Tachwedd 2025

30/10/2025

Dros 100 o bobl yn mynychu sesiynau pwyso carafanau

Gwelodd y timau safonau masnach o Sir Ddinbych a Chonwy dros 100 o bobl yn eu sesiynau pwyso carafanau a rhoi cyngor am ddim dros yr haf.

Cynhaliwyd pedair sesiwn rhwng mis Mehefin a mis Awst ar y bont bwyso ar yr A525 rhwng Rhuddlan a Llanelwy, roedd y sesiynau’n cynnig cyfle i breswylwyr ac ymwelwyr ddysgu mwy am y peryglon o orlwytho carafanau i’w hunain a defnyddwyr eraill y ffordd.

Yn dilyn cynnydd mewn digwyddiadau traffig yn ymwneud â charafanau teithiol a chartrefi modur ar yr A55, dechreuwyd y prosiect dros chwe blynedd yn ôl ac mae wedi gweld mwy o bobl yn mynychu’r sesiynau o flwyddyn i flwyddyn.

Mae’r sesiynau hyn nid yn unig wedi cael eu defnyddio i rybuddio a hysbysu preswylwyr, ond hefyd i hyfforddi Swyddogion Safonau Masnach Sir Ddinbych a Chonwy.

Dywedodd y Cynghorydd Alan James, Aelod Arweiniol Datblygu Lleol a Chynllunio:

“Yn dilyn llwyddiant sesiynau cyhoeddus tebyg yn y gorffennol, penderfynwyd y byddai’n ddefnyddiol cynnal y sesiynau hyn unwaith eto.

“Roedd yr adborth a gafwyd gan y preswylwyr a’r ymwelwyr a oedd yn bresennol yn y sesiynau am ddim yn gadarnhaol iawn ac mae’n bwysig bod y cyhoedd yn ymwybodol o’r peryglon posibl wrth orlwytho eu carafanau neu faniau gwersylla”.

I gael rhagor o wybodaeth am dîm safonau masnach y cyngor neu i gysylltu â ni, ewch i’n gwefan.

Comments