweld â’r stryd fawr leol yn 2023 a thu hwnt?
Gallwch gymryd rhan drwy fynd i'r dudalen Caru Busnesau Lleol ar ein gwefan.