24/11/2025
Diwrnod y Rhuban Gwyn

Mae Cyngor Sir Dinbych a Hamdden Sir Ddinbych Cyf yn falch o gefnogi Diwrnod y Rhuban Gwyn 2025, y mudiad byd-eang sy'n annog dynion a bechgyn i sefyll yn erbyn trais tuag at fenywod a merched.
Mae thema eleni 'Rydym yn Siarad dros Newid' yn canolbwyntio ar hyrwyddo perthnasoedd iach, herio ymddygiadau niweidiol, a grymuso dynion i siarad allan pan fyddant yn gweld neu'n clywed rhywbeth nad yw'n iawn. Mae'r Cyngor yn ailddatgan ei ymrwymiad i greu cymunedau mwy diogel a meithrin diwylliant o barch ledled Sir Dinbych.
Rydym yn annog pawb i wisgo rhubanau gwyn a gwneud yr Addewid Rhuban Gwyn - i beidio byth â defnyddio, esgusodi, na chadw'n dawel am drais yn erbyn menywod a merched.
Cynhelir Diwrnod y Rhuban Gwyn ddydd Mawrth 25 Tachwedd, a bydd Hamdden Sir Dinbych Cyf yn goleuo eu hadeiladau a'u tirnodau i godi ymwybyddiaeth.


Lluniau a dynnwyd yn 2024 drwy garedigrwydd Hamdden Sir Ddinbych
Dywedodd Jamie Groves, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamdden Sir Dinbych: “Rydym yn falch o oleuo ein hadeiladau ar gyfer Diwrnod y Rhuban Gwyn.
“Gall siarad allan, herio iaith neu ymddygiad, a bod yn gynghreiriad gweithredol wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
“Yma yn Sir Ddinbych, rydym wedi ymrwymo i gefnogi pawb yr effeithir arnynt a gweithio gyda phartneriaid i wneud ein cymunedau’n fwy diogel i bawb.”
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Thomas, Aelod Arweiniol dros Dai a Chymunedau:
“Fel Cyngor, rydym yn falch o gefnogi Diwrnod y Rhuban Gwyn a bydd y neges y mae’n ei chario a gweithio tuag at ddod â cham-drin domestig i ben bob amser yn uchel ar ein hagenda.
“Byddwn yn parhau i weithio ochr yn ochr â Heddlu Gogledd Cymru a’n partneriaid i sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn ein trigolion rhag gorfod byw mewn ofn trais.
“Mae hefyd yn bwysig cofio y gall dynion hefyd brofi cam-drin domestig ac rwy’n annog pawb i ymuno â ni i wneud yr Addewid Rhuban Gwyn a sefyll dros barch, cydraddoldeb a diogelwch.”
Sut i gael cymorth:
- Os ydych chi, eich plentyn neu unrhyw un yn eich teulu mewn perygl uniongyrchol o niwed, dylech gysylltu â’r heddlu ar frys - ffoniwch 999
- Os ydych chi’n ddioddefwr cam-drin domestig, gallwch ffonio Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 8010 800 nawr neu ewch i’r wefan https://llyw.cymru/byw-heb-ofn.
- Mae cymorth ar gael 24/7
#DiwrnodYRhubanGwyn #GwnewchYrAddewid #DimEsgusAmGam-drin