llais y sir

Gwanwyn 2017

Y gyflwynwraig Clare Balding yn crwydro yn Sir Ddinbych

Yn ddiweddar bu i’r ddarlledwraig a newyddiadurwraig, Clare Balding gydweithio ag archeolegydd Cyngor Sir Ddinbych i fynd ar fryniau’r sir fel rhan o’i chyfres Radio 4, 'Ramblings’.

Ymunodd y gyflwynwraig radio a theledu â Fiona Gale, archaeolegydd y sir a’i chydweithwyr, David Shiel, uwch swyddog cefn gwlad a Helen Mrowiec, uwch swyddog hamdden Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, i ganfod mwy am fryngaerau Oes Yr Haearn ar hyd Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Dechreuasant eu taith drwy gerdded I Fryngaer Moel Arthur ac at Lwybr Clawdd Offa cyn mynd am Fryngaer Penycloddiau gan drafod gwaith cloddio diweddar a’r olion a adawyd ar y tirlun gan genedlaethau o’r gorffennol.

Dywedodd Fiona: “Roedd Clare yn edmygu’r ardal yn fawr a'r golygfeydd hyfryd a welodd ar ben Bryniau Clwyd. Roedd hi wrth ei bodd gyda’r tirlun ac yn gweld y bryngaerau’n ddiddorol. Pan nad oeddem yn recordio, roeddem yn sgwrsio am bob math o bethau gwahanol, fel y byddech chi wrth fynd am dro gyda rhywun. Roedd hi’n ddynes ddiffuant a neis iawn.”

Dywedodd Fiona mai ei mab a gafodd y syniad o wahodd y rhaglen i ymweld â'r ardal.

Dywedodd: “Cysylltodd â Radio 4 ac awgrymodd iddynt wneud rhaglen ar fryngaerau Ardal o Harddwch Eithriadol. Roeddent yn hoffi’r syniad gan ei fod yn cyd-fynd â’u thema ‘Treftadaeth’, felly dyma nhw'n mynd ymlaen gyda’r syniad! Hefyd, roedd y cynhyrchydd wedi’i fagu yn Llanrhaeadr ac wedi mynd i’r ysgol yn Ninbych!”

Gellir gwrando ar y rhaglen hon drwy dudalen rhaglen Ramblings ar wefan y BBC.

Am fwy o wybodaeth am fryngaerau, rheoli rhostiroedd, hamdden a mynediad o fewn AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, ewch i: http://www.clwydianrangeanddeevalleyaonb.org.uk/addysg/

Clare Balding

 Llun – o’r chwith i’r dde, Helen Mrowiec, Clare Balding, Fiona Gale a David Shiel

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...