llais y sir

Llais y Sir: Tachwedd 2023

Cynllun parcio ‘Am Ddim Ar ôl Tri’ Cyngor Sir Ddinbych

Bydd Cyngor Sir Ddinbych unwaith eto yn cynnal y cynllun parcio 'Am Ddim Ar ôl Tri' yn y cyfnod cyn y Nadolig.

Rhwng 20 Tachwedd a 31 Rhagfyr, bydd meysydd parcio yng nghanol y dref sy'n cael eu rhedeg gan Gyngor Sir Ddinbych yn rhad ac am ddim i'w defnyddio bob dydd o 3pm ymlaen i annog mwy o bobl i ddefnyddio eu stryd fawr leol ar gyfer siopa yn y cyfnod cyn y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.

Bydd y fenter Am Ddim Ar ôl Tri ar gael yn y meysydd parcio canlynol:

  • Corwen – Green Lane
  • Dinbych - Lôn Ffynnon Barcer, Ward y Ffatri, Lôn Crown, Lôn Swyddfa'r Post a Stryd Y Dyffryn.
  • Llangollen - Heol Y Farchnad, Stryd y Dwyrain, Stryd y Neuadd a Heol y Felin.
  • Prestatyn – Rhan Isaf y Stryd Fawr, Kings Avenue a’r Orsaf Reilffordd.
  • Rhuddlan – Stryd y Senedd.
  • Y Rhyl - Canolog (dan ddaear), Ffordd Morley, y Tŵr Awyr, Gorllewin Stryd Cinmel, Neuadd y Dref a’r Orsaf Reilffordd; Y Llyfrgell (gofodau parcio i bobl anabl yn unig),
  • Rhuthun - Stryd Y Farchnad, Ffordd y Parc, Crispin Yard, Troed Y Rhiw, Stryd y Rhos, Sgwâr Sant Pedr a Dog Lane.
  • Llanelwy – Y Lawnt Bowlio.

Dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth: "Mae parcio yn rhad ac am ddim ar ôl tri wedi bod yn boblogaidd yn y blynyddoedd blaenorol oherwydd ei fod yn gynllun gwych sy'n galluogi trigolion i gefnogi eu cymunedau lleol. Rydym hefyd yn darparu pum diwrnod parcio am ddim y flwyddyn i bob cyngor tref a dinas a mater iddynt hwy yw sut i’w defnyddio. Mae llawer yn tueddu i ddefnyddio'r rhain yn y cyfnod cyn y Nadolig i annog pobl i siopa'n lleol.

"Rydyn ni'n gobeithio bydd pawb yn siopa ar eu stryd fawr a chefnogi ein busnesau, yn enwedig yn y cyfnod cyn y Nadolig, ac yn manteisio'n llawn ar y cynllun drwy ddefnyddio meysydd parcio canol trefi'r sir yn rhad ac am ddim."

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...