Newyddlen Gwirfoddolwyr y Gogledd
Pwll Brickfields
Mae gwirfoddolwyr wedi clirio’r drain duon a’r mieri ar hyd rhan ddeheuol y llwybr ac wedi agor golygfeydd newydd o’r pwll. Defnyddiwyd y torbrennau i greu tomenni o gynefinoedd newydd i helpu twf bioamrywiaeth. Mae’r gwirfoddolwyr hefyd wedi dechrau clirio ardal newydd ar ochr ogleddol y warchodfa, lle’r oeddem yn arfer gweld llygod pengrwn y dŵr. Maen nhw wedi creu tomenni newydd o gynefinoedd ac yn bwriadu plannu mwy o lystyfiant i helpu’r anifeiliaid bach yma.
Coed y Morfa Iasol
Ddydd Mawrth 31 Hydref, bu’r gwirfoddolwyr yn brysur iawn yng Nghoed y Morfa yn gwneud pryfaid cop dychrynllyd yn defnyddio coed cyll wedi’u bôn-docio. Defnyddiwyd amrywiaeth o offer i siapio’r corff, a defnyddiwyd rhywogaethau eraill i wneud y coesau a’r dannedd. Dull traddodiadol o reoli coetir yw bôn-docio, sef torri coed drosodd a throsodd yn y bôn i greu stôl. Mae’r goeden sy’n tyfu’n ôl yn sythach na’r un wreiddiol a gellir ei chynhaeafu mewn cylch yn dibynnu ar ddefnydd arfaethedig y pren wedyn, gan ddarparu ffynhonnell gynaliadwy o bren. Wedi’u rheoli yn defnyddio’r dull yma, mae coed wedi’u bôn-docio yn gallu byw am gannoedd o flynyddoedd. Credir bod y bisgwydden deilen fach yng Ngardd Goed Genedlaethol y Comisiwn Coedwigaeth yn Westonbirt yn oddeutu 2000 o flynyddoedd oed!
Wrth gwrs, dydi pryfaid cop ddim ar gyfer Calan Gaeaf yn unig. Ceir dros 660 o wahanol fathau o bryfaid cop yn y DU. Mae ganddyn nhw ran bwysig iawn yn yr ecosystem – maen nhw’n bwyta amrywiaeth o bryfed ac yn bryd bwyd i sawl anifail arall. Maen nhw’n bwysig ar gyfer rheoli rhywogaethau pla a chadw’r rhan fwyaf o glefydau dan reolaeth. Bydd gennym ni ychydig o sesiynau crefft / gwaith coed wedi’u hariannu gan Natur Er Budd Iechyd gyda hyn, felly cofiwch wirio’r amserlen a’r calendr gwirfoddoli.
Dulliau cynaliadwy ar Safleoedd Newid Hinsawdd
Fel rhan o’n cynllun i greu coetir byddwn yn plannu coed
ar sawl safle newydd yng ngogledd y sir. Wrth blannu coed, yn draddodiadol rydym yn ychwanegu haen o domwellt i ddarparu maetholion ac i ddal lleithder ar gyfer y glasbren. Yn ein hymdrechion parhaus i ganfod ffyrdd mwy eco-gyfeillgar a charbon niwtral o wneud ein gwaith, rydym ni wedi penderfynu defnyddio cnu defaid yn lle tomwellt. Gellir cael gafael ar gnu yn hawdd ac mae’n ddefnydd lleol sy’n rhyddhau nitrogen i’r pridd wrth iddo bydru, a bydd yn ddeunydd da i ddal lleithder yn y pridd o amgylch ein coed. I osod y cnu yn ei le byddwn yn creu pegiau pren syml. Fel y gallwch ddychmygu, bydd arnom ni angen llawer o bobl i’n helpu yn y Willow Collective yn y Rhyl ar 8 Rhagfyr i hogi a chreu’r pegiau.
Y wybodaeth ddiweddaraf am wirfoddoli ar yr arfordir
Mae gwirfoddolwyr wedi bod yn helpu i wella’r arwyddion ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, drwy osod polion a disgiau arwyddion newydd. Ym mis Tachwedd gosodwyd stribedi gwrthlithro ar y llwybr newydd yn Barkby. Rydym ni hefyd wedi bod yn clirio prysg ar dwyni tywod Traeth y Tŵr, Barkby ac ar badog merlod Gronant.
Mae mwy o gyfleoedd arfordirol ar yr amserlen isod.
Amserlen Gwirfoddolwyr y Gogledd - Rhagfyr / Ionawr
MAN CYFARFOD |
TASG |
DYDDIAD / AMSER |
STAFF ARWEINIOL |
Pwll Brickfields, Y Rhyl
|
Gwaith ar y Llwybr Pren |
Dydd Iau 21 Rhagfyr |
Vitor Evora Vitor.evora@sirddinbych.gov.uk
|
Maes Parcio Traeth Barkby, Prestatyn |
Clirio Prysg |
Dydd Llun, 8 Ionawr 10am - 3pm |
Claudia Smith claudia.smith@sirddinbych.gov.uk
|
Maes Parcio Isaf, Castell Bodelwyddan |
Creu Blychau Adar |
Dydd Mercher, 10 Ionawr 10am |
Rich Masson richard.masson@sirddinbych.gov.uk
|
Coed y Morfa, Prestatyn |
Ffensys Plethwaith |
Dydd Mawrth, 16 Ionawr 10am - 1pm |
Sasha Taylor sasha.taylor@sirddinbych.gov.uk
|
Pwll Brickfields, Y Rhyl |
Gwaith ar gynefin - Llygoden bengron y dwr |
Dydd Iau, 18 Ionawr 10am - 3pm |
Vitor Evora vitor.evora@sirddinbych.gov.uk
|
Maes Parcio Gwarchodfa Natur Rhuddlan |
Plygu gwrychoedd |
Dydd Gwener, 19 Ionawr 10am - 3pm |
Jim Kilpatrick jim.kilpatrick@sirddinbych.gov.uk
|
Parc Bruton, Porth Maes Menlli |
Gosod rheiliau coed llwyf |
Dydd Mawrth, 23 Ionawr 10am - 3pm |
Sasha Taylor sasha.taylor@sirddinbych.gov.uk
|
Pwll Brickfields, Y Rhyl |
Plygu gwrychoedd |
Dydd Iau, 25 Ionawr 10am - 3pm |
Vitor Evora vitor.evora@denbighshire.gov.uk
|
Gât mynediad Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd |
Plannu gwrych |
Dydd Gwener, 26 Ionawr 10am - 3pm |
Matt Winstanley matt.winstanley@sirddinbych.gov.uk
|