Gwarchod y Gorffennol, Paratoi ar gyfer y Dyfodol
Mae gwaith i ddiogelu un o’r cynefinoedd mwyaf arbennig yn y sir wedi’i gyflawni gan y Cyngor a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Mae gwelliannau wedi’u gwneud i ran o Lwybr Cenedlaethol Clawdd Offa, sy’n rhedeg drwy Gyrn-y-Brain, ardal fawr o weundir grug gwlyb i’r gogledd o Langollen, sy’n Ardal Gadwraeth Arbennig ac o bwysigrwydd byd-eang.
Mae’r safle'n cynnwys tomen gladdu o'r Oes Efydd, sy'n fwy na 4,000 oed. Mae’r gwaith wedi cynnwys dargyfeirio’r llwybr o amgylch y gladdfa, a disodli’r hen drawstiau pren ar y llwybr gyda slabiau cerrig mwy gwydn, i sicrhau bod yr ardal arbennig hon yn cael ei gwarchod a’i diogelu er mwyn i genedlaethau’r dyfodol ei mwynhau.
Dywedodd David Shiel, Uwch Swyddog Cefn Gwlad Sir Ddinbych: “Rydym yn falch iawn bod y gwaith hwn wedi’i wneud. Mae’r ardal hon yn un o’r safleoedd mwyaf arbennig yn Sir Ddinbych. Mae hanner gweundiroedd gwlyb y byd yn y DU, ac mae’r ardal hon o bwysigrwydd rhyngwladol, felly mae gennym gyfrifoldeb i’w diogelu.
“Bydd y gwaith a wnawn nid yn unig yn helpu i ddiogelu’r gweundir a'r tomen gladdu oes efydd rhag niwed, a'u gwarchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ond mae hefyd yn rhoi llwybr gwell a mwy diogel i gerddwyr i'r ardal."
