04/08/2026
Cysylltedd symudol cyntaf erioed yn cyrraedd trigolion pentref gwledig yng Ngogledd Cymru
Mae trigolion pentref gwledig yng Ngogledd Cymru wedi cael hwb mawr i’w cysylltedd ar ôl cael mynediad at signal ffôn symudol am y tro cyntaf erioed.
Bu pentref prydferth Clocaenog yn Sir Ddinbych heb orchudd dibynadwy ar gyfer ffonau symudol ers degawdau, nes i bartneriaeth rhwng BT, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Cymuned Clocaenog a Llywodraeth Cymru gael ei sefydlu i lenwi’r bwlch drwy ddod â rhwydwaith arobryn EE i’r ardal. Mae’r prosiect hefyd wedi elwa ar gyllid ychwanegol gan Gronfa Budd Cymunedol Fferm Wynt Brenig.
Gall trigolion a busnesau yn Nghlocaenog bellach fanteisio ar gysylltedd symudol cyflym gan EE, gyda rhwydwaith symudol gorau a mwyaf dibynadwy’r DU ar gael ledled y pentref. Bydd hyn yn helpu pobl i gadw mewn cysylltiad p’un a ydynt yn gweithio o bell, yn cael mynediad at wasanaethau ar-lein, yn archwilio’r ardal leol neu’n cadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau.
Wedi’i osod ar bolyn golau presennol yng nghanol y pentref, mae’r dechnoleg yn cynnig ffordd arloesol o ymestyn darpariaeth symudol i gymunedau gwledig, gan helpu i fynd i’r afael â ‘mannau heb signal’ hirsefydlog mewn ardaloedd lle gall defnyddio seilwaith traddodiadol fod yn fwy heriol.
Dywedodd Kris Longworth, sydd wedi byw yng Nghlocaenog ers dros bedair blynedd:
“Mae’r ddarpariaeth newydd gan EE wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fywyd bob dydd yma. O’r blaen, roedd cael signal symudol yn golygu teithio y tu allan i’r pentref, ond erbyn hyn gallaf wneud galwadau o amgylch fy nghartref a chadw mewn cysylltiad wrth fynd am dro yn lleol. Fel rhywun sy’n gweithio o gartref, mae’r hyblygrwydd hwnnw’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, gan fy ngalluogi i gadw ar ben negeseuon a galwadau pan fyddaf i ffwrdd o fy nesg. Mae hefyd yn galonogol gwybod, os bydd ein band eang yn methu neu os bydd angen i aelodau o’r teulu gysylltu tra byddant allan ac o gwmpas, fod gennym bellach ffordd ddibynadwy o gadw mewn cysylltiad. I gymuned wledig fel ein un ni, mae wedi bod yn newid mawr iawn.”
Dywedodd Susi Marston, Pennaeth y Sector Cyhoeddus yng Nghymru, BT Business:
“Mae dod â chysylltedd symudol i Glocaenog yn rhoi cyfleoedd i drigolion a busnesau lleol nad ydynt erioed wedi gallu eu defnyddio o’r blaen. Mae’r bartneriaeth hon wedi canolbwyntio’n llwyr ar gydweithio i ddarparu cysylltiadau gwell â gwasanaethau i’r gymuned yma, cryfhau cysylltiadau rhwng pobl a rhoi mwy o hyder iddynt dyfu a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Drwy ddefnyddio ‘mastiau bach’, gallwn ddarparu’r gwasanaethau rhwydwaith sydd eu hangen ar bobl mewn ffordd sy’n parchu cymeriad unigryw’r ardal.”
Dywedodd Adam Price, Gweinidog y Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni:
“Nid oes lle yn ein gweledigaeth ar gyfer Cymru i fannau digidol heb signal sy’n torri cymunedau i ffwrdd oddi wrth fywyd modern a chyfleoedd economaidd. Fel Llywodraeth newydd Cymru, rydym wedi ymrwymo i sbarduno buddsoddiad, arloesedd a chynhyrchiant uwch ledled Cymru, a bydd prosiectau arloesol fel hwn yn chwarae rhan bwysig wrth ddarparu’r cysylltedd cryfach sydd ei angen ar gyfer y Gymru rydym am ei meithrin yn y dyfodol.”
Mae’r prosiect yng Nghlocaenog yn enghraifft ddiweddaraf o sut mae BT, awdurdodau lleol a’r llywodraeth yn cydweithio i helpu i fynd i’r afael â mannau heb signal symudol mewn cymunedau gwledig ledled Cymru.
Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad BT yn gynharach eleni bod EE wedi dod yn weithredwr cyntaf y DU i ddarparu cysylltedd symudol dibynadwy i bentref Penmachno yn Nyffryn Machno, ychydig filltiroedd i’r de o Fetws-y-Coed.
Mae’r prosiect hefyd yn adeiladu ar ymrwymiad parhaus BT i wella seilwaith digidol ledled Cymru, ar ôl buddsoddi mwy na £500 miliwn mewn cysylltedd sefydlog a symudol ledled y wlad ers 2020.