llais y sir

Gwanwyn 2017

Sir Ddinbych yw’r Cyngor cyntaf yng Nghymru i dorri lawr ar fân reolau

Mae masnachwyr yn cefnogi cynllun i dorri lawr ar fân reolau ar gyfer busnesau Sir Ddinbych - y cyntaf o'i fath yng Nghymru.

Mae prosiect Gwell Busnes i Bawb (GBiB) y Cyngor Sir yn dod â busnesau ac adran Gwarchod y Cyhoedd a Chynllunio y Cyngor ynghyd i wella sut mae rheolau’n cael eu darparu i arbed arian ac amser i fusnesau.

Mae’r Cyngor bellach yn cynnig gwell cydlyniant rhwng gwasanaethau fel bod gwasanaeth cyfannol yn cael ei ddarparu i fusnesau yn ystod ymweliadau.

Mae GBiB yn cynnwys iechyd yr amgylchedd, safonau masnach, trwyddedu a chynllunio, ac mae’n darparu un pwynt mynediad syml i fusnesau i gael cyngor am ddim am reoliadau busnes.

Mae GBiB hefyd yn helpu busnesau i gael arian grant ac yn eu cyfeirio at gefnogaeth arall.

Dywedodd Emlyn Jones, Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd: “Mae Gwell Busnes i Bawb yn golygu cael gwared ar y rhwystrau rheoleiddio i dwf - a chodi cystadleurwydd economaidd Sir Ddinbych.

"Mae gwasanaethau rheoleiddio’n chwarae rôl bwysig wrth gefnogi busnesau. Gall y gefnogaeth yma ddarparu mantais economaidd i fusnesau, yr hyder i dyfu a ffynnu a’r sicrwydd eu bod yn bodloni gofynion statudol.

“Rydym yn cefnogi cannoedd o fusnesau bob blwyddyn a drwy wella’r gwasanaeth, gallwn ostwng nifer yr ymweliadau gan reoleiddwyr a'r amser maen nhw'n dreulio ar reoliadau.

“Rydym ni’n credu bod hon yn ffordd effeithiol o gefnogi busnesau, ac ynghyd â nifer o brosiectau dan ein Strategaeth Uchelgais Economaidd a Chymunedol, mae’n helpu busnesau Sir Ddinbych drwy ddatblygu’r economi.”

Dan y cynllun, mae swyddogion y Cyngor wedi cael hyfforddiant i wella eu ymwybyddiaeth o'r pwysau y mae busnesau yn eu wynebu.

Dywedodd Tom Moore o Fecws Henllan, ar Stâd Ddiwydiannol Colomendy yn Ninbych bod cymorth Sir Ddinbych yn amhrisiadwy wrth adeiladu estyniad i’r safle wrth ehangu’r stordy.Red Tape Business Article

Dywedodd: “Bu Cyngor Sir Ddinbych yn ddefnyddiol iawn, iawn. Os ydw i angen siarad â nhw, mae wastad rhywun ar ochr arall y ffôn.

“Mae’n wasanaeth da, cyflym a phroffesiynol. Pan rydym ni'n siarad efo rhywun, maen nhw'n dod i'n gweld ar unwaith. Maen nhw wedi bod yn ffantastig.

“Mae’n fuddiol iawn i’n busnes, mae’n helpu ni i dyfu’n gyflymach gan eu bod bob amser ar gael. Mae’n hawdd iawn cael gafael ar y Cyngor.”

Dywedodd Colin Brew, Siambr Fasnach Gorllewin Sir Caer a Gogledd Cymru:  “Mae Gwell Busnes i Bawb yn fodel arloesol sy’n cynorthwyo i gael gwared ar y rhwystrau rheoleiddio hynny sy’n effeithio ar allu busnesau i dyfu.

“Bydd busnesau lleol yn Sir Ddinbych yn croesawu’r ymagwedd arloesol hon a fydd nid yn unig yn darparu cynnyrch o safon gystadleuol y mae busnesau’n gallu ymddiried ynddo ond hefyd yn gallu amlygu a helpu i gael gwared ar ddefnydd aneffeithiol o adnoddau yn y sir."

Dywedodd Mike Learmond o’r Ffederasiwn y Busnesau Bach:  “Roedd Ffederasiwn y Busnesau Bach yn falch o gefnogi’r cynllun Gwell Busnes i Bawb yn Sir Ddinbych – y cyntaf o’i fath yng Nghymru.  

“Mae rheoliadau’n parhau’n brif bryder i’n haelodau ac mae’n galonogol yr ymgynghorwyd â ni o’r dechrau a’n bod yn gallu bwydo pryderon ein haelodau i’r cynllun.   

“Mae angen rheoliadau, ond mae’n ymwneud â sut y gorfodir  y rheoliad.  Mae busnesau yn adborth bod Sir Ddinbych yn edrych am ffordd gyflymach a gwell i helpu busnesau i arbed amser ac arian.   Rydym yn falch bod Cyngor Sir Ddinbych wedi achub y blaen ar hyn.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n gwefan

 

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...