01/09/2026
O bermaddiwylliant i gadwraeth: gyrfa â’i gwreiddiau mewn natur

Trwy lawer o’i fywyd gweithio, nid yw’r llwybr gyrfa wedi bod yn syml i Keegan Blazey. Mae ei fywyd wedi symud trwy stiwdios celf, ffermydd organig, ystafelloedd dosbarth, dylunio gemau, labordai prifysgolion ac, yn y pen draw, i waith ymarferol, mwdlyd, cadwraeth. Ond wrth edrych yn ôl, i’r Swyddog Planhigfa Goed ym Mhlanhigfa Goed y Cyngor yn Llanelwy, mae’r llinyn sy’n rhedeg trwy’r cyfan yn glir: awydd i ddeall y byd naturiol a gwneud rhywbeth defnyddiol ynddo. Mae Llais y Sir yn sgwrsio â Keegan i ddarganfod sut mae natur wedi bod gydag ef bob amser trwy ei fywyd gweithio.
Dechreuodd ei ddiddordeb yn ei ugeiniau, pan ddechreuodd ymwneud â phermaddiwylliant – ffordd o feddwl am fwyd, tir a chymuned sy’n mynd y tu hwnt i amaethyddiaeth gynaliadwy. I Keegan, fe’i helpodd i gysylltu â syniadau ehangach am ddiwylliant, ysbrydolrwydd, ymwybyddiaeth ofalgar a hunanddigonedd.
Eglurodd: “Mae gen i ddiddordeb mawr mewn bod yn gynaliadwy a hunangynhaliol. Rydych chi’n dysgu sut i dyfu eich bwyd eich hunain oherwydd mae’n eich cadw chi’n iach. Roedd Bwdhaeth, ymwybyddiaeth ofalgar a’r holl bethau tebyg yn rhan o’r hyn wnaeth ennyn fy niddordeb.”
Fe wnaeth tyfu i fyny yn Ne Affrica helpu i lunio ei feddwl hefyd. Oherwydd bryd hynny, roedd prinder dŵr, sychder a thywyllwch treigl yn rhan o fywyd bob dydd. Eglura Keegan fod Permaddiwylliant yn cynnig atebion ymarferol gan gynnwys casglu dŵr glaw, defnyddio dŵr mewn ffordd gynaliadwy a chynllunio systemau sy’n dibynnu llai ar brif gyflenwadau.
Ar ôl symud i’r DU, bu Keegan yn gweithio’n bennaf fel athro Saesneg wrth barhau i wirfoddoli ar brosiectau’n ymwneud â’r tir. Yn y pen draw, arweiniodd hynny at rôl fel rheolwr gardd organig, lle bu’n rhedeg gardd farchnad a oedd yn cyflenwi safle gwely a brecwast, rheoli tua 6 o wirfoddolwyr, addysgu Saesneg i wirfoddolwyr rhyngwladol o Ewrop a helpu i greu system dyfu fwy cylchol, oedd yn gyfeillgar i fywyd gwyllt.
Roedd y gwaith yn cynnwys pyllau, gwlyptiroedd, hwyaid, compostio a thyfu mewn dolen gaeedig. Daeth â sawl rhan o’i gefndir at ei gilydd: addysgu, garddio ymarferol, cynaliadwyedd a rheoli pobl.
Yn ddiweddarach, newidiodd llwybr ei yrfa eto. Daeth celf, a oedd wedi mynd law yn llaw â’i ddiddordebau amgylcheddol, yn broffesiwn iddo. Symudodd Keegan at gelf cysyniad digidol, gan weithio’n bennaf ym maes gemau am bum neu chwe blynedd. Yn ystod pandemig Covid, tyfodd y diwydiant gemau’n gyflym ac roedd y gwaith yno – ond roedd rhywbeth nad oedd yn teimlo’n iawn iddo bellach.
Dywedodd Keegan: “Roeddwn i’n eistedd yn paentio arfwisg ganoloesol ar gyfer gemau tra’r oedd y byd yn dioddef, doedd o ddim yn teimlo’n iawn.”
Fe wnaeth y sylweddoliad hwnnw ei wthio i brofi ei hun trwy Radd gwyddor yr amgylchedd ym Mhrifysgol Bangor. Mae’n cyfaddef iddo chwilio am rôl lle gallai ei sgiliau gyfrannu at ddatrysiadau, ac roedd y llwybr hwn yn rhoi’r sylfaen dechnegol iddo symud i faes ymchwil. Roedd gwyddor yr amgylchedd yn helpu i roi golwg ehangach iddo, gan ei fod yn canolbwyntio nid yn unig ar amddiffyn natur, ond ar sut gall pobl a’r amgylchedd weithio gyda’i gilydd.
Roedd lleoliad ym maes ymchwil coedwigaeth yn drobwynt mawr i Keegan. Bu’n gweithio fel technegydd ymchwil ar arbrofion newid hinsawdd gyda Birmingham Institute of Forest Research, gan helpu i gasglu a phrosesu data maes a labordy. Eglurodd fod y gwaith yn ‘fanwl’ iawn, roedd profion pridd, profion dŵr, mesur coed a gwreiddiau, casglu a dadansoddi data i gyd yn ei gadw’n brysur.
“Ar un adeg, treuliais fisoedd yn golchi pridd oddi ar wreiddiau derw, eu gwahanu gyda llaw, eu sganio a throsglwyddo'r canlyniadau i’w dadansoddi”, meddai gyda gwên.
Ond darparodd hyn sylfaen gadarn iddo mewn gwaith maes, data a phrosesau arbrofol, sydd wedi helpu gyda’i rôl bresennol fel Swyddog Planhigfa Goed.
Yn ystod ei radd, eglurodd Keegan ei fod wedi canolbwyntio ar wyddorau pridd hefyd a chwblhaodd draethawd hir ar ficroblastigau, gan ddefnyddio safleoedd dolydd blodau gwyllt lleol Sir Ddinbych ei hun fel rhan o’i ymchwil.
Roedd y prosiect yn edrych ar symudiad microblastigau mewn pridd, ochr yn ochr â charbon, lleithder a chywasgiad, mesurau a ddefnyddir i ddeall iechyd pridd a rheoli tir.

Wrth sgwrsio gyda Llais y Sir, mae Keegan yn cyfaddef ei fod yn dal i obeithio cwblhau PhD sy’n canolbwyntio ar ymchwil un diwrnod, ond am rŵan, mae’n credu mai profiad ymarferol yw’r cam nesaf gorau.
Wrth eistedd yn un o dwneli’r blanhigfa, mae’n amlwg bod cefndir gwyddonol Keegan yn helpu i wthio nod y safle i amddiffyn bioamrywiaeth leol, gyda chanlyniadau cadarnhaol ei arbrawf tyfu Aspen wrth ei ochr wrth i’r sgwrs barhau, gyda chelyn y môr yn tyfu yn y cefndir, a gwelyau blodau gwyllt newydd yn ail-lenwi stoc hadau ar stepen drws y blanhigfa.
“Mae wedi bod yn broses ddysgu enfawr,” meddai. “Ond rwyf wedi cael profiad o’r sgiliau oedd eu hangen arnaf. Mae’r manylion yn bwysig mewn ymchwil, ond rwyf hefyd wedi dysgu pa lefel o ddata sydd ei angen arnom yma mewn gwirionedd. Rwyf wedi fy amgylchynu gan dîm gwych sy'n fy arwain ac yn fy nghefnogi ar hyd y ffordd, ac ni fyddwn wedi gallu ymdopi hebddynt."
Cyn i Lais y Sir gloi’r sgwrs, gofynnwn sut mae’n teimlo am rôl y Swyddog Planhigfa Goed a gymerodd yn 2025, a daw gwên arall: “Hon yw’r swydd orau i mi ei chael erioed. Mae’r rhagolygon o ran beth ydym ni’n ei wneud a beth ydym ni’n ceisio ei gyflawni yn y blanhigfa yn anhygoel. Mae pawb ydw i’n siarad gyda nhw yn genfigennus o’r hyn ydw i’n ei wneud.”
Nid yw mynd i’r afael ag effaith materion newid hinsawdd ar y tir yn lleol yn dod heb ei heriau, ond i Keegan, mae hynny’n rhan o’r pwynt.
Meddai: “Mae’r rhan fwyaf o waith newid hinsawdd a gwella natur yn teimlo’n amhosibl…Ond mae’n bwysig ein bod ni’n rhoi cynnig arni.”
Mae’r hyn a ddechreuodd gyda phermaddiwylliant a chwilio am hunanddigonedd wedi tyfu’n yrfa i Keegan, wedi’i adeiladu o gwmpas adferiad, gwytnwch a’r gred bod ceisio cwblhau gwaith amgylcheddol anodd hyd yn oed yn werth ei wneud, ac mae hyn i’w weld yn yr egin gwyrdd cynnydd niferus sy’n ymddangos yn y Blanhigfa Goed.