llais y sir

Gwanwyn 2017

Safleoedd treftadaeth gwobrwyol yn paratoi ar gyfer y tymor gwyliau!

Mae tri o atyniadau treftadaeth poblogaidd Sir Ddinbych wedi agor eu drysau ar gyfer tymor gwyliau 2017!

Mae Carchar Rhuthun, Nantclwyd y Dre yn Rhuthun a Phlas Newydd yn Llangollen ar agor i’r cyhoedd ers 1 Ebrill ac mae nifer o ddigwyddiadau cyffrous i’r teulu oll wedi’u trefnu dros y misoedd nesaf.

Mae'n newyddion gwych bod Carchar Rhuthun a Nantclwyd y Dre wedi ennill Gwobr Trysor Cudd Croeso Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol, ac mae Carchar Rhuthun a Phlas Newydd yn amlwg wedi plesio defnyddwyr TripAdvisor gan eu bod wedi ennill 'Tystysgrif Rhagoriaeth', yn dilyn llu o adolygiadau cadarnhaol gan ymwelwyr yn 2016.

Hoffai Gwasanaeth Treftadaeth Sir Ddinbych ddiolch yn fawr i’r holl wirfoddolwyr, gan gynnwys disgyblion Ysgol Tir Morfa yn y Rhyl, sydd wedi helpu i drin y gerddi yn Nantclwyd y Dre a Phlas Newydd dros fisoedd y gaeaf. Mae eu gwaith a’u hymroddiad wedi bod yn werthfawr iawn.

Bydd digwyddiad cyntaf y flwyddyn yn digwydd ym Mhlas Newydd ddydd Sadwrn 18 Mawrth. Mae taith gerdded 'taith y briallu' o amgylch y gerddi gyda’r garddwr cyn i'r tymor ddechrau yn costio £3 ac fe gewch friallen i fynd adref gyda chi.

Bydd Nantclwyd y Dre yn cynnal ei ddigwyddiad cyntaf, sef ‘Helfa Drychfilod’ i’r teulu oll ddydd Llun 8 Mai.

Mae Carchar Rhuthun yn cynnal 'Ar Gamera’ ddydd Iau 1 Mehefin lle bydd cyfle i ymwelwyr greu eu poster ‘YN EISIAU' eu hunain!  Yn y dyddiau cyn agor ym mis Ebrill ac i ddathlu Blwyddyn Chwedlau Cymru, mae’r carchar yn rhannu hanes rhai o'r gymeriadau mwyaf lliwgar trwy flog ar-lein ar https://streaoncarcharrhuthun.wordpress.com.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y lleoliadau a'r digwyddiadau sydd i ddod ar:

www.nantclwydydre.co.uk

www.plasnewyddllangollen.co.uk

www.carcharrhuthun.co.uk

Collage Attractions

Sylwadau

No comments have been left for this article

Dweud eich dweud...