Fforwm Blynyddol yr AHNE – Twristiaeth Gynaliadwy ac Ymgysylltiad Busnesau
Bob blwyddyn bydd AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy’n cynnal fforwm, a’r thema eleni oedd Twristiaeth Gynaliadwy ac Ymgysylltiad Busnesau.
Wrth gynllunio’r fath ddigwyddiad does dim ond un lle i fynd, sef yn syth at y busnesau eu hunain, yn benodol Grŵp Twristiaeth Bryniau Clwyd, Bwyd a Diod Bryniau Clwyd a Chlwb Bwyd Da Dyffryn Dyfrdwy. Wedi bod yn rhan o sefydliad pob un o’r grwpiau hyn, yn naturiol nhw oedd y busnesau ar ben y rhestr.
Ymunom mewn partneriaeth a’r grŵp twristiaeth a gynhaliodd eu cyfarfod yr hydref rhwng 3-5pm cyn arddangos cynnyrch blasus y cynhyrchwyr bwyd lleol ar ei orau. Roedd y siaradwyr gwadd yn cynnwys:
- Julie Masters a Jane Clough a roddodd gyflwyniad ar ‘Aros, Bwyta a Gwneud’, sef cyfle cyffrous i fusnesau’r ardal ffurfio clystyrau marchnata.
- Peter McDermott, Rheolwr Twristiaeth CSDd, a roddodd ddiweddariad ar Strategaeth Twristiaeth y Sir.
- Anna Bowen, Banc Datblygu Cymru, a siaradodd am gyfleoedd ariannol i fusnesau.
- Sarah Jones, Cadwyn Clwyd, a siaradodd am y prosiect Llwybrau Digidol Gogledd Ddwyrain Cymru arloesol sydd ar waith mewn nifer o gymunedau.
Roedd rhai o uchafbwyntiau’r noson yn cynnwys:
- Cillian Murphy o Gymdeithas Twristiaeth Loop Head, a ysgogodd frwdfrydedd y gynulleidfa gyda’i ddyfyniadau am Dwristiaeth Gynaliadwy, megis “’Nid twristiaeth ynddo’i hun yw'r nod, yn hytrach teclyn ydyw y gallwn ei ddefnyddio i adeiladu cymunedau cynaliadwy” a “Dylid mesur twristiaeth nid yn ôl niferoedd ymwelwyr ond yn ôl ei effeithiolrwydd i greu ffyniant, cyflogaeth, amgylchedd iach a manteision i'r gyrchfan", rhywbeth perthnasol dros ben i’n siaradwyr gwadd nesaf;
- Graham Randles a Rebecca Armstrong o’r Sefydliad Economeg Newydd sydd wedi’u comisiynu gan yr AHNE i wneud gwaith ymchwil i werth rhai o'n safleoedd ‘pot mêl’ megis Parc Gwledig Moel Famau a Rhaeadr y Bedol (bydd y casgliadau’n cael eu cynnwys yn y rhifyn nesaf o County Voice) nid yn unig o safbwynt economaidd ond hefyd o ran iechyd a lles .
Denodd y digwyddiad dros 80 o bobl a thynnodd sylw go iawn at Dwristiaeth Gynaliadwy ym Mryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.
Diolch o galon i bawb a gymerodd ran mewn digwyddiad mor wych - da iawn!
Cafodd y digwyddiad ei gefnogi'n ariannol drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru a’i weinyddu gan Cadwyn Clwyd.