Cyllid ychwanegol ar gael i helpu busnesau i fod ar-lein
Gall cwmnïau sy’n chwilio am weddnewidiad digidol bellach fanteisio ar grant busnes.
Mae cynllun Grant Datblygu Busnes y Cyngor Sir wedi dyfarnu mwy na £71,000 i 17 o gwmnïau Sir Ddinbych ers mis Ebrill y llynedd.
Mae'r grant wedi’i ehangu i gynnig mwy o gefnogaeth ariannol i fusnesau sy'n ceisio manteisio ar dechnoleg ddigidol i helpu i ysgogi arloesedd lleol, gwella cystadleurwydd a helpu i gyrraedd marchnadoedd newydd.
Mae hyn yn golygu cyfleoedd i bob math o fusnesau, gan gynnwys cwmnïau sydd am gymryd archebion ar-lein a gyrru nodau atgoffa awtomatig am apwyntiadau trwy negeseuon testun neu e-byst neu rai sydd am gael systemau rhatach dros y we yn lle hen systemau ffôn.
Dywedodd Rebecca Maxwell, Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol: “Gall hyd yn oed y busnes lleiaf elwa o’r grant hwn.
“Mae gan wefannau manteision masnachu amlwg ac mae mwy o gyllid ar gael i fusnesau lleol yn 2017 i greu eu presenoldeb ar-lein sydd o safon uchel a mentro i werthu ar-lein, hyd yn oed.
“Byddwn yn annog busnesau cymwys y Sir i wneud cais am grant mor fuan â phosib’ gan fod yr arian ar gael ar sail y cyntaf i’r felin.”
Mae posib ariannu hyd at 75 y cant o'r costau a bydd yn rhaid i gynigion ddangos sut y bydd y buddsoddiad yn datblygu'r busnes.
Mae'r cynllun, sy'n ffurfio rhan o Raglen Uchelgais Economaidd a Chymunedol y Cyngor, hefyd yn cynnig arian i fusnesau newydd a rhai sy'n bod eisoes i greu swyddi, gwella cystadleurwydd a chreu economi leol fywiog.
Yn ogystal â chynyddu’r arian ar gyfer elfen ddigidol y cynllun, mae cap y grant wedi’i gynyddu o £5,000 i £10,000 ac mae’r terfyn ar drosiant blynyddol yr ymgeiswyr wedi cynyddu o £250,000 i £500,000.
I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais am Grant Datblygu Busnes gan Gyngor Sir Ddinbych ewch i'n gwefan neu cysylltwch â 01824 706896.