Celfyddydau Cymunedol
Rydym yn falch o gyhoeddi bod cynnig Sir Ddinbych i Comic Relief am grant 2 flynedd ar gyfer Cronfa Her Cartrefi Gofal wedi bod yn llwyddiannus. O ganlyniad, bydd tri o gartrefi gofal Sir Ddinbych yn cael gweithdai rheolaidd gyda NEW Dance a cherddorion o Ganolfan Gerdd William Mathias, wedi’i gydlynu gan Wasanaeth Celfyddydau Sir Ddinbych. Bydd ymarferwyr celfyddydol yn gweithio’n agos gyda staff y cartrefi gofal i’w huwchsgilio ac i adeiladu ar gynaliadwyedd y prosiect. Yn ogystal â chyfranogi ym mhob sesiwn, bydd staff hefyd yn cynnal sesiynau hyfforddi penodol.
Rydym yn rhagweld y prosiect yn helpu i wella iechyd a lles preswylwyr cartrefi gofal, gan leihau’r risg o gwympiadau, i ostwng unigrwydd a chynyddu ymgysylltiad gyda'r gymuned, gan gynnwys ysgolion cynradd lleol a darparwyr trydydd sector, ac i gynyddu hyder y gofalwyr a’r staff yn y cartrefi. Rydym yn edrych ymlaen at gynnwys teuluoedd a gofalwyr, a chael llawer o hwyl yn y broses.
Bu i dri aelod o’r tîm fynychu’r cyfarfod sefydlu ym Mhencadlys Comic Relief yn Llundain, lle cawsant eu cyflwyno i fyd Comic Relief a dysgu sut y byddwn yn gweithio gyda hwy dros gyfnod y grant. Roedd hwn yn gyfle gwych i gyfarfod prosiectau llwyddiannus eraill, i ystyried sut i fesur effaith y prosiect ac i ddysgu sut y bydd Comic Relief yn gwerthuso’r fenter ariannu hon.