Mae criw o wirfoddolwyr yn Sir Ddinbych wedi eu cydnabod am eu hymrwymiad i helpu natur lleol yn ystod digwyddiad rhyngwladol.
Mae heddiw’n nodi Diwrnod Rhyngwladol Gwirfoddolwyr, diwrnod i ddathlu a diolch i bobl o amgylch y byd sy’n rhoi eu hamser prin a’u hymdrechion i wasanaeth gwirfoddol.
Mae gwirfoddolwyr wedi ymdrechu i gefnogi nifer o brosiectau cadwraeth, bioamrywiaeth a natur ledled y sir.
Trwy’r Prosiect Natur er budd Iechyd, a ariennir gan Lywodraeth y DU, sy’n gweithio gydag unigolion a chymunedau i amlygu sut y gall cael mynediad at natur wella iechyd a lles, mae gwirfoddolwyr wedi helpu ceidwaid cefn gwlad gyda nifer o brosiectau.
Maent wedi sefyll ochr yn ochr â’r ceidwaid i weithio ar warchodfeydd natur y sir i ddatblygu cynefinoedd ac wedi helpu gyda phrosiectau tymhorol penodol gan gynnwys cartref enwog Môr-wenoliaid Twyni Gronant.
Mae gwirfoddolwyr eraill wedi camu ymlaen i helpu i greu ardaloedd coetir newydd yn y sir i gymunedau lleol a natur eu mwynhau ac wedi creu grŵp gwirfoddoli bywiog ym mhlanhigfa goed y Cyngor yn Llanelwy, gan helpu i dyfu coed a blodau gwyllt lleol o hadau a gafwyd yn lleol.
Meddai’r Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio: “Mae hwn y diwrnod perffaith i gydnabod ymrwymiad gwych gwirfoddolwyr wrth helpu gyda phrosiectau cefn gwlad ledled y sir. Mae eu brwdfrydedd tuag at siapio ardaloedd a fydd o fudd i natur a chyd-drigolion yn rhywbeth y dylent wir fod yn falch ohono, a diolchaf iddynt am eu cymorth a’u cefnogaeth barhaus.
Ychwanegodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae ein gwirfoddolwyr yn y blanhigfa goed yn hollol wych, mae’r gymuned maent wedi ei chreu yno wedi dod yn rhan mor allweddol o’r blanhigfa. Rwy’n gwybod bod ein swyddogion wir yn gwerthfawrogi ac yn mwynhau cwmni’r gwirfoddolwyr pan fyddant ar y safle ac maent yn ddiolchgar iawn am y cymorth anhygoel a ddarparant i amddiffyn ein natur leol.
Mae’r prosiect planhigfa goed wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, drwy brosiect Partneriaethau Natur lleol Cymru ENRaW a grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli neu os oes arnoch eisiau rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost i bioamrywiaeth@sirddinbych.gov.uk.