24/07/2025
Ffordd Parc Bodnant
Ydych chi wedi galw heibio Ffordd Parc Bodnant yr haf hwn?
Cafodd yr ardal ei datblygu yn ystod 2023 gan dîm Newid Hinsawdd y Cyngor, staff y Gwasanaethau Cefn Gwlad a gwirfoddolwyr. Cafodd bron i 1,500 o goed, gan gynnwys perthi, eu plannu ar y safle.
Cafodd pwll ei ychwanegu i’r safle sydd wedi cael ei ddylunio i ddal lefel isel o ddŵr er mwyn darparu’r amodau gorau i nifer o rywogaethau ffynnu. Gerllaw’r pwll mae yna ystafell ddosbarth bren awyr agored unigryw sydd wedi cael ei chreu yn lleol. Mae to ystlumod ar yr ystafell er mwyn rhoi lle i’r mamal nosol allu clwydo.
Mae staff Cefn Gwlad hefyd wedi gweithio i wella perllan ym Mharc Bodnant a datblygu dôl blodau gwyllt er mwyn i rywogaethau cynhenid ffynnu ar y safle.