Agor pennod newydd yn hanes Llyfrgell a Siop Un Alwad
Mae Llyfrgell a Siop Un Alwad Rhuddlan wedi cyrraedd carreg filltir arbennig yn ei hanes gydag agoriad swyddogol yn dilyn adnewyddiad sylweddol, gan nodi dechrau pennod newydd sbon.
Mae’r cyfleusterau newydd yn darparu hwb cymunedol, gan gynnig pwynt mynediad sengl i nifer o wasanaethau’r Cyngor a lle i’r gymuned ei ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau.
Yn yr adeilad sydd wedi ei adnewyddu mae ystafell gyfrifiadurol newydd y gall pobl wneud cais amdani neu i hysbysu gwasanaethau'r cyngor ar-lein, ciosg arian, cyfleuster i bobl ddychwelyd llyfrau, ystafelloedd cyfarfod newydd gyda chyfleusterau TG modern ac ystafell ymgynghori preifat ar gyfer trafodaethau un i un.
Mae ardal y plant wedi ei foderneiddio’n llwyr ac yn ychwanegol at hyn bydd ardal newydd i bobl ifanc/rhai yn eu harddegau. Bydd yr adeilad hefyd yn darparu ardal gymunedol ar gyfer arddangosfeydd, toiledau cwsmer newydd a wi-fi. Gall prosiectau partner ac asiantaethau fel Cyngor ar Bopeth a Heddlu’r Gogledd gynnal cymorthfeydd yma hefyd.
Dywedodd Liz Grieve, Pennaeth Cyfathrebu, Cwsmeriaid a Marchnata: “Rydym wrth ein bodd gyda’r cyfleusterau newydd sbon yn Llyfrgell a Siop Un Alwad Rhuddlan a hoffem ddiolch i breswylwyr am eu cydweithrediad a’u hamynedd yn ystod y gwaith adnewyddu ac ail-leoli’r cyfleusterau dros dro.
“Mae’r Cyngor yn cydnabod gwerth llyfrgelloedd a siopau un alwad i’r gymuned a dyma pam rydym yn parhau gyda rhaglen o fuddsoddiad ar draws y sir ac yn ymateb i anghenion y gymuned.
“Mae’r hyn rydym wedi ei greu yn gyfleuster modern lle gall pobl ddod i gysylltiad â llawer mwy na llyfrau yn unig. Gall cwsmeriaid ddod i gysylltiad ag amrediad eang o wasanaethau'r cyngor mewn un lleoliad, cyflawni gweithrediadau a hefyd defnyddio’r cyfleusterau fel hwb cymunedol, lle ar gyfer digwyddiadau a chyfarfodydd cymunedol.
