|
Nest
Mae cynllun Llywodraeth Cymru, Nyth, yn cynnig amrywiaeth o gyngor diduedd am ddim i’ch helpu i sicrhau bod eich cartref yn gynhesach ac yn fwy effeithlon. Hefyd, os ydych chi’n gymwys, gall gynnig pecyn o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim.
https://nyth.llyw.cymru/
|
|
Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol i Ysgolion Cynradd
I helpu â chostau byw cynyddol, rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau y bydd pob disgybl cynradd yn cael cynnig prydau ysgol am ddim erbyn 2024 drwy’r cynllun Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol i Ysgolion Cynradd. Ar hyn o bryd mae Prydau Ysgol am Ddim i Ysgolion Cynradd ar gael i bob plentyn yn y dosbarth derbyn a blynyddoedd 1, 2, 3 a 4.
Prydau ysgol am ddim cyffredinol
|
|
Grant Hanfodion Ysgol
Os yw eich plentyn yn mynychu ysgol yn Sir Ddinbych a’ch bod yn cael budd-dal cymwys, mae’n bosibl eich bod yn gymwys i gael grant tuag at gost:
- Gwisg ysgol
- Dillad chwaraeon ysgol
- Chwaraeon y tu allan i’r ysgol
- Gwisg ar gyfer gweithgareddau ehangach e.e. sgowtiaid a geidiau
- Cyfarpar ar gyfer gweithgareddau i gefnogi’r cwricwlwm e.e. dylunio a thechnoleg
- Cyfarpar ar gyfer tripiau tu allan i oriau ysgol, gan gynnwys dysgu yn yr awyr agored
- Dug Caeredin
- Cyfrifiaduron, gliniaduron a dyfeisiau llechen
Grant Hanfodion Ysgol
|
|
Cyfrifiannell Budd-daliadau
Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau annibynnol, am ddim a dienw i weld beth y gallech fod â hawl iddo. Bydd hyn yn rhoi amcangyfrif o:
- y budd-daliadau y gallech eu cael
- faint y gallai eich taliadau budd-dal fod
- sut bydd eich budd-daliadau yn cael eu heffeithio os byddwch yn dechrau gweithio neu’n cynyddu eich oriau
- sut y bydd eich budd-daliadau yn cael eu heffeithio os yw eich amgylchiadau yn newid - er enghraifft, os oes gennych blentyn neu os ydych yn symud i mewn gyda’ch partner
https://www.gov.uk/cyfrifiannell-budd-daliadau
|
|
Llyfrgell Ddigidol
Mae llu o adnoddau ar gael yn rhad ac am ddim yn eich llyfrgell ddigidol gan gynnwys y BorrowBox ble gallwch gyrchu miloedd o Lyfrau Llafar ac e-Lyfrau, Ancestry os oes gennych ddiddordeb mewn hel achau neu PressReader os hoffech chi bori drwy bapurau newydd a chylchgronnau.
Llyfrgell Ddigidol
|